Browser does not support script.
Gweld fersiwn hygyrch y ddogfen ryngweithiol
Mae dros 20,000 o ddefnyddwyr wedi cofrestru i gael defnyddio eu hardal bersonol eu hunain ar ein gwefan, sef Fy Nghyfrif. Yma, fe allwch chi reoli eich ceisiadau ar-lein, cael gwybodaeth am ein gwasanaethau a mwy. I gael rhagor o wybodaeth a chofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif Sir y Fflint, cliciwch y botwm isod
Mae gennym ni 124 o wasanaethau ar-lein ac rydym wedi prosesu bron i 200,000 o ffurflenni electronig sy'n bwydo i'n systemau busnes ac yn ein helpu i barhau i wella a darparu gwasanaethau digidol hygyrch sy'n hawdd i'n trigolion eu defnyddio
Wedi'i lansio ym mis Awst 2021, mae'r Canolbwynt Digidol yn hyrwyddo amrediad o fentrau i helpu pobl ddefnyddio technoleg ddigidol. Mae'r rhain yn cynnwys gwybodaeth am sut i ddefnyddio dyfeisiau a chysylltu, adnoddau i gadw pobl yn ddiogel ar lein, hyfforddiant, adnoddau iechyd a lles, digwyddiadau a gweithgareddau digidol a mwy. Cliciwch isod i fynd i'r Canolbwynt Digidol
Rydym wrthi'n gweithio ar wella cyflymderau a chysylltiadau band eang ar gyfer ein trigolion, ein busnesau a'n hymwelwyr, ac yn cymryd rhan yn y rhaglen Rhwydwaith Ffeibr Llawn Lleol (LFFN) a gefnogir gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Bargen Dwf Gogledd Cymru
Rydym wedi sefydlu seilweithiau cyfoes mewn ysgolion sy'n cyrraedd safonau digidol cenedlaethol fel rhan o raglen HWB Llywodraeth Cymru, gan sicrhau eu bod yn diwallu anghenion ysgolion ac yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer dysgwyr Sir y Fflint. Cliciwch i gael gwybod mwy am yr Hwb
Mae’r canlyniadau wedi dod i law ar gyfer yr ymgynghoriad ar ein Strategaeth Ddigidol arfaethedig a hoffem ddiolch i’r 179 o bobl a gymerodd ran.
Mae ein strategaeth ddigidol yn nodi sut y byddwn yn croesawu’r cyfleoedd y mae technolegau digidol, arloesedd a gwybodaeth yn eu cynnig i ni i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau cyhoeddus modern, effeithlon.
Ein cynllun, Sir y Fflint Digidol, sy’n nodi sut y byddwn yn gwella, datblygu a symleiddio ein gwasanaethau, gan gynnig y profiad gorau i bawb. Mae yna 8 prif thema
Galluogi ein cwsmeriaid i ddod o hyd i wybodaeth a defnyddio ein gwasanaethau mewn ffordd gyfleus a hygyrch
Rhoi’r wybodaeth, sgiliau ac adnoddau digidol cywir i’n gweithlu i ddarparu gwasanaethau gwell a mwy syml
Cydweithio ag eraill i helpu ein busnesau, ein trigolion a’n hymwelwyr drwy wella cysylltedd a chyflwyno technolegau newydd
Cydweithio â’n partneriaid i wella a datblygu systemau a thechnolegau digidol fydd yn cysylltu pobl, lleoedd a’r gwasanaethau y maen nhw eu hangen
Sicrhau bod ein data yn ddiogel, yn cael ei ddiogelu ac yn cael ei ddefnyddio i helpu gwella gwasanaethau ar gyfer ein trigolion a’n busnesau
Darparu’r strwythur digidol angenrheidiol i helpu darparu ein gwasanaethau ac i sicrhau bod Sir y Fflint Digidol yn digwydd
Helpu ein trigolion drwy ddatblygu gwasanaethau digidol hygyrch, a darparu adnoddau a chyfleoedd dysgu iddyn nhw allu ymgysylltu â’r byd digidol yn hyderus ac yn ddiogel
Helpu ein trigolion a’n dysgwyr o bob oed i fod yn gymwys, yn hyderus a gallu ymgysylltu â’r byd digidol o’u cwmpas