Alert Section

Hygyrchedd yn yr Orsaf Bleidleisio

Byddwn ni'n cymryd pob cam rhesymol i gefnogi pleidleiswyr ag anableddau hefyd i wella amrywiaeth ac ansawdd y cymorth.

Byddwn ni’n cymryd pob cam rhesymol i gefnogi pleidleiswyr ag anableddau hefyd i wella amrywiaeth ac ansawdd y cymorth.

Dyma rai o’r ffyrdd yr ydym ni’n gwneud hyn:

  • Bwth pleidleisio ar lefel wahanol i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn.
  • Fersiynau print bras o bapurau pleidleisio i’w gweld.
  • Dyfais Bleidleisio Gyffyrddol, i alluogi pleidleiswyr dall i farcio eu papurau pleidleisio’n annibynnol.
  • Dyfais Chwyddo Papurau Pleidleisio, i alluogi etholwr i chwyddo unrhyw ran o’r papur pleidleisio.
  • Gripiau pensil i’w rhoi ar binnau ysgrifennu neu bensiliau wrth farcio’r papur pleidleisio.
  • Staff cyfeillgar sy’n barod i helpu yn yr orsaf bleidleisio a fydd yn gwneud addasiadau rhesymol lle bo’n bosibl.
  • Sedd i chi ei defnyddio os oes angen.
  • Gellir defnyddio arwyddion ychwanegol hefyd i roi cyfarwyddiadau clir y tu allan a / neu’r tu mewn i’r adeilad.
  • Mannau parcio i bobl anabl lle bo’n bosibl.
  • Digon o olau y tu mewn a’r tu allan i’r orsaf.

Rhagor o gefnogaeth yn yr orsaf bleidleisio

  • Os ydych chi’n bleidleisiwr/bleidleiswraig ag anabledd neu fod angen cefnogaeth ychwanegol arnoch i lenwi papur pleidleisio ar eich pen eich hun, gallwch fynd â ffrind neu berthynas i’r orsaf i’ch helpu. Rhaid iddynt fod yn 18 oed neu'n hŷn
  • Gallwch ofyn i’r Swyddog Llywyddu am gymorth hefyd os oes angen. Mae hyn yn cynnwys gofyn i’r Swyddog Llywyddu farcio’r papur pleidleisio ar eich rhan. Bydd angen i’r Swyddog Llywyddu lenwi ffurflen i nodi eu bod wedi eich cynorthwyo chi i bleidleisio.
  • Gallwch ddefnyddio unrhyw ddyfeisiau neu Apiau arbenigol yn yr orsaf bleidleisio i’ch cynorthwyo chi i fwrw eich pleidlais yn annibynnol. Er enghraifft, apiau lleferydd, dyfeisiau chwyddo â tors i’ch cynorthwyo i ddarllen y papur pleidleisio.
  • Gallwch ddod â’ch pensil neu bin ysgrifennu eich hunain os hoffech.

Ffyrdd o bleidleisio

Os nad ydych chi’n dymuno mynd i’r orsaf bleidleisio i bleidleisio, gallwch bleidleisio trwy’r post neu trwy ddirprwy (sef pan fyddwch chi’n enwebu rhywun i bleidleisio ar eich rhan yn eich gorsaf bleidleisio).

Mae canllawiau a ffurflenni cais ar gyfer pleidleisio trwy’r post a phleidleisio trwy ddirprwy ar gael i’w lawrlwytho o wefan y Comisiwn Etholiadol neu trwy gysylltu â’r Gwasanaethau Etholiadol ar 01352 702412.

Gofyn am ragor o gefnogaeth

Os ydych chi’n unigolyn anabl sy’n pleidleisio a bod angen cefnogaeth ychwanegol arnoch nad yw wedi’i restru yma, gallwch gysylltu â ni i weld sut allwn ni eich helpu chi.

Cysylltwch â ni dros e-bost register@siryfflint.gov.uk neu dros y ffôn ar 01352 702412 i ofyn am unrhyw gefnogaeth ychwanegol.

Rhagor o wybodaeth i bleidleiswyr anabl

Mae gan Mencap ganllawiau pleidleisio i helpu pobl ag anabledd dysgu i ddeall pleidleisio a gwleidyddiaeth yn well.

Mae gan Gov.uk wybodaeth i helpu pobl ag anabledd dysgu a’u gweithwyr cefnogi i ddeall beth yw pleidleisio, pam mae mor bwysig, a sut gallwch chi bleidleisio.

Mae United Response yn elusen anabledd genedlaethol ac maen nhw wedi paratoi gwybodaeth benodol am y broses bleidleisio.

Mae Speak Up yn sefydliad sy’n cefnogi a grymuso pobl ag anawsterau dysgu, anableddau a phroblemau iechyd meddwl i siarad drostynt eu hunain. Maen nhw wedi creu gwefan â’r nod o godi ymwybyddiaeth trwy gefnogi ac annog pobl ag anableddau dysgu i gael gwell dealltwriaeth o’r broses bleidleisio, i fod yn ddinasyddion gweithredol ac i gofrestru i bleidleisio.

Mae Royal National Institute of Blind People (RNIB) yn un o elusennau colli golwg amlycaf y DU, ac maent yn cynnig help a chefnogaeth i bobl ddall a rhannol ddall.