Treuliau Etholiad
‘Mae ‘treuliau etholiad’ yn golygu'r arian sydd ar ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol ei angen i brynu eitemau a gwasanaethau yn ystod ymgyrch etholiad.
Sut mae treuliau etholiad yn cael eu rheoleiddio?
Mae yna derfynau llym, wedi eu pennu dan gyfraith, ar faint y gall ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol ei wario yn ystod etholiad.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno Datganiad a Ffurflen Dreuliau o fewn cyfnod penodol, p’un ai ydyn nhw wedi eu hethol ai peidio. Hyd yn oed os na fu iddyn nhw wario ceiniog, mae’n rhaid iddyn nhw gyflwyno ffurflen heb drafodion ynghyd â’r datganiad. Bydd y datganiad a’r ffurflen dreuliau yn cael ei gyflwyno i’r Swyddog Canlyniadau, sef y person sy’n gyfrifol am ymdrin ag etholiadau. Swyddog Canlyniadau Sir y Fflint yw Neal Cockerton, y Prif Weithredwr.
Mae modd i’r cyhoedd archwilio datganiadau a ffurflenni treuliau o fewn y cyfnodau isod:
- Etholiad Seneddol y DU: 2 flynedd
- Etholiad Senedd Cymru: blwyddyn
- Llywodraeth Lleol – Etholiadau Sirol: 2 flynedd
- Llywodraeth Leol – Etholiadau Tref a Chymuned : blwyddyn
Sut ydw i’n cael mwy o wybodaeth?
Mae modd archwilio dogfennau yn ymwneud ag etholiadau Sir y Fflint yn y Swyddfa Etholiadol yn Neuadd y Sir, Rhuthun o fewn y cyfnodau uchod. Mae modd derbyn copi am ffi (sydd ar hyn o bryd yn 20c yr ochr). Os hoffech chi archwilio’r dogfennau hyn, cysylltwch â ni ar 01352 702329 i wneud apwyntiad.
Gallwch hefyd ofyn am wybodaeth benodol drwy wneud cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.