Alert Section

Trefniadau Etholiadol Sir y Fflint


Yn dilyn yr Adolygiad o Ddemocratiaeth Leol a Chomisiwn Ffiniau Sir y Fflint, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y Gorchymyn canlynol sydd bellach mewn grym. Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol)(Rhif 2) 2021.

Bydd y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud:

  • lleihau’r nifer o Gynghorwyr o 70 i 67
  • lleihau’r nifer o wardiau o 57 i 45
  • Ward Argoed a New Brighton – mae hwn yn gyfuniad o’r wardiau Argoed a New Brighton blaenorol a dim gostyngiad yn y nifer o Gynghorwyr
  • Ward Bagillt – mae hwn yn gyfuniad o’r wardiau Dwyrain Bagillt a Gorllewin Bagillt blaenorol gyda gostyngiad yn y nifer o Gynghorwyr.
  • Ward Brynffordd a Helygain – mae hwn yn gyfuniad o wardiau blaenorol Brynffordd a Helygain a dim gostyngiad yn y nifer o Gynghorwyr
  • Bwcle: Ward Dwyrain Bistre – eiddo wedi symud o ward Bwcle Pentrobin a dim gostyngiad yn y nifer o Gynghorwyr
  • Bwcle: Ward Pentrobin – eiddo wedi symud o ward Mynydd Bwcle a dim gostyngiad yn y nifer o Gynghorwyr. Bydd ward Mynydd Bwcle yn parhau i gael ei gynrychioli gan 1 Cynghorydd.
  • Ward Canol Cei Connah – eiddo wedi’u symud o wardiau Golftyn Cei Connah a De Cei Connah a dim gostyngiad yn y nifer o Gynghorwyr.  Bydd Cei Connah: Wardiau Golftyn a De Cei Connah yn parhau i gael eu cynrychioli gan 2 Gynghorydd.
  • Y Fflint: Ward Y Castell – mae eiddo wedi’u symud o ward Y Fflint Oakenholt a dim gostyngiad yn y nifer o Gynghorwyr
  • Y Fflint: Ward Cynswllt a Threlawny – mae eiddo wedi’u symud o ward Y Fflint Oakenholt i’r Fflint Coleshill ac mae wardiau’r Fflint Coleshill a’r Fflint Trelawny wedi eu cyfuno. Mae’r nifer o Gynghorwyr wedi gostwng o 4 i 3.  Bydd Y Fflint: ward Oakenholt yn parhau i gael ei gynrychioli gan 1 Cynghorydd.
  • Ward Y Waun a Gwernymynydd – mae hwn yn gyfuniad o wardiau blaenorol Gwernaffield a Gwernymynydd heb ostyngiad yn y nifer o Gynghorwyr.
  • Penarlâg: Ward Aston – mae eiddo wedi’i symud o ward Penarlâg.  Ni fydd ward Penarlâg yn bodoli mwyach. Bydd 2 Gynghorydd yn cynrychioli’r ward newydd. 
  • Penarlâg: Ward Mancot – mae eiddo wedi’u symud o ward Penarlâg.  Ni fydd ward Penarlâg yn bodoli mwyach. Bydd 2 Gynghorydd yn cynrychioli’r ward newydd. 
  • Ward Llanasa a Threlawnyd – cyfuniad o’r wardiau blaenorol Ffynongroyw, Gronant a Thelawnyd a Gwaenysgor. Mae’r nifer o Gynghorwyr wedi gostwng o 3 i 2.
  • Ward Dwyrain Yr Wyddgrug – eiddo wedi symud o ward Gorllewin Yr Wyddgrug a dim gostyngiad yn y nifer o Gynghorwyr
  • Ward De'r Wyddgrug – eiddo wedi symud o ward Broncoed Yr Wyddgrug a dim gostyngiad yn y nifer o Gynghorwyr Bydd ward Yr Wyddgrug: Broncoed yn parhau i gael ei gynrychioli gan 1 Cynghorydd.
  • Ward Gorllewin Yr Wyddgrug – eiddo wedi symud o ward De Yr Wyddgrug a dim gostyngiad yn y nifer o Gynghorwyr  
  • Ward Llaneurgain – mae hwn yn gyfuniad o wardiau blaenorol Llaneurgain a Northop Hall a dim gostyngiad yn y nifer o Gynghorwyr
  • Ward Queensferry a Sealand – mae hwn yn gyfuniad o wardiau blaenorol Queensferry a Sealand a dim gostyngiad yn y nifer o Gynghorwyr
  • Ward Saltney Ferry – mae hwn yn gyfuniad o wardiau blaenorol Saltney Cyffordd Yr Wyddgrug a Saltney Stonebridge a dim gostyngiad yn y nifer o Gynghorwyr.
  • Ward Dwyrain Shotton a Shotton Uchaf – mae hwn yn gyfuniad o wardiau blaenorol Dwyrain Shotton a Shotton Uchaf a dim gostyngiad yn y nifer o Gynghorwyr

Ni dderbyniwyd yr argymhellion canlynol gan Lywodraeth Cymru.

  • cyfuno wardiau Caergwrle, Llanfynydd a Threuddyn
  • cyfuno wardiau Higher Kinnerton a’r Hôb

Ni fydd 21 o wardiau presennol yn gweld unrhyw newid o dan y diwygiadau hyn.

Bydd wardiau etholiadol Sir y Fflint, o fis Mai 2022 fel a ganlyn:

Ward Etholiadol a Nifer o Gynghorwyr

Argoed a New Brighton - 2

Bagillt - 2

Gogledd-ddwyrain Brychdyn - 1

De Brychdyn - 2

Brynffordd a Helygain - 2

Bwcle: Dwyrain Bistre - 2

Bwcle: Gorllewin Bistre - 2

Bwcle: Mynydd - 1

Bwcle: Pentrobin - 2

Caergwrle - 1

Caerwys - 1

Cilcain - 1

Canol Cei Connah - 2

Cei Connah: Golftyn - 2

De Cei Connah - 2

Cei Connah: Gwepra - 1

Y Fflint: Y Castell - 1

Y Fflint: Cynswllt a Threlawny - 3

Y Fflint: Oakenholt - 1

Maes glas - 1

Y Waun a Gwernymynydd - 2

Penarlâg: Aston - 2

Penarlâg: Ewloe - 2

Penarlâg: Mancot - 2

Kinnerton Uchaf - 1

Canol Treffynnon - 1

Dwyrain Treffynnon - 1

Gorllewin Treffynnon - 1

Yr Hôb - 1

Coed-llai - 1

Llanasa a Threlawnyd - 2

Llanfynydd - 1

Yr Wyddgrug: Broncoed - 1

Dwyrain yr Wyddgrug - 1

De'r Wyddgrug - 1

Gorllewin yr Wyddgrug - 1

Mostyn - 1

Llaneurgain - 2

Pen-y-ffordd - 2

Queensferry a Sealand - 2

Saltney Ferry - 2

Dwyrain Shotton a Shotton Uchaf - 2

Gorllewin Shotton - 1

Treuddyn - 1

Chwitffordd - 1

Bydd y cerdyn pleidleisio fyddwch yn ei dderbyn ar gyfer yr etholiad hwn yn cynnwys enw eich ward etholiadol a’r orsaf bleidleisio, ble byddwch yn pleidleisio.

Bydd dolen i fapiau ward Sirol yn ymddangos yma’n fuan.