Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Addewid Ymgyrch Deg

Published: 17/02/2022

Gofynnir i bob ymgeisydd sy’n sefyll yn etholiadau llywodraeth leol ym Mai i wneud Addewid Ymgyrch Deg os cymeradwyir cynigion yng nghyfarfod nesaf y Cyngor llawn ar 24 Chwefror 2022.  

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Addysg:

“Mae gennym oll yr hawl i gyflawni ein dyletswyddau dinesig heb ofni cael ein cam-drin.  Rwy’n falch o fod yn un o’r 22 o Arweinwyr Cynghorau yng Nghymru sy’n galw am ddileu camdriniaeth, codi ofn ac aflonyddu o unrhyw fath.  

"Rwy’n galw ar bob aelod etholedig ac ymgeiswyr newydd wrth nesáu at yr etholiadau llywodraeth leol ym Mai i ymrwymo i ymgyrch etholiad teg a pharchus.

"Dylai gwleidyddiaeth ganolbwyntio ar ffeithiau a thrafodaeth barchus ynghylch gwahanol bolisïau neu flaenoriaethau.  Mae etholiadau lleol yn ymwneud â phobl sydd eisiau cyfrannu ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymunedau.

"Yn anffodus, wrth agosáu at yr etholiadau llywodraeth leol gwelwn gynnydd mewn ymddygiad annerbyniol sy'n tanseilio ymgysylltiad a thrafodaeth ddemocrataidd.  Gofynnaf i bawb sy’n gysylltiedig ag etholiad mis Mai i addo cymryd rhan mewn ymgyrch etholiad teg sy'n seiliedig ar ymgyrchu a theilyngdod cadarnhaol, yn hytrach nag ymosodiadau personol a sylwadau dirmygus yn erbyn unigolion."

Cyhoeddwyd y datganiad ar y cyd ar ran Arweinwyr Cynghorau yng Nghymru gan Fwrdd Gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy’n gofyn i bawb fod yn glên a theg ym mhopeth a ddywedant ac a wnânt.