Alert Section

Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd - Dydd Iau 2 Mai 2024

Cynhelir etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ddydd Iau, 2 Mai.

Mae ardal Heddlu Gogledd Cymru yn cynnwys 6 Chyngor Sir/ Bwrdeistref Sirol, sydd â Swyddogion Canlyniadau Lleol sy’n gyfrifol am drefnu a chynnal y bleidlais ar gyfer yr etholwyr yn eu hardal. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd y Cynghorau canlynol:

  • Cyngor Sir Ynys Môn
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Cyngor Sir y Fflint
  • Cyngor Gwynedd
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Swyddog Canlyniadau Lleol Sir y Fflint yw Neal Cockerton.

Hysbysiad o Etholiad - Ethol Comisiynydd Heddlu a Throseddu Ar Gyfer Ardal Heddlu Gogledd Cymru

Hysbysiad o Bleidlais - Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: Ardal Heddlu Gogledd Cymru 2024

Lleoliad Gorsafoedd Pleidleisio 2024

Rôl Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd

Caiff Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd eu hethol gan y cyhoedd i ddal y Prif Gwnstabl a’r Heddlu i gyfrif, er mwyn sicrhau bod yr Heddlu’n atebol i’r cymunedau a wasanaethir ganddynt. Maent yn gweithio mewn partneriaeth ar draws ystod o asiantaethau, yn lleol a chenedlaethol, er mwyn sicrhau bod dull unedig ar gyfer atal a lleihau trosedd. 

Y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu

Mae’r ‘Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu’ yn gyfrifol am ymdrin ag ymgeiswyr ac asiantiaid, cynnal y bleidlais, casglu’r canlyniadau llawn ar draws ardal Heddlu Gogledd Cymru a datgan y canlyniad. Mae Ian Bancroft, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, wedi’i benodi yn Swyddog Canlyniadau ar gyfer Ardal Heddlu Gogledd Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth ar https://www.wrecsam.gov.uk/service/etholiadau-presennol-swyddi/etholiad-comisiynydd-yr-heddlu-throsedd-2-mai-2024

Dyddiadau pwysig

Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw dydd Mawrth 16 Ebrill (Hanner Nos). 

Cofrestru i bleidleisio ar-lein

Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy'r post yw 5pm ddydd Mercher, 17 Ebrill. 

Gwneud cais am bleidlais drwy’r post ar-lein

Y dyddiad cau i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr (os nad oes gennych chi gerdyn adnabod addas) yw 5pm ddydd Mercher, 24 Ebrill. 

Gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar-lein

Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm, ddydd Mercher 24 Ebrill. 

Gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar-lein

RHEOLAU NEWYDD AR GYFER YR ETHOLIAD HWN 

Prawf Adnabod i Bleidleisio

Er mwyn cael pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn yr etholiad hwn, bydd angen i bleidleiswyr ddangos prawf adnabod â llun. Bydd hyn yn effeithio ar bawb sy’n pleidleisio eu hunain neu’n pleidleisio drwy ddirprwy.

Rheolau ymdrin â phleidleisiau post

Bydd eich pleidlais drwy’r post yn cael ei gwrthod os na chaiff ei dychwelyd yn y modd cywir.

  • Y ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus i chi ddychwelyd eich pleidlais drwy’r post yw trwy ei phostio yn un o flychau postio’r Post Brenhinol, gan ddefnyddio’r amlen barod a ddarperir (amlen B).
  • Cofiwch adael digon o amser i’ch pleidlais drwy’r post ein cyrraedd ni. Mae’n rhaid iddynt gyrraedd y Swyddog Canlyniadau Lleol cyn 10pm ar ddiwrnod y bleidlais.
  • Os ydych chi’n dychwelyd eich pleidlais bost â llaw, er enghraifft i orsaf bleidleisio neu Neuadd y Sir, yr Wyddgrug (mae’r cyfeiriad ar amlen B), mae nawr angen i chi lenwi ffurflen. Bydd ein haelodau staff yn eich helpu chi gyda hyn.
  • Gallwch ddychwelyd eich pleidlais bost eich hun a hyd at 5 o rai eraill fesul etholiad (cyfanswm o 6).
  • Os ydych chi’n ymgyrchydd gwleidyddol, dim ond eich pleidlais bost eich hun y gallwch ei dychwelyd, a phleidleisiau post unrhyw berthnasau agos neu unigolyn rydych chi’n gofalu amdanynt yn rheolaidd.
  • PEIDIWCH â gadael eich pleidlais bost mewn unrhyw flychau postio yn Swyddfa’r Cyngor, swyddfeydd eraill y Cyngor na swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru i bleidleisio, gwneud cais am bleidlais drwy’r post neu bleidlais drwy ddirprwy, a sut i bleidleisio (yn cynnwys gwybodaeth am brawf adnabod i bleidleisio) ar gael ar y dudalen etholiadau a chofrestru etholiadol