Alert Section

Etholiad Senedd y DU - Dydd Iau, 4 Gorffennaf 2024

Etholaethau Alun a Glannau Dyfrdwy a Dwyrain Clwyd

Bydd ethol Aelod o Senedd y DU yn cael ei gynnal ddydd Iau 4 Gorffennaf ar gyfer yr Etholaethau uchod. 

Mae Etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy yn cynnwys y wardiau etholiadol canlynol:

Bagillt, Gogledd-ddwyrain Brychdyn, De Brychdyn, Bwcle: Dwyrain Bistre, Bwcle: Gorllewin Bistre, Bwcle: Mynydd, Bwcle: Pentrobin, Caergwrle, Canol Cei Connah,  Cei Connah: Golftyn, De Cei Connah, Cei Connah: Gwepra, Y Fflint: Y Castell, Y Fflint: Cynswllt a Threlawny, Y Fflint: Oakenholt, Penarlâg: Aston, Penarlâg: Ewloe, Penarlâg: Mancot, Kinnerton Uchaf, Yr Hôb, Llanfynydd, Pen-y-ffordd, Queensferry a Sealand, Saltney Ferry, Dwyrain Shotton a Shotton Uchaf, Gorllewin Shotton a Treuddyn.

Mae Etholaeth Dwyrain Clwyd yn cynnwys y wardiau etholiadol canlynol:

Sir y Fflint – Argoed a New Brighton, Brynfford a Helygain, Caerwys, Cilcain, Maes glas, Y Waun a Gwernymynydd, Canol Treffynnon, Dwyrain Treffynnon, Gorllewin Treffynnon, Coed-llai, Llanasa a Threlawnyd, Yr Wyddgrug: Broncoed, Dwyrain yr Wyddgrug, De’r Wyddgrug, Gorllewin yr Wyddgrug, Mostyn, Llaneurgain a Chwitffordd

Sir ddinbych – Dyserth, Llanarmon-yn-Ial/Llandegla, Llanbedr Dyffryn Clwyd/Llangynhafal, Llandyrnog, Llanfair Dyffryn Clwyd/Gwyddelwern, Llangollen, Canol Prestatyn, Dwyrain Prestatyn, Prestatyn Alltmelyd, Gogledd, De-orllewin South West, Rhuthun a Tremeirchion

Wrecsam - Llangollen Wledig

Map o’r etholaethau newydd

Y Swyddog Canlyniadau Gweithredol yw Neal Cockerton

Alun a Glannau Dyfrdwy

Hysbysiad Etholiad - Etholiad Senedd y DU - Etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy

Datganiad am y Personau a Enwebwyd a Rhybudd Pleidleisio - Alun a Glannau Dyfrdwy

Lleoliad Gorsafoedd Pleidleisio - Alun a Glannau Dyfrdwy

Rhybudd Enwau Asiantwyr Etholiadol A'l Swyddfeydd - Alun a Glannau Dyfrdwy

Dwyrain Clwyd

Hysbysiad Etholiad - Etholiad Senedd y DU - Etholaeth Dwyrain Clwyd

Datganiad am y Personau a Enwebwyd a Rhybudd Pleidleisio - Dwyrain Clwyd

Lleoliad Gorsafoedd Pleidleisio - Dwyrain Clwyd

Rhybudd Enwau Asiantwyr Etholiadol A'l Swyddfeydd - Dwyrain Clwyd

Dyddiadau pwysig

Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw dydd Mawrth 18 Mehefin (Hanner Nos). 

Cofrestru i bleidleisio ar-lein

Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy'r post yw 5pm ddydd Mercher 19 Mehefin.

Gwneud cais am bleidlais drwy’r post ar-lein

Y dyddiad cau i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr (os nad oes gennych chi gerdyn adnabod addas) yw 5pm ddydd Mercher 26 Mehefin. 

Gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar-lein

Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm, ddydd Mercher 26 Mehefin. 

Gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar-lein

RHEOLAU NEWYDD AR GYFER YR ETHOLIAD HWN

Prawf Adnabod i Bleidleisio

Er mwyn cael pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn yr etholiad hwn, bydd angen i bleidleiswyr ddangos prawf adnabod â llun. Bydd hyn yn effeithio ar bawb sy’n pleidleisio eu hunain neu’n pleidleisio drwy ddirprwy. 

Rheolau ymdrin â phleidleisiau post 

Bydd eich pleidlais drwy’r post yn cael ei gwrthod os na chaiff ei dychwelyd yn y modd cywir.

  • Y ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus i chi ddychwelyd eich pleidlais drwy’r post yw trwy ei phostio yn un o flychau postio’r Post Brenhinol, gan ddefnyddio’r amlen barod a ddarperir (amlen B).
  • Cofiwch adael digon o amser i’ch pleidlais drwy’r post ein cyrraedd ni. Mae’n rhaid iddynt gyrraedd y Swyddog Canlyniadau Lleol cyn 10pm ar ddiwrnod y bleidlais.
  • Os ydych chi’n dychwelyd eich pleidlais bost â llaw, er enghraifft i orsaf bleidleisio neu Neuadd y Sir, yr Wyddgrug (mae’r cyfeiriad ar amlen B), mae nawr angen i chi lenwi ffurflen. Bydd ein haelodau staff yn eich helpu chi gyda hyn.
  • Gallwch ddychwelyd eich pleidlais bost eich hun a hyd at 5 o rai eraill fesul etholiad (cyfanswm o 6).
  • Os ydych chi’n ymgyrchydd gwleidyddol, dim ond eich pleidlais bost eich hun y gallwch ei dychwelyd, a phleidleisiau post unrhyw berthnasau agos neu unigolyn rydych chi’n gofalu amdanynt yn rheolaidd.
  • PEIDIWCH â gadael eich pleidlais bost mewn unrhyw flychau postio yn Swyddfa’r Cyngor, swyddfeydd eraill y Cyngor na swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu. 

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru i bleidleisio, gwneud cais am bleidlais drwy’r post neu bleidlais drwy ddirprwy, a sut i bleidleisio (yn cynnwys gwybodaeth am brawf adnabod i bleidleisio) ar gael ar y dudalen etholiadau a chofrestru etholiadol.