Alert Section

Pleidleisio drwy'r post

Yn hytrach na mynd i'ch gorsaf bleidleisio fe allwch wneud cais i bleidleisio drwy'r post.

Gallwch ymgeisio am bleidlais drwy’r post os ydych ar eich gwyliau neu oherwydd bod eich patrwm gwaith yn golygu na allwch gyrraedd gorsaf bleidleisio. Gallwch hefyd ddewis i bleidleisio drwy’r post oherwydd y byddai’n fwy cyfleus i chi. Gellir anfon y bleidlais drwy’r post i unrhyw gyfeiriad, hyd yn oed dramor, ond cadwch mewn cof fod rhaid i’ch papur pleidleisio gael ei ddychwelyd i ni cyn 10.00pm ar ddiwrnod yr etholiad. Nid oes angen prawf adnabod â llun arnoch i bleidleisio drwy’r post.

Lawrlwythwch y ffurflen gais i gael pleidlais driwyr post ar wefan y comisiwn etholiadol

Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen hon bydd angen i chi ei hargraffu a’i dychwelyd atom i’r cyfeiriad canlynol: 

Gwasanaethau Etholiadol,
Cyngor Sir y Fflint,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug
CH7 6NR

Os nad oes gennych beiriant argraffu, yna gallwch e-bostio cofrestr@siryfflint.gov.uk i ofyn i ni bostio ffurflen gais atoch.

Gallwch lenwi a dychwelyd y ffurflen hon ar unrhyw adeg, ond y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen gais yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.

Byddwch angen llenwi ffurflen gais newydd ar gyfer pleidleisio drwy’r post os ydych wedi symud tŷ neu wedi newid eich enw.  

Peidiwch ag anghofio sicrhau eich bod wedi cofrestru i bleidleisio ac os na allwch ymgeisio ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

Byddwch yn derbyn pecyn pleidleisio drwy’r post cyn diwrnod y bleidlais.  

Darganfod mwy am bleidleisio drwy’r post

Deddf Etholiadau 2022 - Newidiadau y byddwch yn eu gweld i bleidleisio drwy’r post

Mae gennych y dewis i wneud cais am bleidlais drwy'r post ar gyfer etholiadau Seneddol ac etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd YN UNIG drwy system ar-lein newydd llywodraeth ganolog https://www.gov.uk/gwneud-cais-pleidlais-drwyr-post

Bydd yn rhaid i etholwyr sy’n gwneud cais am bleidlais drwy’r post ar gyfer y ddau fath hyn o etholiad gadarnhau eu hunaniaeth gan ddefnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau, a hynny wrth wneud cais ar-lein ond hefyd wrth lenwi cais papur.

Bydd eich cais ar gyfer y ddau fath hyn o etholiad yn para am gyfnod o hyd at dair blynedd.  Bydd angen i chi wneud cais newydd erbyn y trydydd 31 Ionawr ar ôl i'ch cais gael ei ganiatáu. Bydd hysbysiad yn rhoi gwybod i chi am yr angen i gyflwyno cais newydd yn cael ei anfon cyn hyn ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

Mewn etholiad Seneddol neu etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, bydd terfyn hefyd ar faint o bleidleisiau drwy'r post y caiff etholwr eu cyflwyno mewn unrhyw orsaf bleidleisio neu adeilad cyngor. Byddwch yn cael cyflwyno eich pleidlais eich hun, a hyd at bump arall.

Yn y ddau fath hyn o etholiad, bydd pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yn cael eu gwahardd rhag ymdrin â phecynnau pleidleisio drwy'r post ar ran etholwyr oni bai eu bod yn cyflwyno eu pleidlais eu hunain, pleidlais perthynas agos neu rywun y maent yn darparu gofal rheolaidd ar eu cyfer neu y darperir gofal rheolaidd gan sefydliad sy'n eu cyflogi neu'n eu defnyddio.

Yn achos etholiadau'r Senedd a Llywodraeth Leol ni fyddwch yn gallu gwneud cais ar-lein am bleidlais drwy'r post ond bydd yn rhaid i chi lenwi cais papur. Gallwch ofyn am un o'r ffurflenni hyn gan eich swyddfa etholiadau neu fynd ar-lein i lawrlwytho'r ffurflen hon o wefan y Comisiwn Etholiadol.  Nid oes angen cadarnhau gyda phrawf adnabod ar gyfer y ddau fath hyn o etholiad.

Gall eich cais am y ddau fath hyn o etholiad bara am gyfnod amhenodol ar yr amod eich bod yn parhau i adnewyddu eich llofnod bob pum mlynedd.  Bydd cais i adnewyddu eich llofnod yn cael ei anfon atoch gan y swyddfa etholiadau ar yr adeg ofynnol.

Ar gyfer etholwyr sydd â threfniant pleidlais drwy’r post mewn grym cyn 31 Hydref 2023 - nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall. Bydd y swyddfa etholiadau yn cysylltu â chi pan fydd angen i chi adnewyddu eich pleidleisiau drwy'r post ar gyfer pob math o etholiad.  

Pryd wnaeth y newidiadau ddod i rym?

Disgwylir i'r broses gwneud cais bob tair blynedd i bleidleiswyr drwy'r post sy'n gwneud cais ar gyfer Etholiadau Seneddol ac Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd ddechrau ar 31 Hydref 2023.  Ni fydd angen i etholwyr sydd â threfniant pleidlais drwy'r post presennol ar waith cyn i'r newidiadau ddod i rym wneud unrhyw beth tan 31 Ionawr 2026, fodd bynnag bydd y Tîm Etholiadau yn cysylltu â chi cyn y dyddiad hwn ynghylch y trefniadau pontio.

Disgwylir i'r rheolau ynghylch cyfrinachedd a phwy sy'n cael ymdrin â phleidleisiau drwy'r post ar gyfer y mathau uchod o etholiad fod mewn grym ar gyfer etholiadau sy'n cael eu cynnal ar 2 Mai 2024 neu ar ôl hynny.

Dechreuodd ceisiadau pleidleisio absennol ar-lein a gorfod gwneud cais ar wahân ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol ar 31 Hydref 2023.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â newidiadau i bleidleisio drwy’r post