Alert Section

Pleidleisio drwy ddirprwy

Os nad ydych yn gallu mynd i'r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod pleidleisio gallwch ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddynt bleidleisio ar eich rhan.

Mae hyn yn cael ei alw yn bleidlais drwy ddirprwy ac mae’r unigolyn sy’n pleidleisio ar eich rhan yn aml yn cael ei alw yn ddirprwy.   Os nad yw’r unigolyn y gallwch ymddiried ynddo yn gallu cyrraedd yr orsaf bleidleisio, gallant ymgeisio i bleidleisio ar eich rhan drwy’r post.   Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy drwy’r post.

Lawrlwythwch y ffurflenni cais i gael pleidlais drwy ddirprwy ar wefan y comisiwn etholiadol

Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen hon bydd angen i chi ei hargraffu a’i dychwelyd atom i’r cyfeiriad canlynol:

Gwasanaethau Etholiadol,
Cyngor Sir y Fflint,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug
CH7 6NR

Os nad oes gennych beiriant argraffu, yna gallwch e-bostio cofrestr@siryfflint.gov.uk i ofyn i ni bostio ffurflen gais atoch.

Gallwch lenwi a dychwelyd y ffurflen hon ar unrhyw adeg, ond y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen gais yw 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio. Mewn rhai amgylchiadau, pan fo argyfwng sy'n golygu na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio'n bersonol, gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.

Os ydych yn dewis pleidleisio drwy ddirprwy, yna bydd yn rhaid i’r unigolyn yr ydych wedi ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan fynd â’u prawf adnabod â llun eu hunain.  Os nad oes ganddynt brawf adnabod â llun yna ni fyddant yn cael y papur pleidleisio.

Os nad yw eich dirprwy yn mynd i fod gartref ar ddiwrnod yr etholiad, yna gallant wneud cais i'w papur pleidleisio drwy ddirprwy gael ei bostio atynt.  Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio am bleidlais drwy’r post yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.

Darganfod sut i bleidleisio drwy ddirprwy

Deddf Etholiadau 2022 - Newidiadau y byddwch yn eu gweld i bleidleisio drwy ddirprwy

Byddwch yn gallu gwneud cais am bleidlais drwy'r post ar gyfer etholiadau Seneddol ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd YN UNIG drwy system ar-lein newydd llywodraeth ganolog https://www.gov.uk/gwneud-cais-pleidlais-drwy-ddirprwy

Bydd yn rhaid i etholwyr sy’n gwneud cais am bleidlais drwy’r post ar gyfer y ddau fath hyn o etholiad gadarnhau eu hunaniaeth gan ddefnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau, a hynny wrth wneud cais ar-lein ond hefyd wrth lenwi cais papur.

Ar gyfer etholiadau Seneddol ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd bydd newidiadau i'r terfyn ar faint o bobl y caiff pleidleisiwr fod yn ddirprwy ar eu cyfer. Ar hyn o bryd gall unigolyn weithredu fel dirprwy ar gyfer nifer diderfyn o berthnasau agos a dau etholwr arall. O dan y rheolau newydd ar gyfer y mathau hyn o etholiad, byddai pleidleiswyr yn cael eu cyfyngu i weithredu fel dirprwy ar gyfer pedwar o bobl, a dim ond dau ohonynt sy'n cael bod yn etholwyr domestig sy'n byw yn y DU waeth beth fo'u perthynas (neu uchafswm o 4 o bobl, lle mae 2 unigolyn yn byw yn y DU a 2 unigolyn wedi'u cofrestru fel rhai sy'n byw dramor).

Ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau Llywodraeth Leol nid oes unrhyw newid i'r rheolau cyfredol h.y., cewch fod yn ddirprwy i ddim mwy na dau etholwr, ac eithrio lle maent yn ŵr neu'n wraig, yn bartner sifil, yn rhiant, yn nain neu'n daid, yn frawd, yn chwaer, yn blentyn neu'n ŵyr/wyres i’r etholwr.

Pryd fydd y newid hwn yn dod i rym?

Mae’r newidiadau hyn yn dechrau ar 31 Hydref 2023.

Yn achos etholwyr sydd â dirprwy wedi'i benodi cyn 31 Hydref 2023:

Bydd angen i bob etholwr presennol (domestig a thramor) sydd â threfniant dirprwy ar waith cyn 31 Hydref 2023 wneud cais newydd erbyn 31 Ionawr 2024.  Bydd y tîm etholiadau yn cysylltu â chi ac yn rhoi digon o rybudd a chymorth i chi ddiweddaru eich trefniadau.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â newidiadau i bleidleisio drwy ddirprwy