Alert Section

Gweithio mewn Etholiadau

Ydych chi erioed wedi meddwl am gymryd rhan adeg yr etholiad drwy weithio mewn gorsaf bleidleisio neu yn y cyfrif?

Mae’r Gwasanaethau Etholiadol bob amser yn ceisio recriwtio staff ymroddedig a dynamig i lenwi unrhyw swyddi gwag, a byddem yn falch o glywed gennych os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan. 

Gweithio mewn Gorsaf Bleidleisio

Mae staff Gorsaf Bleidleisio yn cael eu penodi gan y Swyddog Canlyniadau ac maent yn gyfrifol am y papurau pleidleisio, gan sicrhau bod gweithdrefnau priodol ar gyfer pleidleisio yn cael eu dilyn.  Ar ddiwrnod yr etholiad, mae’n rhaid i staff gorsaf bleidleisio fod ar ddyletswydd o 6:30am tan ychydig ar ôl 10pm.  Bydd yn ofynnol i holl staff a gyflogir i weithio mewn gorsaf bleidleisio fynychu sesiwn hyfforddiant cyn eu penodiad. 

Gweithio yn y Cyfrif

Mae cynorthwywyr cyfrif yn cael eu penodi gan y Swyddog Canlyniadau i wirio a chyfrif y pleidleisiau yn y gorsafoedd pleidleisio, ynghyd â’r pleidleisiau post a dderbyniwyd yn y cyfnod hyd at y diwrnod pleidleisio.  Gall y gwirio a chyfrif ddigwydd ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau (10pm ar y diwrnod pleidleisio), neu’r bore canlynol.  

Fel arfer, cynhelir y cyfrif yng Ngholeg Cambria, Kelsterton Road, Cei Connah.

Cymhwysedd

I weithio yn yr etholiadau, mae’n rhaid i chi

  • fod yn 18 oed o leiaf
  • bod â’r hawl i weithio yn y DU (yn unol â Deddf Lloches a Mewnfudo 1996)
  • peidio bod wedi’ch cyflogi gan ymgeisydd posibl na bod yn perthyn iddynt
  • peidio gweithio ar ran ymgeisydd na phlaid wleidyddol i weithio fel staff pleidleisio na chyfrif
  • cytuno i weithio mwy na’r oriau gwaith arferol y mae’r gyfarwyddeb oriau gwaith yn darparu ar eu cyfer 

Sut i ymgeisio

Anfonwch e-bost at register@flintshire.gov.uk er mwyn mynegi diddordeb.  Yna byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth atoch chi.

Ar ôl ymgeisio i weithio yn yr etholiadau

Byddwn yn ystyried profiad, argaeledd a lle mae unigolyn yn byw wrth gynnig swydd.

Mae pob penodiad dros dro ac os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich cyflogi gan y Swyddog Canlyniadau (nid Cyngor Sir y Fflint).
Nid yw cael eich penodi i weithio mewn etholiad yn sicrhau gwaith mewn etholiadau yn y dyfodol.   Mae yna fwy o geisiadau na swyddi yn aml ac os na fydd rhywun yn cael cynnig swydd yna byddant yn cael eu hychwanegu at ein rhestr staffio i lenwi swyddi os oes yna swyddi gwag. 

Ni fyddwn yn gallu ymateb i bob cais. 

Mwy o wybodaeth

Mae swyddi Etholiad Achlysurol yn cael eu cyflogi gan y Swyddog Canlyniadau ac nid gan Gyngor Sir y Fflint. Nid yw telerau ac amodau gweithwyr y Cyngor a mynediad i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn berthnasol i swyddi etholiadau achlysurol.

Mae swyddi etholiad yn cael eu talu ar sail Talu Wrth Ennill (PAYE), sy’n golygu y gellir tynnu treth o enillion. Os nad ydych yn drethdalwr byddwch yn gyfrifol am hawlio’r dreth yn ôl gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC).  Fodd bynnag, mae ffioedd a delir ar gyfer gwaith etholiad yn rhydd o gyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol.

Gall unrhyw waith a wneir gennych effeithio ar;

  • unrhyw bensiwn y wladwriaeth neu fudd-daliadau a dderbynnir - byddwch yn gyfrifol am hysbysu eich darparwr pensiwn neu fudd-dal am eich enillion
  • faint o dreth sy’n ofynnol i chi ei dalu - byddwch yn gyfrifol am hysbysu Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi am eich enillion.