Y gofrestr etholiadol a'r gofrestr 'agored'
Y Gofrestr Etholiadol
Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestr o enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Mae'n cael ei defnyddio ar gyfer gorfodi'r gyfraith a gan asiantaethau gwirio credyd i wirio’ch enw a'ch cyfeiriad yn unig os ydych chi’n gwneud cais am gredyd, ac ar gyfer rhai dibenion cyfreithlon eraill.
Gweld y gofrestr etholiadol
Mae gan aelodau o'r cyhoedd yr hawl i archwilio'r gofrestr etholwyr. Gellir gweld y gofrestr etholiadol lawn yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 6NR
Y diben yw caniatáu trigolion i wirio cywirdeb y gofrestr ac, yn bennaf, eu cofnod nhw yn y gofrestr. Ni ellir defnyddio’r wybodaeth a welir ar gyfer unrhyw ddiben arall. Ni ddylid defnyddio manylion y gofrestr lawn ar gyfer unrhyw reswm masnachol, ac felly ni ddisgwylir bod arnoch chi eisiau archwilio llawer iawn o gyfeiriadau ar un tro. Nid yw'r gofrestr etholwyr wedi ei llunio ar ffurf y gallwch chi ganfod person wrth ei enw. Mae wedi ei llunio ar gyfer ei defnyddio gan staff mewn gorsafoedd pleidleisio unigol.
Yn ogystal, yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i aelod o staff eich goruchwylio pan fyddwch chi’n archwilio’r gofrestr. Rydym ni’n dîm bychan, ac felly rydym ni wedi cyfyngu unrhyw arolygiad o'r gofrestr etholwyr i ddim mwy na 10 munud y dydd. Anfonwch e-bost cofrestr@siryfflint.gov.uk os hoffech chi drefnu cael gweld y gofrestr etholiadol.
Y Gofrestr Agored
Mae'r gofrestr agored (neu’r gofrestr olygedig) yn ddetholiad o'r gofrestr etholwyr, ond nid yw'n cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Mae ar gael i'w phrynu gan unrhyw un a’i defnyddio at unrhyw ddiben, gan gynnwys at ddibenion marchnata.
Prynu copi o'r gofrestr agored
I brynu copi o'r gofrestr agored, e-bostiwch cofrestr@siryfflint.gov.uk am ragor o fanylion.
Tynnu’ch enw oddi ar y gofrestr agored
Pan fyddwch chi’n cofrestru i bleidleisio ar-lein fe allwch chi ddewis peidio ag ymddangos ar y gofrestr agored. Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ac os hoffech chi dynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored, neu os hoffech chi ddiweddaru eich manylion, e-bostiwch ni ar cofrestr@siryfflint.gov.uk. Rhowch eich enw a'ch cyfeiriad llawn, a rhoi gwybod i ni a hoffech chi i ni ddiweddaru’ch manylion neu eu tynnu oddi ar y gofrestr agored.Os nad ydych chi’n siŵr p’un ai ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio ai peidio, gallwch wirio drwy gysylltu â'r swyddfa cofrestru etholiadol yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug.
Mae data personol y ddwy gofrestr yn cael ei brosesu yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y gofrestr etholiadol a'r gofrestr agored yn GOV.UK