I gael gwybod mwy am yr Hunanasesiad Corfforaethol, darllenwch yr asesiadau diweddaraf a gweld asesiadau blaenorol.
Cyflwyniad
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd i adrodd ar berfformiad ac yn nodi ‘Rhaid i Gyngor gynhyrchu adroddiad hunanasesu ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Rhaid i’r adroddiad nodi ei gasgliadau ynglŷn ag i ba raddau y mae wedi bodloni’r gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn honno, ac unrhyw gamau y mae’n bwriadu eu cymryd, neu y mae eisoes wedi’u cymryd, i gynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad.’ Nod y ddogfen hon yw cyflawni’r ddyletswydd a nodir uchod ar gyfer y ddeddf ac at ddefnydd y Cyngor.
Mae’r Hunanasesiad Corfforaethol yn asesiad cynhwysfawr o’r sefydliad corfforaethol ac nid yw’n asesiad manwl o berfformiad pob portffolio gwasanaeth, mae’r themâu asesu wedi’u cynllunio yn y modd hwn.
Bwriad yr hunanasesiad yw darparu llwyfan ar gyfer sicrwydd a hunan-welliant a byddai’n arwain at gynllun gwella ar gyfer y sefydliad.
Lawrlwythwch yr Hunanasesiad Corfforaethol
Gallwch lawrlwytho’r Hunanasesiad Corfforaethol 2022-23 isod.
Lawrlwythwch yr Hunanasesiad Corfforaethol 2022-23