Alert Section

Fforwm Sirol


Nodyn Cyngor ar Ganllawiau Cyfansoddiadol 
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi rheoliadau newydd ar gyfer cyfarfodydd. Daeth Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020 i rym ar 22 Ebrill 2020. Maent yn berthnasol i Gynghorau Sir a Chynghorau Tref a Chymuned (yn ogystal ag Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub). 

Bydd Un Llais Cymru, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn cyhoeddi canllawiau i gynghorau tref a chymuned (p’un ai ydynt yn aelodau o Un Llais Cymru neu beidio). Dyma grynodeb bras o’r rheoliadau:

Mynychu o bell
Gall aelodau gymryd rhan mewn cyfarfodydd o bell. Mae hyn yn berthnasol i gyfarfodydd a gynhelir cyn 1 Mai 2021. Bydd gofyn i aelodau gymryd rhan mewn cyfarfodydd sain. Dylai aelodau allu siarad gyda’i gilydd a chlywed ei gilydd, ond nid oes yn rhaid iddynt allu gweld ei gilydd. Golyga hyn y gellir cynnal cyfarfodydd drwy alwad cynadledda dros y ffôn. Mae modd cynnal cynhadledd fideo yn ogystal.


Cyfarfodydd Blynyddol
Os nad yw cyngor wedi cynnal Cyfarfod Blynyddol ar neu ar ôl 1 Mawrth, neu cyn 22 Ebrill 2020, yna gellir cynnal y Cyfarfod Blynyddol ar unrhyw ddyddiad yn 2020. 

Cyfarfodydd eraill
Bydd modd cynnal cyfarfodydd eraill y mae’n rhaid eu cynnal ar adegau penodol o’r flwyddyn yn ôl yr arfer, ar unrhyw ddyddiad cyn 1 Mai 2021. 

Presenoldeb mewn Cyfarfodydd (Y “Rheol 6 Mis”)
Gellir diystyru’r cyfnod rhwng 22 Ebrill 2020 a phan fyddai disgwyl i aelod allu mynychu cyfarfod mewn perthynas â’r rheol 6 mis. Ni fydd methu mynychu cyfarfodydd yn ystod y cyfnod hwn yn cyfrif yn erbyn yr aelod. Felly, mae hyn yn golygu ‘rhewi’r cloc’ mewn perthynas â’r rheol 6 mis ar gyfer pob aelod nes y bydd modd mynychu cyfarfod.

Ethol Cadeiryddion
Os na chafodd cadeirydd newydd ei ethol mewn Cyfarfod Blynyddol cyn 22 Ebrill 2020, yna gall y cadeirydd presennol aros yn y swydd tan y Cyfarfod Blynyddol Nesaf, ond mae’n rhaid cynnal y cyfarfod hwnnw cyn 30 Ebrill 2021. 

Gwysion i Gyfarfodydd
Mae bellach yn bosibl gwysio aelodau i gyfarfodydd dros e-bost. 

Presenoldeb y Cyhoedd 
Nid oes angen i’r cyhoedd allu gweld na chlywed cyfarfod (h.y. nid oes angen eu gwahodd i ymuno â’r gynhadledd fideo neu ffôn). Wedi dweud hynny, dylid trefnu hyn lle bo modd. Os gwahoddir y cyhoedd i fynychu cyfarfodydd, dylid gwneud hyn yn electronig o fewn 3 diwrnod i’r diwrnod y cynhelir y cyfarfod. Neu, os caiff cyfarfod ei alw ar fyr rybudd, dylid gwahodd y cyhoedd cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol. 

Dogfennau Cyfarfodydd
Dylid parhau i gyflwyno rhaglenni ymlaen llaw (gweler uchod), ond gellir gwneud hyn yn electronig. Mae’n rhaid cadw cofnodion, a gellir cyhoeddi’r rhain yn electronig hefyd. Mae’n rhaid iddynt gynnwys rhestr o fynychwyr, datganiadau o ddiddordeb, unrhyw benderfyniad a wnaethpwyd (gan eithrio eitemau eithriedig) a chanlyniad unrhyw bleidlais.  


Fforwm Sirol yn dod â Chyngor Sir y Fflint a phob un o’r 34 Cyngor Tref a Chymuned ynghyd i adeiladu a gwella eu perthynas weithio, gydag ymrwymiad cryf i weithio ar y cyd er budd dinasyddion Sir y Fflint. 

Cymuned A Rennir Siarter:

Mae Cyngor Sir y Fflint a'r holl Gynghorau Tref a Chymuned wedi datblygu a llofnodi 'Siarter' sy'n nodi sut rydym yn anelu at weithio gyda'n gilydd er budd cymunedau lleol tra'n cydnabod ein cyfrifoldebau perthnasol fel cyrff statudol annibynnol a etholwyd yn ddemocrataidd.

Cymuned A Rennir Siarter - Mai 2018 

Cynghorau Tref a Chymuned:

Mae'r Fforwm Sirol yn cyfarfod tair gwaith y flwyddyn.  I weld gwybodaeth am y cyfarfod, cliciwch ar y linc isod: 

Fforwm Sirol – Cyfarfodydd

cliciwch yma am fanylion cyswllt y Cynghorau Tref a Chymuned. 

Hyfforddiant – Codi Ymwybyddiaeth:

Gweler ynghlwm rai deunyddiau a allai fod o ddefnydd i chi wrth godi ymwybyddiaeth o’r cod ymysg eich cynghorwyr. Yr eitem gyntaf yw cyfres o sleidiau yn cynnwys gwybodaeth gefndirol am y cod a’r ymddygiadau a fydd yn achosi ei weithrediad neu’n torri ei ofynion.  Yr ail yw dolen at fideo a baratowyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn trafod ei rôl mewn perthynas â’r cod ymddygiad. Paratowyd y ddau ar gyfer y cynghorwyr newydd yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2017.

Hyfforddiant Llywodraethu ac Ymddygiad Cynghorau Tref a Chymuned - 2017

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Fideo Cod Ymddygiad 

Newyddion: 

Amserlen etholiadol ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr: 4 Mai 2017

Deddf Llywodraeth Leol ( Democratiaeth) (Cymru 2013) Mynediad i Wybodaeth 

 

Cysylltiadau:

I gael gwybodaeth gyffredinol am y Fforwm Sirol, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol / cwynion, cysylltwch â:

Joanne Pierce
Ffôn: 01352 702106
E-bost: Joanne.Pierce@siryfflint.gov.uk / Joanne.Pierce@flintshire.gov.uk