Yn dilyn argyfwng
Unwaith fod yr argyfwng drosodd, byddwch eisiau dychwelyd i fywyd normal. Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i helpu i wella eich sefyllfa cyn gynted ag sy’n bosib, ond mae’n rhaid i rai cyfrifoldebau aros gyda chi fel unigolyn, yn enwedig o ran eich iechyd a’ch eiddo.
Iechyd a Diogelwch
- Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon newydd a grëwyd gan y trychineb. Gwyliwch am ffyrdd na ellir eu defnyddio, adeiladau wedi eu halogi, dŵr wedi ei lygru, gollyngiadau nwy, gwydr wedi torri, gwifrau wedi eu difrodi, lloriau llithrig a sefyllfaoedd tebyg.
- Byddwch yn ymwybodol o orfliner. Peidiwch â cheisio gwneud gormod ar unwaith. Gosodwch flaenoriaethau a pheidiwch â cheisio a gwneud popeth ar unwaith.
- Yfwch ddigon o ddŵr glân. Bwytwch yn dda gan gymryd digon o seibiant.
- Gwisgwch esgidiau cryf a menig gwaith wrth weithio gyda malurion. Golchwch eich dwylo yn drwyadl gyda sebon a dŵr glân yn aml, yn enwedig os ydych yn delio â llifddwr.
- Rhowch wybod inni neu’r gwasanaethau brys o unrhyw beryglon iechyd a diogelwch megis gollyngiadau cemegol, llinellau pŵer wedi dymchwel, ffyrdd na ellir eu defnyddio, deunydd insiwleiddio yn mudlosgi, gollyngiadau nwy neu anifeiliaid marw.
Dychwelyd adref
Gall dychwelyd i gartref sydd wedi ei ddifrodi fod yn heriol yn gorfforol a meddyliol. Yn fwy na dim, byddwch yn wyliadwrus.
- Cyn mynd i mewn i’ch tŷ, cerddwch yn ofalus o amgylch tu allan yr adeilad gan chwilio am linellau pŵer rhydd, gollyngiadau nwy a difrod strwythurol. Os byddwch yn arogli nwy, peidiwch â dychwelyd i’ch cartref.
- Os difrodwyd eich cartref gan dân, peidiwch â mynd i mewn nes bod yr awdurdodau yn cyhoeddi ei fod yn ddiogel.
- Edrychwch am graciau yn y to, waliau a simnai. Os yw’n edrych fel y gall yr adeilad gwympo, gadewch yn syth.
- Tortsh yw’r golau gorau ar gyfer archwilio difrod i gartref. RHYBUDD: Trowch ef ymlaen y tu allan; gall gynhyrchu gwreichion a all gynnau gollyngiad nwy, os yw’n bresennol. Peidiwch â chynnau tân y tu mewn i’ch tŷ os ydych yn amau fod nwy yn gollwng.
- Os diffoddwyd eich cyflenwad nwy cyn ichi adael, mae angen i weithiwr proffesiynol ei ailddechrau a phrofi’r system nwy cyn y gallwch ei ddefnyddio’n ddiogel.
- Os ewch i mewn i dŷ ac arogli nwy neu glywed sŵn hisian, gadewch ar unwaith.
- Archwiliwch bob cyfarpar trydanol. Os ydynt yn wlyb, mae angen i weithiwr proffesiynol edrych arnynt cyn ichi eu defnyddio.
- Agorwch ffenestri a drysau er mwyn symud yr aer unwaith eto - yn enwedig os ydych wedi bod yn llochesu yn eich cartref; rydych angen creu drafft er mwyn cael gwared ag unrhyw nwyon a all fod wedi casglu yn eich cartref.
-
Taflwch fwyd, cosmetigau a meddyginiaethau sydd wedi cyffwrdd llifddwr.
Peidiwch â gadael i’ch plant chwarae gyda theganau sydd wedi cyffwrdd llifddwr, cyn ichi eu diheintio.
- Cysylltwch â’ch awdurdod lleol neu Gwmni Cyflenwi Dŵr cyn defnyddio’r dŵr; efallai ei fod wedi ei lygru.
Yswiriant
Galwch eich darparwr yswiriant cyn gynted ag y bo modd. Tynnwch luniau o’r difrod a cadwch gofnodion manwl o unrhyw gostau glanhau a gwaith atgyweirio. Byddwch yn ymwybodol o fasnachwyr ffug sy’n galw ar ôl pob trychineb. Sicrhewch eich bod yn cael dyfynbris ysgrifenedig bob tro; bydd eich yswiriwr agen hwn. Sicrhewch ei fod ar bapur pennawd llythyr gyda rhif ffôn llinell dir a chyfeiriad yr ydych wedi ei wirio. Peidiwch fyth a thalu ymlaen llaw; talwch dim ond wedi i’r gwaith gael ei gwblhau a’ch bod yn fodlon ag o, a cadwch dderbynneb y taliad.
Ymdopi â thrychinebau
Bydd unrhyw drychineb yn eich gadael o dan straen ac wedi’ch effeithio’n feddyliol. Peidiwch â theimlo fod yn rhaid ichi ymdopi heb help. Rhowch ofal arbennig i’ch plant; gallant fod wedi eu heffeithio’n fwy nac sy’n amlwg a gall unrhyw ymateb fod yn araf yn dod i’r wyneb. Byddwch angen bod yn ymwybodol o’r arwyddion fod rhywun, gan gynnwys eich hunan, angen help. Gwyliwch am y canlynol:
- Anhawster cysgu
- Anhawster cadw cydbwysedd
- Anniddig
- Colli tymer yn hawdd
- Defnyddio mwy ar alcohol/cyffuriau
- Trafferth talu sylw
- Perfformiad gwael yn y gwaith
- Cur pen/problemau ystumog
- Gwelediad twnnel / anhawster clywed
- Symptomau o anwyd neu debyg i’r ffliw
- Dryswch
- Anhawster canolbwyntio
- Amharod i adael gartref
- Iselder, tristwch
- Ymdeimlad o anobaith
- Hwyliau ansad a chrio’n hawdd
- Amau eu hunain ac euogrwydd llethol
- Ofn tyrfaoedd, dieithriaid a bod ar eu pen eu hunain
Gall trychinebau adael pobl, yn enwedig plant, yn ofnus, dryslyd ac ansicr. Mae’n bwysig rhoi gwybod i rieni ac athrawon, a’u bod yn barod i helpu pe baent yn dechrau dangos symptomau o fod dan straen. Cofiwch y gall blant gael eu heffeithio wrth weld drama ar y teledu.
- Gall blant ymateb yn fuan wedi’r digwyddiad, neu fod yn iawn am wythnosau cyn dangos arwyddion o ymddygiad sy’n achosi pryder.
- Mae cysur yn hollbwysig wrth helpu plant gyda thrawma. Bydd plant ifanc iawn angen llawer o gyffyrddiadau corfforol a chofleidio. Maent hefyd angen cefnogaeth geiriol.
- Atebwch gwestiynau’n onest, ond peidiwch â phwysleisio’r manylion brawychus na chaniatáu i’r pwnc ddominyddu bywyd y teulu’n barhaol.
- Anogwch bob plentyn i fynegi emosiynau drwy sgwrsio, dynnu llun neu ganfod ffordd o helpu eraill a effeithiwyd gan yr un trychineb.
- Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Plant neu athrawon eich plant am fyw o gyngor.
- Cadwch drefn arferol eich cartref.
- Anogwch blant i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden.
- Lleihewch eich disgwyliadau dros dro o ran perfformiad yn yr ysgol neu yn y cartref.