Alert Section

Llythyr gan y Bwrdd Iechyd am coronafirws a'r brechlyn


Mae’r argyfwng COVID-19 yn parhau, ac mae’n rhaid i bob un ohonom ddal ati i wneud ein rhan i atal lledaeniad y feirws, fodd bynnag, mae’r brechlyn yn cynnig goleuni ar ddiwedd y twnnel. 

Bydd pob aelwyd ar draws Cymru yn derbyn llythyr gan eu Bwrdd Iechyd lleol cyn bo hir yn egluro mwy ynghylch pryd rydych yn debygol o gael cynnig y brechlyn, sut y byddant yn cysylltu â chi a rhagor o wybodaeth ddefnyddiol.

 

Os nad ydych chi wedi derbyn eich llythyr, gallwch gael mynediad ato drwy glicio yma.

Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr atgoffa pawb nad oes rhaid iddynt gysylltu â’r Bwrdd Iechyd na’u Meddyg Teulu, gan y byddan nhw’n cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy lythyr pan ddaw eich tro i gael y brechlyn.

Os hoffech chi weld y wybodaeth ddiweddaraf am y brechlyn yng Ngogledd Cymru, ymwelwch â gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy glicio yma.