Profi, Olrhain, Diogelu - Canllawiau a Chyngor ar Hunan-ynysu
Mae’r dudalen hon yn darparu cyngor a chymorth i drigolion Sir y Fflint sy'n gorfod hunan-ynysu ar ôl derbyn galwad gan Wasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Gogledd Cymru.
Yr hyn y dylech ei wneud os oes gennych symptomau COVID-19, os ydych wedi profi'n bositif am COVID-19, neu os ydych wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd â COVID-19.
Ewch i: https://llyw.cymru/canllawiau-hunanynysu
I dderbyn gwybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael ewch i: www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Council-Tax/Self-Isolation-Support-Payment.aspx
Os ydi Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Gogledd Cymru wedi cysylltu efo chi ac wedi gofyn i chi hunan-ynysu, siaradwch efo’r aelod o’r tîm fydd yn eich ffonio ynglŷn ag unrhyw gymorth fydd arnoch chi ei angen yn ystod eich cyfnod yn hunan-ynysu.
Os ydych chi’n poeni am eich iechyd meddwl a’ch lles, neu os ydych chi'n poeni am rywun arall, cliciwch yma.