Gwasanaethau'r Cyngor a'r tywydd
Am y newyddion diweddaraf, dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol:
Rhybuddion Tywydd
Met Office - Glaw
Gwastraff ac Ailgylchu
Bydd biniau du na chafodd eu casglu yn yr ardaloedd isod ddydd Gwener, 24 Ionawr yn cael eu casglu ddydd Llun, 27 Ionawr a dydd Mawrth, 28 Ionawr:
Y Fflint; Bagillt; Oakenholt; Mynydd-y-Fflint; Carmel; Calcoed; Pantasaph; Sychdyn; Pentre Helygain; Helygain; Rhosesmor; Moel-y-Crio; Brynffordd; Licswm; Treffynnon; Milwr.
Cynghorir preswylwyr i storio eu biniau’n ddiogel tan ddydd Llun, oherwydd bod gwyntoedd cryfion yn y rhagolygon ar gyfer dydd Sul.
Bydd unrhyw wastraff ailgylchu a bwyd na chafodd eu casglu ddydd Gwener 24 Ionawr, yn cael eu casglu ar ddiwrnod eich casgliad nesaf, sef dydd Gwener, 31 Ionawr, 2025.
Os mai dim ond hanner llawn yw eich cynwysyddion ailgylchu a’ch bod yn gallu ymdopi, byddai’n syniad aros tan yr wythnos nesaf i’w gadael allan pan fydd y tywydd yn well. Rhowch gynwysyddion allan ar fore'ch diwrnod casglu i'w cadw allan o'r gwynt.
Disgwylir i’r holl wasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu sydd i fod i ddigwydd ddydd Llun, 27 Ionawr, weithredu fel arfer.
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Mae ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor fel arfer bellach.
Byddwn yn monitro’r tywydd drwy gydol y penwythnos, ac efallai y bydd angen i safleoedd gau ar fyr rybudd os yw amodau’n gwaethygu ddydd Sul. Bydd unrhyw benderfyniadau i gau safleoedd yn cael eu gwneud er mwyn diogelu ein gweithwyr, ein contractwyr a’n cwsmeriaid sy’n defnyddio’r safleoedd.
Cludiant Ysgol
Bydd y gwasanaethau cludiant ysgol yn gweithredu fel arfer ddydd Llun, 27 Ionawr. Er mwyn gwirio pa ysgolion sydd ar gau, ewch i Cau Ysgolion Ysgol
Cludiant cyhoeddus
Y Rheilffordd - Er mwyn cael diweddariadau, ewch i National Rail
Gwasanaethau Bws - Er mwyn gweld amhariadau posib i gludiant cyhoeddus yn eich hymyl chi, ewch i Traveline Cymru
Amserlenni Bysiau
Ffyrdd ar Gau
Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ffyrdd ar gau, ewch i one.network
Trwsio Tai Cyngor
Os oes angen gwneud gwaith trwsio brys ar Dŷ Cyngor y tu allan i oriau swyddfa, ewch i’r dudalen ‘Tu Allan i Oriau’
Tu Allan i Oriau
Toriadau Pwer
Rhestr Toriadau Pwer - SP Energy Networks
Gov.uk Prepare
Nod y wefan hon yw paratoi’r cyhoedd am argyfyngau drwy ddarparu cyngor syml ac effeithiol.
Ewch i Gov.uk - Prepare
Y Cyfryngau Cymdeithasol
Facebook
X (Twitter)