Deddf Diogelu Data
Diogelu Data – Eich Hawliau
Mae’r gyfraith ar ddiogelu data’n rhoi'r hawliau unigol canlynol i chi mewn perthynas â'ch gwybodaeth bersonol:
Yr Hawl i Gael Mynediad
Mae gennych yr hawl i wybod am, ac i gael mynediad at, y wybodaeth bersonol mae Cyngor Sir y Fflint yn ei chadw amdanoch chi. Mae hyn yn cynnwys eich gwybodaeth bersonol, ynghyd â:
- dibenion ei phrosesu;
- categorïau'r data personol sydd dan sylw;
- y derbynwyr neu’r categorïau o dderbynwyr y mae neu y bydd y data personol yn cael ei ddatgelu iddynt, yn enwedig derbynwyr mewn trydydd gwledydd neu sefydliadau rhyngwladol;
- lle bo modd, hyd y cyfnod y rhagwelir y bydd y data personol yn cael ei storio, neu, os nad oes modd, y meini prawf a ddefnyddir i bennu hyd y cyfnod hwnnw;
- yr hawl i ofyn i’r rheolwr gywiro neu ddileu data personol neu rwystro data personol sy’n ymwneud â thestun y data rhag cael ei brosesu neu wrthwynebu prosesu o’r fath;
- yr hawl i nodi cwyn gydag awdurdod goruchwyliol;
- lle nad yw’r data personol yn cael ei gasglu gan destun y data, unrhyw wybodaeth sydd ar gael ynglŷn â’r ffynhonnell;
- bodolaeth prosesau gwneud penderfyniadau’n awtomatig, gan gynnwys proffilio, a grybwyllir yn Erthygl 22(1) ac, o leiaf yn yr achosion hynny, gwybodaeth arwyddocaol am y rhesymeg, yn ogystal ag arwyddocâd a goblygiadau disgwyliedig prosesu o'r fath ar gyfer testun y data.
- Pan fo data personol yn cael ei drosglwyddo i drydydd gwlad neu i sefydliad rhyngwladol, bydd gan destun y data hawl i gael gwybod am y mesurau diogelu priodol yn unol ag Erthygl 46 sy’n ymwneud â'r trosglwyddiad.
Yr Hawl i Gael Gwybod
Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i chi sut rydym yn casglu, defnyddio, cadw ac yn datgelu eich gwybodaeth. Bydd y Cyngor yn gwneud hyn wrth gasglu eich gwybodaeth drwy gyflwyno hysbysiad preifatrwydd i chi mewn perthynas â’r gwasanaeth rydych yn ei ddefnyddio.
Bydd yr hysbysiad preifatrwydd yn cynnwys gwybodaeth dryloyw a hygyrch a gallai gael ei ddarparu’n ysgrifenedig, ar lafar neu drwy ddefnyddio darllenydd codau QR gan ddibynnu ar sut mae’r wybodaeth wedi’i chasglu.
Mae rhywfaint o’r wybodaeth mae’n rhaid i'r Cyngor Sir ei darparu i chi yr un fath ar gyfer pob gwasanaeth rydych yn ei ddefnyddio. Gallwch gael hyd i’r wybodaeth hon yn hysbysiad preifatrwydd Cyngor Sir y Fflint.
Yr Hawl i Gywiro
Mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro os ydych yn credu bod y wybodaeth sydd gan y Cyngor amdanoch yn anghywir neu'n anghyflawn. Rhaid i chi egluro i ni ym mhle mae'r wybodaeth rydych chi'n credu ei bod yn anghywir.
Bydd y Cyngor yn ystyried eich cais a bydd un ai'n cywiro'r wybodaeth neu'n penderfynu cadw'r wybodaeth sydd ganddo amdanoch chi os yw'n credu ei bod yn gywir a chyflawn. Yn yr amgylchiadau hynny, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn egluro pam. Byddwn yn gosod nodyn am eich cais i ddangos eich bod wedi cwestiynu cywirdeb y wybodaeth ar yr adeg hon.
Yr Hawl i Ddileu
Mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei dileu. Mae hyn weithiau’n cael ei alw’n ‘hawl i gael eich anghofio’.
Ni fydd raid i’r Cyngor ddileu eich gwybodaeth bersonol o hyd. Er enghraifft, ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei dileu os oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar y Cyngor i'w dal fel sy'n wir ar gyfer data Treth y Cyngor.
Mae gennych hawl i ddileu eich gwybodaeth bersonol:
- Pan nad oes bellach angen eich gwybodaeth at y pwrpas y cafodd ei chasglu/phrosesu yn y lle cyntaf. Mae’r pwrpas dros ei chasglu wedi’i nodi ar yr hysbysiad preifatrwydd a ddarparwyd i chi pan gasglodd y Cyngor eich gwybodaeth gyntaf.
- Pan fyddwch yn diddymu eich caniatâd – os cafodd caniatâd ei ddefnyddio fel y sail gyfreithiol wreiddiol i brosesu eich gwybodaeth. Gallwch weld y sail gyfreithiol dros brosesu ar yr hysbysiad preifatrwydd.
- Pan fyddwch yn gwrthwynebu’r prosesu ac nad oes unrhyw angen dilys hollbwysig dros barhau i brosesu.
- Pan gafodd eich gwybodaeth ei phrosesu’n anghyfreithlon (h.y. yn groes i gyfraith diogelu data).
- Pan mae’n rhaid dileu eich gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol.
- Pan mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu mewn perthynas â chynnig gwasanaethau cymdeithas wybodaeth i blentyn. Enghreifftiau o wasanaethau cymdeithas wybodaeth yw siopau ar-lein, gwasanaethau ffrydio byw neu ar alw a rhwydweithiau cyfathrebu e.e. Facebook a Twitter.
Yr Hawl i Gyfyngu ar Brosesu
Mae gennych hawl i ofyn am rwystro neu gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.
Mae hyn yn golygu na fyddai’r Cyngor yn gallu gwneud unrhyw beth arall gyda'ch gwybodaeth ar wahân i'w storio.
Mae gennych hawl i gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth dan yr amgylchiadau canlynol:
- Os ydych yn credu bod y wybodaeth sydd gan y Cyngor amdanoch yn anghywir.
- Os ydych yn gwrthwynebu'r prosesu, lle roedd angen gwneud hynny er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd, a bod y Cyngor yn ystyried a yw ei sail ddilys yn bwysicach na’ch gwrthwynebiad chi. Byddai hyn yn cael ei benderfynu fesul achos a byddem yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad.
- Pan mae prosesu’n anghyfreithlon ac nad ydych am i’r wybodaeth gael ei dileu.
- Os nad yw’r Cyngor angen y wybodaeth bellach ond eich bod chi ei hangen i sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliad cyfreithiol.
Yr Hawl i Gludo Data
Mae’r hawl i gludo data’n golygu ei bod yn rhaid i’r Cyngor roi eich gwybodaeth bersonol i chi mewn fformat y gellir ei ailddefnyddio. Bydd hyn yn caniatáu i chi ailddefnyddio eich gwybodaeth at eich dibenion eich hun.
Nid yw’r hawl ond yn berthnasol pan:
- Y bu i chi ddarparu’r wybodaeth i’r Cyngor
- Mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu gyda’ch caniatâd chi neu dan gontract
- Mae’r gwaith prosesu’n cael ei wneud yn awtomataidd
Pan mae’r hawl i gludo data’n berthnasol, bydd y Cyngor yn darparu eich gwybodaeth bersonol i chi mewn fformat agored ar ffurf y gall peiriant ei darllen. Os byddwch yn gofyn i’r Cyngor drosglwyddo eich gwybodaeth i sefydliad arall, bydd yn gwneud hyn lle bo modd yn dechnegol.
Yr Hawl i Wrthwynebu
Mae gennych hawl i wrthwynebu:
- I’ch gwybodaeth gael ei phrosesu gan y Cyngor dan yr amod gyfreithlon er mwyn ‘cyflawni tasg er budd y cyhoedd / arfer awdurdod swyddogol' Mae’r amodau wedi’u rhestru yn yr hysbysiad preifatrwydd a ddarparwyd pan gasglwyd y data gennych chi yn y lle cyntaf
- Marchnata uniongyrchol (gan gynnwys proffilio)
- Prosesu at ddibenion ymchwil ac ystadegau gwyddonol/hanesyddol
Rhaid i chi ddatgan beth yw eich gwrthwynebiadau i brosesu mewn perthynas â’r sefyllfa benodol.
Nid oes raid i’r Cyngor stopio prosesu’r data os gall ddangos sail ddilys bwysicach i barhau neu os yw'r gwaith prosesu'n ymwneud â hawliad cyfreithiol.
Hawliau Mewn Perthynas â Gwneud Penderfyniadau a Phroffilio’n Awtomataidd
Pan mae’r Cyngor yn gwneud penderfyniadau a phroffilio’n awtomataidd yn unig, sy'n cael effaith gyfreithiol neu effeithiau arwyddocaol eraill arnoch chi, ni fydd ond yn gwneud hyn:
- Os yw’n angenrheidiol am resymau sy'n ymwneud â chontract
- Os yw wedi’i awdurdodi gan y gyfraith
- Os oes ganddo eich caniatâd penodol chi
Os oes unrhyw ddarn o'ch gwybodaeth chi’n rhan o wneud penderfyniadau a/neu broffilio awtomataidd, byddwch yn cael gwybod am hyn a beth mae’n ei olygu i chi yn yr hysbysiad preifatrwydd a ddarparwyd i chi pan ddarparoch chi'r wybodaeth gyntaf.
Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad, mae gennych hawl i ofyn i’r Cyngor ei adolygu. Mae hyn yn cael ei alw’n ymyrraeth ddynol.
Sut i Wneud Cais Hawliau Unigol
Os hoffech chi wneud cais hawliau unigol, cysylltwch â’r Cyngor Sir drwy gwblhau ffurflen ar-lein.
Fel arall, gallwch ysgrifennu at:
- Tîm Llywodraethu Gwybodaeth, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 6NA
Ni chodir tâl am unrhyw geisiadau fel arfer. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i godi ‘ffi resymol’ pan mae cais yn amlwg heb sail neu’n ormodol, er enghraifft os yw’n ailadroddus.
Sicrhewch eich bod yn darparu copi o ddau ddarn o wybodaeth sy’n caniatáu i’r Cyngor wirio pwy ydych chi. Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeiriad, eich llofnod a'ch llun, lle bo modd, e.e. copi o'ch pasbort neu drwydded yrru â llun.
Pan fyddwch wedi gwneud cais dilys, byddwch yn derbyn neges yn cydnabod hynny a dylai eich cais gael ei ateb o fewn mis calendr. Mewn rhai amgylchiadau, gall y Cyngor gymryd mwy o amser i ateb a bydd yn rhoi gwybod i chi'n ddi-oed os felly.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr holl hawliau hyn a sut maent yn berthnasol i chi ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Sut i Wneud Cwyn
Cysylltwch â’r Swyddfa Diogelu Data ar:
- Ebost: dataprotectionofficer@siryfflint.gov.uk
- Ysgrifennu: Swyddog Diogelu Data, Llywodraethu Gwybodaeth, Cyngor Sir Y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 6NA
I gael gwybod mwy am weithdrefn gwyno diogelu data'r Cyngor, dilynwch y ddolen isod:
Gweithdrefn Gwyno Diogelu Data