Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Monitro Cydraddoldeb
Pam fod y Cyngor angen eich gwybodaeth a sut mae’n defnyddio’r wybodaeth honno?
I sicrhau cydraddoldeb i bobl gyda nodweddion gwarchodedig ac i sicrhau ein bod yn deall ac yn rhoi ystyriaeth i anghenion gwahanol, mae’n angenrheidiol i’r Cyngor gasglu, storio a phrosesu ychydig o wybodaeth bersonol ar draws ei weithgareddau.
I wneud hyn, mae angen i ni gasglu gwybodaeth ynglŷn ag effaith ein gwasanaethau a swyddogaethau ar bobl â gwahanol nodweddion gwarchodedig. Mae angen i ni hefyd sicrhau ein bod yn defnyddio’r wybodaeth i lywio cynllunio a gwella gwasanaeth.
Gall y wybodaeth rydych chi wedi’i rhannu gyda Chyngor Sir y Fflint gael ei defnyddio mewn sawl ffordd, er enghraifft:
- I’n galluogi ni i gyflawni ein holl rwymedigaethau cyfreithiol a statudol drwy ddangos ein bod yn cael gwared ar wahaniaethu anghyfreithlon a hyrwyddo cyfle cyfartal. Fel sefydliad, mae angen i ni ystyried yr effaith y gallai hil, rhyw, ailbennu rhywedd, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd neu gred ei gael ar gyfleoedd bywyd aelodau ein cymunedau;
- I’n galluogi ni i benderfynu ar y ffordd orau i ddarparu gwybodaeth hygyrch a gwasanaethau priodol i bawb, ac i weld ymhle y mae yna fylchau;
- I gynorthwyo â chynllunio gwasanaeth, mae monitro cydraddoldeb yn hanfodol ar gyfer cynllunio, targedu a mesur datblygiad yn narpariaeth gwasanaeth. Gall ddangos aneffeithlonrwydd o ran y ffordd rydym yn trefnu gwasanaethau a chyfleoedd newydd i ddiwallu anghenion pobl;
- Fel ffordd o nodi os yw unrhyw bolisïau neu wasanaethau yn cael effaith andwyol ar bobl gyda nodweddion gwarchodedig;
- I sicrhau ein bod yn ceisio barn pawb yn y gymuned;
- I gefnogi’r Cyngor gyda bodloni’r meini prawf ar gyfer cael mynediad at adnoddau ariannol ac adnoddau eraill gan ffynonellau allanol, oherwydd bod llawer ohonynt yn awr yn gofyn am sicrwydd gan gynigwyr eu bod yn bodloni’r gofynion cydraddoldeb ac amrywiaeth; ac
- Er dibenion Caffael, mae hyn yn galluogi’r Cyngor i sicrhau fod contractau yn cael eu cyflawni mewn ffordd sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal.
Beth yw’r broses gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu’r data hwn?
Gall y Cyngor gasglu gwybodaeth bersonol a gwybodaeth categori arbennig i gyflawni tasgau y maent dan rwymedigaeth statudol i’w darparu. Caiff gwybodaeth bersonol ei phrosesu i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol a / neu oherwydd ei bod yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus.
Mae rhai Deddfau angen dyletswydd i brosesu gwybodaeth, mae’r rhain yn cynnwys:
- Deddf Cydraddoldeb 2010;
- Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus 2011; a’r
- Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol 2021
Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth a gesglir at ddibenion monitro cydraddoldeb yn cael ei dosbarthu fel data personol categori arbennig. Bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint fel rhan o’n tasg gyhoeddus at ddibenion penodol monitro cydraddoldeb, gwella cydraddoldeb a dileu gwahaniaethu dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn prosesu’ch data categori arbennig am resymau o fudd cyhoeddus sylweddol ar sail Adran 10(3) a pharagraff 8 (cyfle neu driniaeth gyfartal), Rhan 2, Atodlen 1, Deddf Diogelu Data 2021 am resymau o fudd cyhoeddus sylweddol i sicrhau cyfle neu driniaeth gyfartal.
Pa fath o wybodaeth gaiff ei chasglu gennych chi ac o ble rydym ni’n derbyn eich gwybodaeth?
Er mwyn darparu’r gwasanaethau hyn, efallai y bydd angen i ni gasglu a phrosesu ychydig o ddata personol, yn enwedig data categori arbennig yn cynnwys;
- Hil;
- Rhyw;
- Ailbennu Rhywedd;
- Anabledd;
- Oedran;
- Cyfeiriadedd Rhywiol;
- Beichiogrwydd a Mamolaeth;
- Crefydd a Chred;
- Priodas a Phartneriaeth Sifil.
O ble rydym ni’n derbyn eich gwybodaeth
Mae’r Cyngor yn derbyn gwybodaeth at ddibenion monitro cydraddoldeb o ystod eang o ffynonellau, yn cynnwys:
- Arolygon;
- Ymgynghoriadau;
- Cyfweliadau wyneb yn wyneb;
- Dros y ffôn; neu
- Gwestiynau a allai gael eu hychwanegu at ddiwedd unrhyw ffurflenni neu holiaduron sydd eisoes yn cael eu cwblhau, megis ffurflenni cais ar gyfer swyddi, gwasanaethau neu grantiau.
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth (mewnol ac allanol)
Rydym yn sicrhau bod eich data yn ddienw ac yn cael ei gasglu gydag eraill i gynhyrchu gwybodaeth ddemograffig.
Rydym ond yn rhannu gwybodaeth ddienw. Rydym ond yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw berson neu gwmni arall pan fo’n ofynnol i ni wneud hynny dan y gyfraith.
Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich gwybodaeth
Byddwn ond yn cadw'r wybodaeth am y cyfnod sydd ei angen. Fodd bynnag, bydd angen cadw rhai cofnodion am gyfnod priodol, er enghraifft at ddibenion hanesyddol i fonitro cynnydd / atchweliad. Mewn achosion o’r fath, bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw dan enw ffug neu’n ddienw.
Pan na fydd angen y wybodaeth hon rhagor, bydd yn cael ei dileu neu’i dinistrio’n gyfrinachol.
Mwy o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am ddefnydd eich data yn cynnwys sut i wneud cais o dan eich hawliau unigol uchod, ewch i’n tudalen Diogelu Data
https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Data-Protection-and-FOI/Data-Protection.aspx
neu cysylltwch â’n Tîm Llywodraethu Gwybodaeth yn defnyddio’r manylion isod:-
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Cyngor Sir y Fflint
Ty Dewi Sant
Parc Dewi Sant,
Ewlo
Sir y Fflint
CH5 3FF
E-bost: SwyddfaDiogeluData@siryfflint.gov.uk
https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Data-Protection-and-FOI/Privacy-Notice.aspx
Sylwch mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd mynediad at eich cofnodion yn gyfyngedig, er enghraifft, os yw’r cofnodion rydych wedi gofyn amdanynt yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â pherson arall.
Mae gennych hefyd yr hawl i gywiro camgymeriadau yn eich cofnodion, yr hawl i wrthwynebu i ddefnydd eich gwybodaeth a’r hawl i gael dileu eich data. Os ydych yn dymuno arfer unrhyw rai o’r hawliau hyn, dylech gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data yn defnyddio’r manylion cyswllt a ddarperir isod.
Mae gennych hawl i gael gwybod os ydym wedi gwneud camgymeriad wrth brosesu eich data a byddwn yn hunan-adrodd unrhyw achosion o’r fath i’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Sut ydw i’n gwneud cwyn?
Mae gennych hawl i gwyno hefyd wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Y Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Sir Gaer
SK9 5AF
Rhif ffôn: 0303 123 1113 neu 01625 545745
Gwefan: www.ico.org.uk