Asesiadau O Effaith ar Gydraddoldeb
Mae gan Gyngor Sir y Fflint ddyletswydd benodol, fel pob awdurdod cyhoeddus arall, i wneud asesiadau, a chyhoeddi’r canlyniadau, o effaith ein gwasanaethau, ein polisïau newydd a'n polisïau diwygiedig ar gydraddoldeb. Nod Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb yw sicrhau nad yw’n gwasanaethau a’n polisïau’n cael effaith negyddol ar wahanol grwpiau o bobl.