Alert Section

Cynllun Cydraddoldeb Strategol


Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cyflwyno dyletswydd gyffredinol newydd ar gyfer y sector cyhoeddus i ddisodli’r dyletswyddau blaenorol ar gyfer anabledd, rhyw a hil.  Mae’r ddyletswydd gyffredinol yn mynnu bod awdurdodau cyhoeddus yn:

  • Cael gwared ar gamwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir o dan y Ddeddf;
  • Gwella cyfle cyfartal rhwng unigolion sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig perthnasol ac unigolion nad ydynt yn eu rhannu; a
  • Meithrin perthnasoedd da rhwng unigolion sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig perthnasol ac unigolion nad ydynt yn eu rhannu.

Y nodweddion gwarchodedig yw oedran; anabledd; ailbennu rhywedd; priodas a phartneriaeth sifil; beichiogrwydd a mamolaeth; hil; crefydd neu gredoau (gan gynnwys anghredinwyr); rhyw; cyfeiriadedd rhywiol.

Rydym wedi cydweithio â chyrff cyhoeddus eraill ledled y gogledd a hefyd gyda rhanddeiliaid lleol i nodi amcanion.

Yn y dogfennau a’r dolenni ceir rhagor o wybodaeth am ein hamcanion a’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol. 

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028

Hawdd ei Ddeall - Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028