ECO-Flex: Grant Tuag At Wella Effeithlonrwydd Ynni
Gwybodaeth i Breswylwyr
Beth yw ECO?
Cynllun cenedlaethol sy’n caniatáu gwelliannau effeithlonrwydd ynni mewn aelwydydd incwm isel a diamddiffyn yw’r Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO).
Ydw i’n gymwys?
Dan EC04, os nad yw eich cartref (p’un a ydych yn rhentu neu’n berchen ar y tŷ) yn effeithlon o ran ynni, yn ddibynnol ar eich amgylchiadau, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i dderbyn cyllid ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni cartref gan gynnwys uwchraddio ac inswleiddio. Mae dwy ffordd o gymhwyso - mae’n bosibl y byddwch yn gymwys ar gyfer ECO4 os ydych yn hawlio budd-daliadau penodol
Sut ydw i’n gwneud cais?
I gael mynediad at y cynllun, bydd arnoch chi angen gosodwr sy’n cymryd rhan yn y cynllun. Mae’n rhaid i bob cwmni sy’n cael mynediad at ECO4 fod wedi’u hachredu. Gweinyddir y cyllid ar gyfer y cynllun gan asiantau sy’n gweithio ar ran y cwmnïau ynni. Bydd yr Asiantau’n casglu manylion y cleient, yn cwblhau arolygon ynni ar y cartref ac yn trefnu’r gwaith ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus. Ni fydd CSyFf yn cymryd rhan oni bai eich bod yn gymwys dan feini prawf Hyblyg yr ALl.
Cynllun Hyblyg yr ALl
Er mwyn cael mynediad at y cyllid dan feini prawf Hyblyg yr ALl, bydd yn rhaid i chi ddod o hyd i osodwr achrededig sy’n cymryd rhan yn y cynllun a fydd yn arolygu eich eiddo i bennu p’un a ydych yn gymwys ar gyfer cymorth neu beidio (yn seiliedig ar y pecyn o fesurau a argymhellir) a faint o gyllid y gallai eich eiddo’n ei ddenu. I weld rhestr o’r gosodwyr achrededig sydd wedi cytuno i ddarparu cynllun Hyblyg yr ALl o fewn Sir y Fflint, anfonwch eich ymholiad at: Gethin.Mcguinness@siryfflint.gov.uk
I weld rhagor o wybodaeth am y meini prawf fel y nodwyd gan Ofgem, gweler ‘Datganiad o fwriad cymhwysedd hyblyg ECO4’.
Nodwch os gwelwch yn dda, nid arian Cyngor Sir y Fflint yw ECO4, ac nid yw’r Cyngor yn cymeradwyo unrhyw gwmni sy’n cael mynediad at y cynllun.
Landlordiaid ac aelodau’r cyhoedd – peidiwch â chyflwyno ffurflen gais eich hunain, mae angen partneriaeth cwmni ynni, neu eu hasiant.
Am ragor o wybodaeth am y cynllun ECO4, gweler y ddolen i wefan Ofgem.
Ymwadiad
Nodwch os gwelwch yn dda, ni ddylai cwmnïau sy’n cael mynediad at ECO4 dan feini prawf Hyblyg yr ALl alw yn ddi-wahoddiad ac ni ddylent honni eu bod yn gweithio ar ran neu gyda Chyngor Sir y Fflint.
I gael mynediad at y cyllid dan feini prawf Hyblyg yr ALl, mae unrhyw gwmni sy’n dymuno cymryd rhan yn y cynllun eisoes wedi darparu eu hachrediad i Gyngor Sir y Fflint i gymryd rhan. Mae’r broses o dderbyn cwmnïau i gymryd rhan yng nghynllun Hyblyg yr ALl wedi’i ohirio am y tro.
Mae’n bwysig nodi nad yw cymhwysedd ar gyfer y cynllun hwn yn golygu y bydd cyflenwr neu osodwr ynni’n penderfynu gosod mesurau effeithlonrwydd ynni yn eich cartref.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon am gyfreithlondeb cwmni sy’n cael mynediad at ECO, anfonwch e-bost at Gethin.Mcguinness@siryfflint.gov.uk neu ffoniwch 01352 703459.