Annwyl rieni (mamau, tadau, neiniau a theidiau a gofalwyr) a rhai bach (babanod, plant bach, plant iau na thair a phlant yn eu blynyddoedd cynnar),
Croeso i’n gwefan ‘Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant’ newydd – gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i chi. Rydym ni wedi gweithio gyda rhieni, gan ofyn iddynt beth maent ei eisiau, a dywedodd llawer eu bod eisiau un lle i gael gwybodaeth ddibynadwy i helpu rhieni yn Sir y Fflint, a allai gael ei defnyddio ar y cyd ag apiau a gwefannau magu plant eraill sy’n ddefnyddiol. Dyma’r canlyniad, a gobeithio ei fod yn plesio. Fel magu plant, nid yw’r gwaith byth ar ben ac rydym ni’n dysgu pethau ar hyd y daith, felly mae’n dda cael eich ceisiadau, syniadau ac awgrymiadau i wella er mwyn i hwn fod y lle gorau am wybodaeth i holl rieni Sir y Fflint.
Rydw i’n rhiant i ddwy o ferched, ac rydw i’n deall y siwrnai amrywiol o fagu plant – y llawenydd a’r cyfnodau anodd. Pan aned fy mhlentyn cyntaf, doeddwn i ddim yn y swydd rydw i ynddi heddiw, a doedd gen i ddim syniad pwy fyddwn i’n eu cyfarfod fel rhiant: bydwraig, ymwelydd iechyd, gweithiwr teuluoedd. Na pha bethau y byddwn angen eu gwybod fel rhiant – sut i gofrestru genedigaeth? Sut mae cael gofal plant, a dewis yr un cywir a fydd yn gofalu am fy mhlentyn a’i chadw’n ddiogel? Pryd mae plant yn cychwyn yn yr ysgol? Beth sydd angen i mi ei wneud? Roedd yn gwbl newydd i mi. Mi wnes i gyfarfod â phobl drwy grwpiau a sesiynau chwarae, ac fe gefais i lawer o wybodaeth o’r wefan, oedd yn edrych yn wahanol iawn 20 mlynedd yn ôl!
Roedd pobl yn dweud wrthyf i am fwynhau blynyddoedd cynnar fy merched, ond roeddwn i wedi ymlâdd, gyda dau o blant ifanc oedd yn cysgu’n ofnadwy o wael. Fe es i ar raglen STEPS, a wnaeth fy helpu i edrych arnaf i fy hun, a deall fi fy hun yn well. Siaradais gyda’r Ymwelydd Iechyd am gwsg hefyd. Roeddem ni’n dal i gael llawer o nosweithiau di-gwsg, ond fe basiodd y blynyddoedd hynny, ac rydw i yn aml eisiau mynd yn ôl i’r cyfnod lle’r oedd y merched yn neidio i’r gwely gyda mi neu’n chwarae am 5 y bore. Os ydych chi yn y sefyllfa honno, efallai ei bod yn anodd credu hynny!Aeth y blynyddoedd heibio, gyda grwpiau chware, ysgol a gweithgareddau ar ôl ysgol; roedd ffrindiau’n mynd a dod wrth i flynyddoedd yr ysgol fynd o un i un. Dysgais am bwysigrwydd helpu fy mhlant i fod y gorau y gallent fod – doeddwn i ddim yn gwneud popeth yn iawn bob tro, ac rwy’n siŵr y gallen nhw ddweud stori neu ddwy wrthoch chi! Roedd gen i gydweithwraig annwyl i mi, a phan oeddwn i’n tynnu gwallt fy mhen ar adegau yn ystod yr arddegau, dywedai hi ‘Gail, pan alli di ddim gwneud mwy, cara nhw’n fwy’. Mi arhosodd hynny gyda mi. Fe ddois i adnabod yr hyfryd John Coleman hefyd, sydd wedi gweithio gyda llawer o rieni i blant yn eu harddegau, a’r plant eu hunain. Mae ganddo gyfoeth o wybodaeth a phrofiad, ac fe welwch chi rai o’r fideos a’r taflenni gwaith rydym wedi’u datblygu gydag o, ar sail beth oedd prif bryderon rhieni. Rydym wedi cynnwys y rhain gan fod y rhai bach yn tyfu i fod yn eu harddegau, ac mae plant yn eu harddegau’n ceisio darganfod pwy ydyn nhw, a gall hynny fod yn anodd i riant, ond rydw i’n ailadrodd y geiriau uchod – ‘pan alli di ddim gwneud mwy, cara nhw’n fwy’.
Gallwn ysgrifennu cymaint mwy, ond rwy’n gwybod y bydd Jen a Ryan, y sêr sydd wedi datblygu’r wefan hon (diolch i’r ddau ohonynt, sydd wedi bod ar siwrnai greadigol), yn gofyn i mi am ambell blog, felly mi gadwaf rai o fy hanesion at eto.
Mwynhewch eich amser gyda’ch gilydd, o’r blynyddoedd cynnar nes maent yn oedolion – mae’r cyfnod wir yn hedfan. Crëwch atgofion. Byddwch y rhiant gorau y gallwch fod, i’ch plentyn fod y fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain. Os yw hynny’n hawdd, gwych. Os nad yw’n hawdd, chwiliwch am ffrind neu aelod o’r teulu sy’n gallu darparu cyngor cadarn a dull cadarnhaol o fagu plant, neu ofyn am wybodaeth, help neu gymorth. Nid oes y ffasiwn beth â’r rhiant perffaith, na’r teulu perffaith.
Diolch i chi am roi eich amser gwerthfawr i ddarllen hwn.
Gobeithio wir y bydd y wybodaeth sydd yma’n ddefnyddiol i chi – byddai wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi.
Cofion cynnes,
Gail Bennett
Rheolwr Gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant