Mae diogelu’n cynnwys:
- amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin
- atal niwed i iechyd neu ddatblygiad plant
- sicrhau bod plant yn cael eu magu â gofal diogel ac effeithiol
- gweithredu i alluogi pob plentyn a pherson ifanc i gael y canlyniadau gorau.
Mae amddiffyn plant yn rhan o'r broses ddiogelu. Mae’n canolbwyntio ar ddiogelu plant unigol sy’n dioddef, neu’n debygol o ddioddef, niwed sylweddol. Mae’n cynnwys gweithdrefnau amddiffyn plant sy’n disgrifio sut i ymateb i bryderon am blentyn.
Mae canllaw a deddfwriaeth amddiffyn plant a diogelu plant yn berthnasol i holl blant hyd at 18 oed.
Mae ymarferwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant mewn sefyllfa unigryw i arsylwi newidiadau mewn ymddygiad neu ymddangosiad plant sy’n peri pryder am eu lles ac fe ddylai pawb weithredu mewn modd cydlynol ac amserol i ymateb i unrhyw bryderon ynghylch lles plentyn.
Dysgu mwy am ddiogelu