Alert Section

Grant Cist Gymunedol


Mae’r Gist Gymuned yn gynllun grant a ariennir gan Gyngor Sir y Fflint ac a weinyddir gan Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint i gefnogi gweithgareddau cymunedol yn y sir. Rhoddir blaenoriaeth i grwpiau cymunedol lleol sy’n llai o faint.

Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr:

  • fod wedi’u lleoli yn Sir y Fflint;
  • â chyfansoddiad ffurfiol ac nid er elw;
  • Yn annibynnol o gyrff statudol neu gyhoeddus;
  •  Hunanlywodraethol h.y. ddim yn atebol i gorff arall;
  • Cynnal cyfrif banc sydd angen o leiaf dau lofnodwr; ac
  • Mae’n rhaid iddynt weithredu heb unrhyw gyfyngiad ar aelodaeth.   

Nod y grant yw cefnogi mentrau un tro megis:

  • Prosiectau cyfalaf bach er enghraifft, atgyweirio adeiladau a diweddaru nodweddion a gosodiadau mewnol.
  • Digwyddiadau Cymunedol
  • Offer ond nid nwyddau traul*
  • Astudiaethau Dichonolrwydd
  • Cyhoeddusrwydd / marchnata 
  • Hyfforddiant a digwyddiadau / cyrsiau ymwybyddiaeth

*Mae’n rhaid i unrhyw eiddo a brynwyd gyda’r grant barhau'n eiddo i'r grŵp a rhaid iddynt fod ar gael ar gyfer mwy nag un aelod.

Sylwch fod y ffurflen gais a'r nodiadau cyfarwyddyd wedi cael eu diweddaru'n ddiweddar.

Cist Cymunedol Nodiadau Canllaw

Cist Cymunedol Ffurflen Gais

Cais Ar Lein

Am arweiniad ynghylch sut i ymgeisio a / neu ffurflen gais, cysylltwch Heather Hicks, wyddog Cyngor ar Gyllido yng Nghyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint: 01352 744004

Fel arall gallwch e-bostio Heather: Heather.Hicks@flvc.org.uk

Ni fydd unrhyw gais am grant a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae modd gweld rhestr o sefydliadau a gaiff eu cefnogi gan y Grant Cist Gymunedol trwy wefan Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint Grantiau Cyfredol (flvc.org.uk)