Lleoliad:
Rhif 1 Penarlâg, Cross Tree Lane, Penarlâg, Sir y Fflint
Rhif 2 Penarlâg, Ash Lane, Penarlâg, Sir y Fflint
Mynwentydd Rhif 1 Penarlâg: Mewn un gornel o’r Fynwent mae amryw o feddi rhyfel yn dyddio’n ôl i’r Ail Ryfel Byd sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n awr gan y Comisiwn Beddi Rhyfel. Ceir Capel sydd wedi’i adnewyddu’n llwyr yn y Fynwent hefyd, y gellir ei ddefnyddio i gynnal gwasanaethau angladd.
Mynwentydd Rhif 2 Penarlâg: Yn anffodus, ym Mhenarlâg, oherwydd amodau’r tir yn y Fynwent, dim ond i ddyfnder o 4 troedfedd 6 modfedd y gallwn gloddio beddi yn awr, h.y. bedd ar gyfer un. Felly os yw teuluoedd yn awyddus i gael bedd ar gyfer dau rydym yn cynnig beddi “ochr yn ochr”, h.y. dau fedd 4 troedfedd 6 modfedd yn agosach at ei gilydd na dau fedd sengl arferol fel bod modd gosod y gofeb ar draws canol y ddau fedd.
Cyfleusterau sydd ar gael:
- Canolfan ymwelwyr
- Capel
- Dŵr
- Beddi glaswelltog
- Beddi traddodiadol gydag ymylfeini (Rhif 1 Penarlâg)
- Ardal i weddillion amlosgiad
- Toiledau
- Torrwr Beddau Preswyl
- Ardal natur / cadwraeth a phwll