Alert Section

Claddedigaethau cymorth gwladol / iechyd cyhoeddus


Gallwn ddarparu cymorth i gladdu / amlosgi pobl sydd wedi marw pan na ellir gwneud unrhyw drefniadau eraill addas. Darperir y gwasanaeth os nad oes unrhyw berthnasau na ffrindiau, neu os nad oes unrhyw arian neu ddim digon o arian i dalu am y gwasanaeth. Byddwn yn trefnu angladd sylfaenol a gwasanaeth ar lan y bedd. Gall hyn gynnwys darparu teyrnged fach o flodau a hysbysiadau mewn papurau newydd lleol. Ond rhoddir cyngor ar y rhain a threfniadau eraill.

Yna mae awdurdod gan Gyngor Sir y Fflint o dan y Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Rheoli Afiechyd 1984, Adran 46 (Atodiad I) i adennill unrhyw eiddo neu arian oedd gan yr ymadawedig mewn banc / cymdeithas adeiladu, pensiynau neu arian o bolisi yswiriant i dalu costau’r angladd.

Mae gennym gontract blynyddol gyda threfnydd angladdau lleol ac felly mae’n bwysig cysylltu â ni a’r Crwner cyn gwneud trefniadau terfynol gydag ymgymerwr arall.

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i gyflawni dymuniadau’r ymadawedig a/neu berthnasau a ffrindiau.

Gallwch weld gwybodaeth bellach am profedigaeth (ffenestr newydd) ar wefan DirectGov