Cysylltiadau Tai Cyngor
Mae’r Cyngor yn berchen ar oddeutu 7,500 o dai a 1,750 o garejys ac yn eu rheoli i gyd. Mae’r rhain wedi’u lleoli mewn ystadau yn bennaf ac yn cynnwys cymysgedd o dai, fflatiau a byngalos. Mae ganddo gynlluniau gwarchod ar gyfer pobl hŷn hefyd.
Mae’r gwaith o reoli’r tai o ddydd i ddydd a darparu gwasanaethau i denantiaid yn cael ei drin ar lefel leol trwy 3 swyddfa Tai Cymdogaethol: 01352 701500
Mae’r Tîm Incwm yn gyfrifol am gasglu pob rhent sy’n ddyledus i’r Cyngor a gellir cysylltu â’r tîm ar 01352 703838.
Gwaith trwsio yn ystod y dydd: 01352 701660
Gwaith trwsio y tu allan i oriau (argyfwng): 01352 702121
Tîm Opsiynau Tai ar 01352 703777