Garejis Ar Gael i'w Rhentu
Yn dilyn adolygiad manwl o’r holl safleoedd garejis a weithredir gan Gyngor Sir y Fflint ar draws y sir, mae penderfyniadau wedi eu gwneud ar ddyfodol bob safle.
Ystyriwyd y canlynol:-
- cyflwr presennol y garejis,
- costau posibl ailwampio'r garejis lle bo angen yn erbyn costau eu dymchwel,
- costau disgwyliedig ar gyfer gwaith cynnal parhaus y garejis yn y dyfodol,
- y galw am arejis i’w rhentu gan breswylwyr,
- yr angen am fwy o gyfleusterau parcio ceir mewn ardaloedd lle mae parcio ar y stryd ar hyn o bryd yn achosi lefelau annerbyniol o dagfeydd
- materion megis gweithredoedd cyson o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n anodd i’w rheoli
- ymgynghoriadau amrywiol â chroestoriad o denantiaid cyfagos ac Aelodau Cyngor.
Un o ganlyniadau ein hadolygiad yw lle caiff ailwampio garejis gwag eu canfod yn gost-effeithlon, rydym nawr yn y sefyllfa i ddechrau drwy dderbyn ceisiadau gan denantiaid tai cyngor yn eich ardal i rentu’r garejis hyn sydd wedi eu hailwampio.
Os oes gennych ddiddordeb mewn rhentu garej, llenwch y ffurflen gais.
Os oes arnoch angen unrhyw wybodaeth bellach, e-bostiwch Neighbourhood.Housing.Assistants@siryfflint.gov.uk