Alert Section

Rhent Tai


Rhent Tai

Mae Cyngor Sir y Fflint yn berchen ar tua 7,500 o eiddo a 1,750 o garejis, ac yn eu rheoli.Mae’r rhain mewn ystadau yn bennaf gyda chymysgedd o dai, fflatiau a byngalos. gyda mwy yn cael eu hadeiladu bob blwyddyn. Mae yna rai cynlluniau â lloches i bobl hŷn hefyd.Pan fyddwch yn llofnodi cytundeb tenantiaeth ar gyfer eiddo cyngor, rydych yn llofnodi cytundeb y byddwch yn gwneud taliadau rheolaidd o ran eich rhent.

Mae rhent yn cael ei ychwanegu at y cyfrif rhent ar ddydd Llun

Byddwch yn cael llythyr Tâl am Denantiaeth pan fyddwch yn dechrau contract a phob mis Ebrill ar ôl hynny gyda dadansoddiad o'r rhent a thaliadau eraill. Gallwch ofyn am lythyr tâl am denantiaeth newydd drwy fynd i’ch canolfan gysylltu leol, neu drwy gysylltu ag ymgynghorydd incwm.

Ffôn: 01352 703838.

Bydd datganiad o’ch cyfrif rhent yn cael ei anfon atoch bob 3 mis ac ar gais, yn dangos cydbwysedd gyfrif ddiweddaraf.

Bob blwyddyn, mae’r Cyngor yn edrych eto ar rent pob un o’r ddeiliaid contract. Mae’r rhent y byddwch yn ei dalu’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y gwasanaethau i gynnal eich cartref, gwaith trwsio a gwneud gwelliannau i’r eiddo fel rhan o flaenoriaeth y Cyngor i foderneiddio cartrefi’r Cyngor.

Mae’r ffordd mae’r Cyngor yn cyfrifo cynnydd i rent yn cael ei benderfynu gan fformiwla Llywodraeth Cymru. Byddwch yn cael hysbysiad ysgrifenedig o leiaf ddau fis cyn i'ch rhent sylfaenol newid.

Mae’r cyngor yn gweithredu dwy wythnos heb gasgliad, sy’n cael ei ddangos ar eich llythyr tâl am denantiaeth.Os ydych ar ei hôl hi o ran eich rhent neu daliadau eraill, nid yw’r wythnos heb gasgliad yn gymwys ac mae’n rhaid i chi dalu unrhyw rent neu daliadau eraill yn ystod yr wythnosau hyn.

Mae’r cyngor â thîm Incwm penodol sy'n gyfrifol am gasglu'r ôl-ddyledion rhent sy'n weddill, ac sy’n ddyledus i’r cyngor.Efallai y cewch chi alwad gan eich swyddog incwm i gyflwyno eu hunain a chadarnhau eich dull o dalu.Gofynnwn, os ydych gydag unrhyw broblemau i dalu eich rhent, eich bod yn cysylltu â'ch swyddog incwm cyn gynted â phosibl i wneud trefniadau ac unrhyw gefnogaeth y gallwch fod ei hangen.I wybod pwy yw eich swyddog incwm, mae eu henw a'u manylion cyswllt ar eich llythyr tâl am denantiaeth neu fe allwch gysylltu ag ymgynghorydd incwm

Ffôn:Ymgynghorydd Incwm -01352 703838.

Os ydych yn ddeiliad contract ar y cyd (mwy nag un person wedi llofnodi’r contract), rydych yn gyfrifol ar y cyd am yr holl rent neu daliadau eraill sy’n ddyledus i’r Cyngor.

Pe baech yn gweld eich hun yn mynd i ôl-ddyledion rhent, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â ni cyn gynted â phosibl neu pan gewch y llythyr cyntaf gennym, neu efallai y cymerir camau pellach yn eich erbyn os daw eich ôl-ddyledion yn anfoddhaol.

Os ydych yn dymuno dod â’ch contract i ben, mae gofyn i chi lenwi ffurflen terfynu contract drwy ei chasglu o’ch canolfan gysylltu leol, ei hargraffu eich hun neu gysylltu â’ch swyddog tai a fydd yn anfon un atoch drwy e-bost neu bost.

Polisi Cytundeb Contract

Pan fyddwch yn derbyn contract gyda chartref sy’n eiddo i’r Cyngor, byddwch yn cael cytundeb contract. Mae’r cytundeb contract yn nodi’ch goblygiadau chi fel deiliad contract, a rhai Cyngor Sir y Fflint fel landlord. Mae’r cytundeb hwn yn gontract sy’n rhwymol yn gyfreithiol, rhyngoch chi a Chyngor Sir y Fflint.   

Rhent a Thaliadau eraill

Caiff eich rhent ei ddefnyddio i dalu am y gwasanaethau tai rydych yn eu cael. Mae’n bwysig bod pawb yn talu eu rhent yn rheolaidd ac ar amser, fel y gallwn fforddio i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Mae’r adran hon yn sôn am eich goblygiadau i dalu eich rhent.

Ein Rhwymedigaethau;

1. Os ydym yn casglu’r tâl am nwy, trydan, cefnogaeth tenantiaeth, tanc septig, yswiriant cynnwys, neu’r drwydded teledu â chonsesiwn a gwasanaethau eraill fel rhan o'ch rhent i gyd, byddwn yn eu talu i’r sefydliadau priodol.

2. Byddwn yn rhoi rhybudd ysgrifenedig sydd o leiaf 8 wythnos cyn cynyddu neu ostwng y rhent.

3. Gallwn gynyddu neu ostwng newidiadau eraill sy'n cael eu cynnwys yn y rhent gyda llai na phedair wythnos o rybudd.

4. Byddwch yn cael gwybod yn ysgrifenedig o leiaf wythnos ymlaen llaw am unrhyw newid i'r taliadau hyn.

5. Byddwn yn rhoi datganiad rhent cyfredol bedair gwaith y flwyddyn a phryd bynnag y byddwch yn gofyn am un.

6. Efallai y bydd gofyn i chi dalu’r taliadau gwasanaeth hefyd. Dyma daliadau nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y rhent. Fe allai esiamplau o wasanaethau gynnwys glanhau ardaloedd cymunedol, garddio a gwasanaethau eraill mewn ardaloedd cymunedol. Os bydd tâl gwasanaeth, caiff ei nodi’n glir ar eich ffurflen manylion tenantiaeth.

Eich Rhwymedigaethau

1. Rhaid i chi dalu eich rhent ac unrhyw daliadau eraill yn rheolaidd ac ar amser, mae rhent yn ddyledus wythnos ymlaen llaw ar ddydd Llun.

2. Gall eich rhent gynnwys taliadau am nwy, trydan, tanc septig, yswiriant cynnwys, neu’r drwydded deledu â chonsesiwn a gwasanaethau eraill, os nad ydyw’n cynnwys y rhain, rhaid i chi dalu amdanynt yn uniongyrchol.

3. Rydych yn cytuno, os yw gwasanaethau cefnogi’n cael eu cynnwys fel amod o’ch meddiannaeth, y byddwch yn derbyn, yn talu ac yn defnyddio'r gwasanaethau cefnogi y cytunwyd arnynt, a ddarperir gennym ar eich rhan.

4. Rhaid i chi dalu unrhyw ôl-ddyledion rhent yn unol ag unrhyw gytundeb a wneir gyda ni. Mae hyn hefyd yn gymwys i unrhyw ôl-ddyledion o denantiaeth flaenorol a oedd gennych gyda ni.

Talu Eich Rhent

Mae sawl ffordd i dalu’ch rhent.

Debyd Uniongyrchol

Debyd uniongyrchol yw’r ffordd fwyaf hwylus o dalu ac mae mwyafrif o’n cwsmeriaid yn dewis talu yn y dull hwn.

Rydym yn cynnig dewis o ddyddiadau talu, sef:

  • Bob mis ar y 2nd, 15th;
  • Yn wythnosol ar ddydd Llun.

Mae sefydlu Debyd Uniongyrchol yn hawdd ac mae newid i’r dull hwn o dalu yn syml, trwy gyflwyno ein Ffurflen Debyd Uniongyrchol ar-lein.

Cliciwch yma i sefydlu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill o ran sefydlu Debyd Uniongyrchol, ffoniwch y tîm Rhenti tai ar 01352 703838.

Talu ar-lein
Gallwch dalu ar-lein gyda’r rhan fwyaf o gardiau credyd a debyd. 

Rhyngrwyd/Bancio dros y Ffôn
Fel arall fe allwch chi dalu drwy archeb sefydlog neu ar y rhyngrwyd drwy wasanaeth bancio ar-lein.  Manylion banc y Cyngor yw: Cod Didoli: 54-10-10, Rhif Cyfrif: 72521775.  Cofiwch nodi’ch cyfeirnod tenantiaeth sydd ar eich llythyr taliadau tenantiaeth.

Sir y Fflint yn Cysylltu 
Rydym ni’n derbyn taliadau arian parod a’r rhan fwyaf o gardiau credyd a debyd.  Dewch â’ch llythyr taliadau tenantiaeth efo chi pan fyddwch chi’n gwneud eich taliad, a byddwch yn derbyn derbynneb. Am wybodaeth ynglŷn ag oriau agor a chyfeiriadau, dilynwch ddolen Sir y Fflint yn Cysylltu.

Wythnos Heb Gasgliad

Mae'r Cyngor yn gweithredu cynllun o gynnig dwy wythnos o beidio â thalu rhent ac ar gyfer 2023/24 bydd y rhain yn digwydd yn yr wythnos sy'n dechrau ar 25 Rhagfyr 2023 ac 25 Mawrth 2024. Os oes gennych chi ôl-ddyledion rhent, mae'n bwysig eich bod yn parhau â'r taliadau hyd yn oed yn ystod y ddwy wythnos lle na chesglir rhent.

Rhaid talu o hyd os yw eich cyfrif mewn Ôl-ddyledion yn ystod y cyfnodau heb gasgliadau hyn.

Budd-Dal Tai A Rhent

Os ydych â hawl i gael budd-dal tai, gwnewch hawliad cyn gynted â phosibl a rhoi gwybod i’ch swyddog incwm eich bod wedi gwneud hynny, oherwydd fe allai hyn effeithio ar eich ôl-ddyledion yn ystod y cyfnod hwn.

Nid yw budd-daliadau tai/costau tai yn cyflenwi taliadau gwres, yswiriant, rhai taliadau larwm neu rent garej, rhaid i chi dalu am y rhain eich hun. Gall peidio â thalu eich rhent effeithio ar unrhyw yswiriant a all fod gennych gyda’r cyngor, ac felly ni fydd unrhyw yswiriant sydd gennych gyda Chyngor Sir y Fflint yn ddilys.

Newid yn eich amgylchiadau.

Os oes gennych newidiadau yn eich amgylchiadau, rhaid i chi gysylltu â budd-daliadau tai cyn gynted â phosibl gan y bydd hyn yn effeithio ar faint o gymorth a gewch tuag at eich rhent, a gall gynnwys gor-daliad. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â budd-daliadau tai ar 01352 704848 neu www.siryfflint.gov.uk/benefits

Credyd Cynhwysol A Rhent

Mae’r system budd-daliadau'n newid ac mae llawer o fudd-daliadau'n dod i ben ac yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol. Credyd Cynhwysol - www.gov.uk/Universal Credit

Mae budd-dal tai yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch ôl-ddyledion rhent ar hyn o bryd, tra bydd Credyd Cynhwysol, yn cynnwys costau tai’n cael eu talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc. Eich cyfrifoldeb chi yw talu’r elfen cost tai i’ch cyfrif rhent. Gallwch wneud taliadau ar-lein drwy ein system talu ar-lein.

Mae mwy o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol ar gael yn www.gov.uk/universalcredit/overview

Ôl-Ddyledion Rhent

NID OES GAN Y CYNGOR UNRHYW DDYLETSWYDD GYFREITHIOL I'CH HELPU OS YDYCH YN DOD YN DDIGARTREF OHERWYDD ÔL-DDYLEDION RHENT.

Sylwer:

Rhoi hysbysiad yw’r cam cyntaf o gamau gweithredu cyfreithiol y cyngor i ailfeddiannu’ch cartref.

Yn dilyn yr hysbysiad, mae gennych 28 diwrnod i wneud trefniant i ail-dalu'r ôl-ddyledion. Mae’r hysbysiad yn ddilys am 6 mis, gall y cyngor wneud cais unrhyw bryd o fewn y 6 mis i'r llys sirol am orchymyn i'ch troi allan o'ch cartref.

Os talwch eich rhent yn llawn yn ystod y 6 mis, ni fydd yr hysbysiad yn bodoli mwyach.

Gwrandawiad Llys

Gwrandawiad llys yw’r ail gam yn y broses gyfreithiol. Byddwch yn cael hysbysiad ysgrifenedig gan y cyngor yn rhoi gwybod i chi am ddyddiad y gwrandawiad llys. Mae’n bwysig eich bod yn bresennol gan ei fod yn gyfle i chi drafod y rheswm dros beidio â thalu gyda’r barnwr.

Bydd y cyngor yn gofyn am orchymyn adennill meddiant i’ch troi allan o’ch cartref. Fodd bynnag, gall y llys benderfynu gohirio neu atal y gorchymyn os ydych yn cadw at delerau'r gorchymyn, a byddwch yn cael aros yn eich cartref. Byddwch yn gorfod talu costau’r llys.

Troi allan

Os na fydd gorchymyn y llys yn cael ei gadw, bydd y cyngor yn ymgeisio am warant i’ch troi allan o’ch cartref. Yn dilyn troi allan, byddwch yn atebol am ôl-ddyledion rhent a chostau llys.

Os ydych angen unrhyw help a chymorth yn ystod y cyfnod hwn, cysylltwch â'ch swyddog incwm cyn gynted â phosibl i wneud trefniadau ac unrhyw gefnogaeth y gallwch fod ei hangen.

Ad-daliad Credyd

Os ydych chi wedi derbyn bil yn dangos credyd ar eich cyfrif Rhent Tai, gallwch hawlio'r credyd hwn gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Cliciwch Yma I Hawlio eich Ad-daliad o Rhen Tai

Cefnogaeth Tai

Cyngor ar Ddyledion

Gall fod mewn dyledion fod yn llawn straen ac yn frawychus, ac efallai y bydd angen cefnogaeth i’ch helpu i reoli unrhyw faterion dyled a all fod gennych. Mae sawl opsiwn a chefnogaeth ar gyfer cyngor ar ddyledion,

Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint - www.flintshirecab.org

Ffôn: 0808 278 7923

Neu gallwch holi eich swyddog incwm i’ch atgyfeirio am gefnogaeth.

Shelter Cymru- www.sheltercymru.org.uk

Cyllidebu

Mae undebau credyd yn cynnig ffordd gyfleus i chi arbed, a’r cyfle i gael mynediad at fenthyciadau cost isel ac amrediad o fudd-daliadau eraill.

Manylion Cyswllt

Os ydych yn dymuno siarad â ni am unrhyw ymholiadau rhent, gallwch gysylltu â'ch swyddog incwm, sydd ar eich datganiad rhent.

Ffôn: 01352 703838

E-bost: rents@flintshire.gov.uk

Diogelu Data

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw a’i thrin yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 ar gyfer y diben o weinyddu Rhent.

Gallwn ddatgelu gwybodaeth yn gyfreithiol i asiantaethau sector cyhoeddus eraill i atal neu ganfod twyll budd-daliadau, troseddau eraill ac i ddiogelu arian cyhoeddus.

Gallwn hefyd ddefnyddio gwybodaeth rhenti amdanoch, i’ch helpu i gael gafael ar ein gwasanaethau’n haws, hyrwyddo darpariaeth mwy effeithlon o wasanaethau, neu’n helpu i adennill arian sy’n ddyledus.

Efallai y bydd angen i chi gysylltu â ni am ba reswm bynnag e.e. os ydych yn symud, rydych am gael mwy o wybodaeth, neu eisiau gwneud taliad.