Alert Section

Gweithredu Diwydiannol Dydd Iau 10 Gorffennaf


Terfir ar wasanaethau Cyngor Sir y Fflint ddydd Iau 10 Gorffennaf oherwydd streic genedlaethol undydd gan weithwyr y sector cyhoeddus.  Bydd nifer o adeiladau a swyddfeydd y cyngor ar gau a therfir ar bob gwasanaeth, gan gynnwys ysgolion.  Bydd nifer gyfyngedig o weithwyr ar gael yn ystod oriau swyddfa arferol (8.30am tan 5pm) yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug i ymdrin ag argyfyngau ar 01352 752121.

 SIR Y FFLINT YN CYSYLLTU

 Cei Connah – Ar gau

Y Fflint – Ar gau i wasanaethau’r Cyngor

Treffynnon – Ar gau

 GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Cysylltir â defnyddwyr unigol y gwasanaeth os terfir ar y gwasanaethau a dderbyniant gan y Cyngor.

YSGOLION (gan gynnwys cludiant ysgol)

Bydd penaethiaid pob ysgol unigol yn rhoi gwybod i’r rhieni p’un a fydd eu hysgolion ar agor ai peidio. 

Current school closures

Bydd gwasanaethau bysiau ysgol i gerbydau dros 9 sedd yn cludo plant i’r ysgolion cynradd ac uwchradd hynny a fydd ar agor yn ôl yr arfer ar y diwrnod.

Fodd bynnag, ni fydd tacsis a bysiau mini trwyddedig sydd â llai na 9 sedd yn rhedeg, gan gynnwys tacsis sy’n cysylltu i brif bwyntiau casglu ar hyd y ffordd.  Bydd gofyn i rieni wneud trefniadau eraill lle bo hynny’n bosibl.

Oherwydd ansicrwydd ynglŷn â darpariaeth hebryngwyr ysgol ni fyddwn yn gallu darparu cludiant i’r rheiny sy’n arfer cael hebryngwyr.

 CASGLIADAU GWASTRAFF A DEUNYDDIAU AILGYLCHU’R CARTREF

 Ni fydd unrhyw gasgliadau gwastraff yn cael eu cynnal ar y diwrnod.

Bydd biniau du a ddylai gael eu casglu ar y diwrnod hwn yn cael eu casglu ddydd Iau 17 Gorffennaf ynghyd â’r biniau brown, bwyd ac ailgylchu.

Ni fydd biniau brown a ddylai gael eu casglu ddydd Iau 10 Gorffennaf yn cael eu casglu tan y casgliad arferol nesaf sef 24 Gorffennaf.

PARCIAU AILGYLCHU

Bydd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar gau.  Bydd y gwasanaeth arferol yn dychwelyd ddydd Gwener 11 Gorffennaf.

CANOLFANNAU HAMDDEN

 Disgwylir i’r canolfannau canlynol fod ar agor:

Canolfan Chwaraeon Cei Connah

Pwll Nofio Cei Connah ond bydd y pwll i ddysgwyr ar gau yn ystod sesiynau nofio cyhoeddus

Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy

Canolfan Chwaraeon Ysgol Uwchradd y Fflint

Canolfan Hamdden Treffynnon

Canolfan Chwaraeon yr Hôb

Pafiliwn Jade Jones  

Canolfan Hamdden yr Wyddgrug ond bydd yr Ystafell Ffitrwydd yn cau yn gynnar am 8pm

Canolfan Hamdden Treffynnon

Canolfan Chwaraeon yr Hôb

Canolfan Chwaraeon Saltney

 Ar gau:

Canolfan Hamdden Bwcle

 Argymhellir fod cwsmeriaid yn gwirio gyda chanolfannau hamdden unigol drwy ffonio neu wirio’r wefan (www.siryfflint.gov.uk/hamdden) cyn ymweld â nhw.

 PARCIAU GWLEDIG

Parc Gwepra, Cei Connah – ar agor

Dyffryn Maes Glas – Ar agor

 LLYFRGELLOEDD

Bydd pob llyfrgell, ar wahân i Dreffynnon, Bwcle a Mynydd Isa, ar gau i’r cyhoedd.  Ni fydd gwasanaeth y llyfrgell deithiol nac i bobl sy’n gaeth i’w tai yn gweithredu ar y diwrnod.

SWYDDFEYDD ARIAN

Bydd pob Swyddfa Arian ar gau.

CLWYD THEATR CYMRU

Ni fydd unrhyw berfformiadau theatr na ffilm.

MARCHNADOEDD STRYD TREFFYNNON A CHEI CONNAH

Yn gweithredu yn ôl yr arfer.

 List of council offices and facilities open or closed Thursday 10 July (pdf opens in new window)

Gofynwn i bobl fod yn amyneddgar yn ystod yr amhariadau ar wasanaethau o ganlyniad i’r gweithredu diwydiannol cenedlaethol hwn.