Astudiaeth Achos
Roedd Lisha yn 19 oed, yn byw Sir y Fflint ac yn ddi-waith ers dros ddwy flynedd. Cafodd ei chyfeirio at Gymunedau am Waith a dyrannwyd mentor iddi. Nid oedd gan Lisha lawer o brofiad gwaith yn flaenorol ac roedd ei hyder yn isel ac nid oedd yn teimlo’n gyfforddus yn mynd allan o’i hardal leol.
Gweithiodd ei mentor gyda hi i godi ei hyder a’i pharatoi at wneud cais am gyfleoedd gwaith. Ym mis Awst, cynhaliodd Sainsbury’s ymgyrch recriwtio ar gyfer gweithwyr glanhau yn yr ardal. Llwyddodd Lisha i ddod o hyd i waith ar ôl cael cefnogaeth gan ei mentor gyda sgiliau cyfweld a chasglu’r ID priodol.
Mae Lisha wedi cael dyrchafiad i Reolwr Safle yn ddiweddar ac mae bellach yn gweithio’n llawn amser ac yn chwilio am ei chartref ei hun. Dywedodd Lisha ei fod “yn mynd yn wych. Rwyf wrth fy modd yn codi i fynd i’r gwaith yn y bore a rhoi fy ngwisg ymlaen, ac rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd.”
Dywedodd mentor Lisha, er bod ganddi ddiffyg sgiliau, dim cludiant ac ychydig iawn o brofiad gwaith blaenorol, mae’n rhoi llawer o foddhad gweld pa mor dda y mae Lisha yn ei wneud rwan. Mae wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i’w bywyd. Mae hi wedi gwneud yn ofnadwy o dda ac fe ddylai fod yn falch iawn o’i hun.