Alert Section

Ynghylch Ein Gweithwyr Dan Hyfforddiant

Fel Gweithiwr dan Hyfforddiant i Sir y Fflint, byddwch yn dysgu yn y gwaith, yn cynyddu eich gwybodaeth a'ch sgiliau, yn ennill cymwysterau ac arian ar yr un pryd.

Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gynorthwyo pobl i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gael gwaith, byddwn yn recriwtio nifer o hyfforddeion i ddechrau yn hydref 2023.

Bydd Hyfforddeion Sir y Fflint yn cael eu rhoi ar Raglen Brentisiaeth. Fel Hyfforddai Sir y Fflint byddwch yn dysgu wrth weithio, gan wella’ch gwybodaeth a’ch sgiliau yn ogystal ag ennill cymwysterau a derbyn cyflog, i gyd yr un pryd.

Yn Sir y Fflint rydym ni’n recriwtio ein gweithwyr dan hyfforddiant yn ystod y gwanwyn a’r haf, fel eu bod yn barod i ddechrau gweithio a chofrestru yn y coleg ym mis Medi. Ar gyfer y Cyngor, mae'n ffordd wych i ddatblygu pobl gyda'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen. I chi, mae'n gyfle i gael profiad ymarferol a hyfforddiant yn y gwaith, wrth ennill cymwysterau a gaiff eu cydnabod yn y diwydiant.

Gall lleoliadau bara rhwng un a phedair blynedd yn dibynnu ar y cymhwyster a lefel y lleoliad.  Fel arfer bydd hyfforddeion yn seiliedig yn y gwaith am bedwar diwrnod a’r coleg am un diwrnod yr wythnos, unwaith eto mae hyn yn dibynnu ar strwythur y cymhwyster. 

Mae ein cynllun gweithwyr dan hyfforddiant wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol ac yn 2016 fe gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Prentis y Flwyddyn y Sefydliad Dysgu a Pherfformiad.

Roedd y corff dyfarnu yn hapus iawn gydag agwedd y Cyngor tuag at

  • ymrwymiad i brentisiaethau,
  • cyfraddau llwyddo - 98% yn mynd yn eu blaenau i gael gwaith, ac
  • agwedd arloesol i gyflawni’r rhaglen.

Mathau o leoliadau sydd i’w cael yng Nghyngor Sir y Fflint

Mae nifer o wahanol fathau o leoliadau ar wahanol lefelau:

Hyfforddeion Sir y Fflint

Hyfforddiant ar Lefel Uwch Sir y Fflint

Hyfforddeion Graddedig Sir y Fflint

Gallwch wneud cais am fwy nag un swydd hyfforddai. Llenwch ffurflen gais ar-lein ar wahân ar gyfer pob swydd mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.

Mae’r Cyngor yn cydnabod bod y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn sgil bwysig a gwerthfawr yn y gweithle, ac mae wedi ymrwymo i gynyddu nifer y gweithwyr dwyieithog. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer unrhyw swydd gan ymgeiswyr sydd yn gallu gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Byddwn hefyd yn cefnogi gweithwyr newydd a phresennol sy’n dymuno dysgu Cymraeg neu wella / datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg.

Yn y Gweithle

Bydd eich profiad yn y gweithle yn golygu gwneud gweithgareddau gwaith sy'n berthnasol i'r cymhwyster yr ydych yn ei wneud.  Byddwch yn cael cynnig profiad yn y meysydd canlynol:

  • Cyfathrebu â chydweithwyr a chwsmeriaid
  • Gweithio mewn tîm
  • Ennill dealltwriaeth o Iechyd a Diogelwch yn y gweithle
  • Profiad gwaith penodol yn yr alwedigaeth berthnasol rydych wedi’i dewis.

Ar ben hyn i gyd byddwch yn cael eich talu!

Mae Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi cyflwyno rhaglen brentisiaeth pob oed newydd, felly efallai ei bod hi’n bosibl eich bod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth waeth beth fo’ch oedran.

Cyflog

Lleoliadau Sylfaen: £20,103

Lleoliadau ar gael i raddedigion: £21,189

Gweithio i Sir Y Fflint

Y manteision o weithio yng Nghyngor Sir y Fflint

Polisi Amrywiaeth a Chydraddoldeb