Aelod Lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Mae Sir y Fflint yn gyngor unedol sydd ag enw da am arloesedd, gweithio mewn partneriaeth blaengar, a chyflawni ei ymrwymiadau'n gryf yn rhanbarth Gogledd Cymru a ledled Cymru.
Gyda chymaint o gyfleoedd a heriau o'n blaenau, bydd aelod lleyg y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn dod ag ystod o wybodaeth, sgiliau a phrofiad o'r sector preifat, y sector cyhoeddus neu'r trydydd sector i helpu'r Cyngor i barhau i weithredu er budd y cyhoedd a dilyn canllawiau arfer gorau.
Ar hyn o bryd, mae saith Cynghorydd a tri aelod lleyg ar Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Sir y Fflint. Fodd bynnag, gan fod un o’r aelodau lleyg yn dod i ddiwedd ei dymor rydym yn awr yn awyddus i recriwtio aelod lleyg newydd i ymuno â’n Pwyllgor. Mae aelod lleyg yn dod ag ymagwedd ddiduedd a phwyllog wrth adolygu digonolrwydd a gweithrediad ein prosesau a’n gweithdrefnau mewnol.
Gall bod yn aelod lleyg fod yn brofiad gwerth chweil gan roi'r cyfle i chi gynrychioli cymuned Sir y Fflint yn annibynnol.
Mae adborth gan ein haelodau lleyg presennol yn dangos pa mor werthfawr yw rôl:
- 'Rwy'n teimlo fy mod yn helpu i ddiogelu buddiannau trigolion Sir y Fflint drwy gadw llygad barcud ar sut mae'r Cyngor yn cynnal ei fusnes a gofyn cwestiynau drwy'r amser...nes fy mod yn fodlon!'
- ‘Fel aelod o Bwyllgor Archwilio, mae gennyf trosolwg o'r trefniadau ar gyfer adrodd ariannol, rheoli risg ac archwilio. Ceisiaf ddefnyddio fy mhrofiad o weithio mewn llywodraeth leol am flynyddoedd lawer, gobeithio, i wella'r trefniadau presennol drwy ofyn cwestiynau a darparu her adeiladol. Fel hyn, mae'n werth cyfrannu at y broses lywodraethu gorfforaethol a allai arwain yn y pen draw at well gwasanaethau i'r gymuned leol'.
Dyddiad cau:
Dydd Sul 2 Chwefror 2025
Taliadau:
Cyfarfod Hanner Diwrnod - £105
Cyfarfod yn para dros 4 awr - £210
I weld rhagor o wybodaeth am rôl aelod lleyg, gweler y cysylltiadau isod.