Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau Gogledd Cymru
Ymunwch â’r rheng flaen rithwir fel rhan o Wasanaeth Olrhain Cysylltiadau Gogledd Cymru
Mae Cyngor Sir y Fflint, fel y cyflogwr arweiniol ar gyfer Gwasanaeth newydd Olrhain Cysylltiadau Gogledd Cymru, ar hyn o bryd yn recriwtio timau olrhain i gael eu halinio â bob un o chwe chyngor Gogledd Cymru.
Ynglŷn â Phrofi, Olrhain, Diogelu
Mae olrhain cyswllt yn ddull profedig o reoli afiechydon heintus rhag lledaenu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Profi, Olrhain, Diogelu. Caiff ei weithredu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd a Chynghorau lleol ar draws Cymru, gyda’i nod o gyfyngu ar ledaeniad yr haint, olrhain y feirws a diogelu ein cymunedau.
Mae’n gweithio drwy:
- Brofi pobl sydd â symptomau, tra byddan nhw, a’u haelwydydd, yn hunan-ynysu
- Olrhain pobl sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif, a gofyn iddynt hunan-ynysu
- Diogelu’r gymuned drwy leihau lledaeniad COVID-19, yn enwedig y rhai mwyaf diamddiffyn
- Caniatáu pobl (a’u haelwydydd) sy’n cael canlyniad negyddol ac â symptomau nad ydynt o ganlyniad i’r coronafeirws, i ddychwelyd i’w trefnau arferol
Am fwy o wybodaeth am Brofi, Olrhain, Diogelu, ewch i https://llyw.cymru/olrhain-cysylltiadau-eich-cwestiynau
Beth yw Gwasanaeth Olrhain Gogledd Cymru?
Mae pob cyngor Gogledd Cymru’n gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu gwasanaeth olrhain cyswllt ar draws Gogledd Cymru.
Bydd timau olrhain cyswllt, a gyflogir gan Gyngor Sir y Fflint, yn cael eu halinio â bob un o chwe chyngor Gogledd Cymru. Er bydd timau’n gyffredinol yn cysylltu ag achosion sy’n lleol i ardal y Cyngor y cawsant eu halinio â hi, byddant hefyd yn darparu gwasanaeth ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru i gyd, yn ôl y gofyn, er enghraifft pan fo achosion o COVID-19, neu’r achosion hynny’n cynyddu.
Timau Olrhain Cyswllt
Rydym yn bwriadu recriwtio amrywiaeth o bobl i gyflawni rolau:
- Olrheinwyr Cyswllt - £23,541 - £25,991
- Ymgynghorwyr Cyswllt - £19,312 - £20,502
Fel aelod o’r tîm olrhain cyswllt, byddwch yn:
- cynnal cyfweliad cychwynnol o achosion positif o COVID-19 a/neu gysylltiadau dros y ffôn
- nodi a mynd ar drywydd cysylltiadau a darparu cyngor iechyd cyhoeddus (lle bo’n briodol)
- sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chofnodi’n brydlon ac yn gywir o’r cyfweliadau hynny, drwy ddefnyddio’r systemau a ddarperir
Hoffem glywed gennych os ydych yn:
- frwdfrydig, yn gadarnhaol a gyda dull agos-atoch
- brwdfrydig dros ragori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid a darparu profiad cwsmeriaid eithriadol
- cyfathrebwr gwych, yn ysgrifenedig ac ar lafar
- gallu gwneud sawl peth ar yr un pryd, blaenoriaethu a rheoli amser yn effeithiol
- hyfedr wrth ddefnyddio Microsoft Office, Word ac Excel
- gallu i ddeall a dilyn gweithdrefnau a sgriptiau gweithredu safonol
Yn gyfnewid am hyn, gallwn gynnig patrwm gweithio hyblyg i chi, sy’n gweddu i’ch anghenion unigol orau, gan gynnwys:
- gweithio gyda’r hwyr ac ar benwythnosau
- dewis o naill ai gytundeb cyfnod penodol tan 30 Mehefin 2021, neu shifftiau ad-hoc hyblyg
- cyfarpar addas, hyfforddiant, sesiynau derbyn a deunyddiau cyflwyno
Fel rhan o'n hymrwymiad i ddatblygu gweithlu dwyieithog, croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n medru dangos eu gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg ynghyd â'r rheini sydd â sgiliau iaith ychwanegol. Mae sgiliau'r Gymraeg yn hanfodol i'r rheini sy'n gweithio gyda chydweithwyr yn Ynys Môn a Gwynedd.
Os hoffech ymuno â’r rheng flaen rithwir a chwarae eich rhan yn trechu’r pandemig, ymgeisiwch nawr!
I weld y Swydd-ddisgrifiadau, Manylion am yr Unigolyn a Thelerau ac Amodau, cliciwch yma.