Alert Section

Cyfle Cyfartal


Cydraddoldeb

Mae Cyngor Sir y Fflint yn hybu cyfle cyfartal fel cyflogwr ac fel darparwr gwasanaethau ac mae’n croesawu ceisiadau gan bawb yn y gymuned. Ein nod yw sicrhau nad yw unrhyw un sy’n ymgeisio am swydd neu sy’n gweithio i ni’n cael ei drin yn llai ffafriol ar sail Oedran, Anabledd, Ailbennu rhywedd, Priodas a phartneriaeth sifil, Beichiogrwydd a mamolaeth, Hil, Crefydd neu gred, Rhyw, Tueddfryd Rhywiol.  Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithredu, a bydd yn parhau i weithredu, dulliau a gweithdrefnau penodol i sicrhau bod ei holl weithwyr a’i ddarpar weithwyr yn cael eu trin yn deg ac nad ydynt yn destun gwahaniaethu annheg. 

Monitro Cydraddoleb

Bydd y wybodaeth a gasglwn ar ein Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal yn cael ei defnyddio i fonitro pa mor effeithiol yw’n polisi cyfle cyfartal o ran recriwitio a dethol staff ac i’n helpu ni i ddatblygu a gwella. Pan fyddwn yn cael eich cais, caiff y Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal ei phrosesu ar wahân. Ni fydd aelodau’r panel yn gweld y wybodaeth ac ni chaiff ei defnyddio wrth benderfynu ar eich cais neu wrth benderfynu a ydych yn addas ar gyfer y swydd. Dywedwch wrthym os hoffech unrhyw gymorth neu os hoffech i ni addasu’r broses ddethol am resymau fel crefydd, anabledd, iechyd neu feichiogrwydd.

Cyflogau Cyfartal

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi egwyddor cyflogau cyfartal am waith cyfartal o werth cyfartal ac yn cydnabod y dylid bod â strwythur cyflogau a graddio heb unrhyw dueddfrydau sydd wedi'i seilio ar feini prawf gwrthrychol.

Cynllun Gwarantu Cyfweliad

Mae’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn un o bump o’r ymrwymiadau sydd ynghlwm wrth Symbol Anabledd Canolfan Byd Gwaith a gaiff ei noddi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. O dan y cynllun hwn, mae Cyngor Sir y Fflint yn cytuno i warantu cyfweliad i bob ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae hyn yn berthnasol i swyddi a hysbysebir yn allanol ac yn fewnol.

Nod yr ymrwymiad hwn yw canolbwyntio ar allu’r ymgeiswyr yn hytrach na’u hanabledd, gan ein bod yn cydnabod y byddent yn cael eu diraddio’n bersonol pe bawn yn eu categoreiddio neu’u stereoteipio ac y byddai hynny hefyd, o bosibl,  yn atal y sefydliad rhag recriwtio’r person gorau ar gyfer y swydd.  

Beth y mae’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn ei olygu?

O dan y cynllun, os oes gennych anabledd ac yn ymgeisio am swydd gyda’r Cyngor Sir, rydym yn gwarantu cyfweliad i chi os ydych yn bodloni’r meini prawf neu’r safonau sylfaenol ar gyfer y swydd.

Gofynnir i’r holl ymgeiswyr nodi a hoffent wneud cais drwy gyfrwng y cynllun hwn. Llenwch adran 14 yn y ffurflen gais. 

Mae Cyngor Sir Y Fflint yn aelod o’r rhaglen Cefnogwyr Amrywiaeth Stonewall ac yn Gyflogwr Anabledd Hyderus.