Alert Section

Tanciau Olew Domestig


Tanciau Olew Domestig – Beth i’w wneud os yw olew yn gollwng neu’n cael ei golli

Os ydych chi neu rywun rydych yn eu hadnabod yn defnyddio tanc olew i gyflenwi gwres canolog sy'n ddibynnol ar danwydd olew, gall y llyfryn hwn helpu i osgoi costau sylweddol, anghyfleustra a risgiau i'ch iechyd a'r amgylchedd sy'n cael eu hachosi pan mae tanc gwres canolog olew yn gollwng o'r tanc storio neu ei rwydweithiau o bibelli.

Bydd y llyfryn hwn yn esbonio pethau y gellir eu gwneud i atal damweiniau megis gollwng a cholli, pwy i gysylltu â nhw am gyngor a chamau i'w cymryd os yw damwain yn digwydd.

Mae olew yn wenwynig a gall achosi niwed i'ch iechyd ac iechyd eich teulu, planhigion, anifeiliaid, bywyd gwyllt a'r amgylchedd.  

Gall olew deithio’n bell yn y tir a’r dŵr, a gall halogi cronfeydd dŵr tanddaearol yn rhwydd drwy dreiddio’n ddwfn i’r tir. Gall fwyta drwy bibelli’r cyflenwad dŵr a halogi cyflenwadau dŵr yfed.  

Os yw damwain yn digwydd, gall eich Cyngor lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru gynnig cymorth.

Gwiriwch eich tanc a'ch pibelli'n rheolaidd am ollyngiadau a monitrwch faint o olew rydych yn ei ddefnyddio. Gall cynnydd yn y swm o olew rydych yn defnyddio neu ostyngiad sydyn yn yr olew yn eich tanc olygu ei fod yn gollwng.

Lawrlwytho llyfryn