Alert Section

Gorfodi (datblygiadau diawdurdod)


Sylwch na allwn brosesu ceisiadau papur, cyflwynwch trwy'r porth neu'r blychau e-bost isod.

Os oes gennych ymholiad ceisiwch ei gyflwyno trwy e-bost yn uniongyrchol i'r swyddog. Os nad ydych yn adnabod cyfeiriad e-bost y swyddog defnyddiwch y cyfeiriad canlynol:

  • Ar gyfer materion cynllunio e-bost planningadmin@flintshire.gov.uk
  • Ar gyfer rheoliadau adeiladu e-bostiwch bcadmin@flintshire.gov.uk
  • Ar gyfer e-bost datblygu priffyrdd highwaysdc@flintshire.gov.uk  

Bydd rhai yn dechrau gweithio neu'n dechrau gweithgaredd heb ofyn am y caniatâd angenrheidiol.  Efallai bydd eraill yn cael caniatâd cynllunio ond yn methu cydymffurfio â'r caniatâd neu ambell amod a fydd ynghlwm ag o.  Mae'r Gwasanaeth Gorfodi Cynllunio yn delio â'r tor-rheolau hyn.

Ymchwilio i dor-rheolaeth cynllunio honedig

Nid yw'n drosedd gwneud datblygiad a ddylai fod yn destun caniatâd cynllunio i ddechrau, ond bydd yn drosedd os na fyddwch yn cydymffurfio â Rhybudd Gorfodi.  Fel arfer ni fyddwn yn cyflawni gweithred gorfodi oni bai iddi ddod i'r pen, ond mewn ambell achos efallai bydd gweithred ffurfiol yn angenrheidiol o'r dechrau. Gwneir ymchwiliadau yn unol â Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol ac mewn ambell achos byddwn yn erlyn.

Byddwn yn ymchwilio i bob honiad o dorri rheolaeth adeiladu

Ym mhob achos unigol, byddwn yn:

  • Cofrestru’r holl gwynion ysgrifenedig
  • Trin pob cwyn yn gyfrinachol o fewn y Cyngor.
  • Cydnabod pob cwyn cyn pen 3 diwrnod gwaith (ar yr amod ein bod wedi cael enwau a chyfeiriadau cyswllt).
  • Yn ymweld â safleoedd ac yn ymchwilio ar sail blaenoriaeth.
  • Yn gofyn am gyflwyno cais ôl-weithredol os yw'n debygol y byddwch yn cael caniatâd.
  • Yn rhoi gwybod i'r un sy'n cwyno mewn llythyr pan fyddwn wedi cael cais ôl-weithredol
  • Lle bo angen, byddwn yn cyflawni gweithred gorfodi trwy gyflwyno'r rhybudd cyfreithiol priodol a fydd yn pennu'r gwaith angenrheidiol ac erbyn pryd y dylid ei wneud.
  • Yn rhoi gwybod i'r un sy'n cwyno ein bod wedi cyflawni gweithred gorfodi a phryd bydd y Rhybudd Gorfodi'n dod i rym.
  • Yn delio ag apeliadau gorfodi ac yn gwneud yn siwr fod yr un sy'n cwyno'n ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd.
  • Yn hysbysu pawb sy'n cwyno pan fydd yr ymchwiliadau wedi'u cwblhau (ar yr amod ein bod wedi cael enwau a chyfeiriadau cyswllt).

Efallai byddwn yn monitro datblygiad sydd wedi'i gymeradwyo yn ystod y cyfnod adeiladu.

Byddwn yn:

  • Ymweld â safleoedd ac yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag amodau.
  • Trafod gyda datblygwyr y dewisiadau sydd ar gael i wneud iawn am unrhyw dor-rheoli.
  • Yn gofyn am gyflwyno ceisiadau cynllunio wedi'u newid i'w hystyried pan fyddwn yn gweld bod y gwaith ar y safle yn wahanol i'r cynlluniau sydd wedi'u cymeradwyo.
  • Yn cyflawni Gweithred Gorfodi fel bo'n briodol, yn ôl yr angen.

Pryd byddwn ni'n ystyried gweithred ffurfiol?

Byddwn yn ystyried gweithred ffurfiol:

  • Pan fydd datblygiad yn dechrau neu newid defnydd yn digwydd heb y caniatâd cynllunio perthnasol.
  • Pan fydd gwaith i goed sydd o dan orchmynion cadw yn cael ei wneud heb ganiatâd (mae hyn yn drosedd)
  • Mae arddangos hysbysebion heb ganiatâd yn drosedd, bydd achos llys yn digwydd pan na fydd arwyddion yn cael eu symud yn unol â'n cais
  • Pan fydd Adeiladau Rhestredig neu adeiladau mewn Ardaloedd Cadwraeth yn cael eu dymchwel neu eu haddasu heb ganiatâd (mae hyn yn drosedd)

Beth na fyddwn yn ei wneud

  • Delio ag anghydfod rhwng cymdogion
  • Ymchwilio i ddadleuon ynghylch perchnogaeth tir / ffin

Gallwch ddweud wrthym am dor-rheolaeth cynllunio honedig trwy:

Gallwch helpu trwy gasglu cymaint o wybodaeth â phosib (cadw cofnodion fel amseroedd a dyddiadau digwyddiadau a.a.) a bod yn barod i roi tystiolaeth os bydd achos cyfreithiol.

Cyflwyno ymholiad

  • Ysgrifennwch at:

    Rheoli Cynllunio, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NF.

Beth os bydd rhywun yn cwyno am eich adeilad?

Os bydd rhywun yn cwyno am eich adeilad:

  • Ni fyddwn yn mynd i mewn i'ch eiddo nes y byddwn yn credu'i bod yn rhaid i ni wneud hynny. Bydd gan swyddogion fodd o'u hadnabod bob amser. Mae gan swyddogion Hawl Mynediad i dir ac eiddo i ymchwilio ac efallai byddan nhw'n tynnu lluniau fel tystiolaeth.
  • Byddwn yn gwneud ymchwiliad llawn ac annibynnol i'r mater cyn penderfynu ar unrhyw weithred.
  • Byddwn yn dweud wrthych beth fydd casgliadau'n hymchwiliad. Byddwn yn dweud wrthych beth yr ydych wedi'i wneud o'i le, sut yr hoffen ni i chi ei gywiro, faint o amser y byddwch chi'n ei gael i wneud hyn, a beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn ei gywiro.
  • Byddwn yn ysgrifennu atoch os byddwn yn penderfynu rhoi Rhybudd Gorfodi neu ddechrau eich erlyn.

Apeliadau gorfodi - cyngor

Ceir gwybodaeth am sut i apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi a sut y gall y rheiny sydd â diddordeb gymryd rhan mewn Apeliadau Gorfodi ar gwefan Arolygiaeth Cynllunio (ffenestr newydd). Bydd manylion y broses hon yn dod gyda'r hysbysiad pan fydd yn cael ei gyflwyno. Os gwneir apêl, mae amodau unrhyw hysbysiad yn ddi-rym tan fydd penderfyniad wedi'i roi. Nid oes hawl i apelio o ran Hysbysiad Torri Amod.