Alert Section

Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint


Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint - Mabwysiadu

Mabwysiadwyd CDLl Sir y Fflint gan y Cyngor ar 24/01/23 ac mae’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 2015 a 2030. Mae’n ffurfio rhan o’r cynllun datblygu statudol ochr yn ochr â Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040.  Y rhan sy’n weddill o’r cynllun datblygu statudol fydd y Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer Gogledd Cymru, pan fydd wedi’i baratoi a’i fabwysiadu. Bydd y Cyngor yn defnyddio’r CDLl a Cymru’r Dyfodol fel y brif sail ar gyfer gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio a chynigion datblygu. 

Mae mabwysiadu’r CDLl yn cyd-fynd â’r dogfennau canlynol: Datganiad ar ôl Mabwysiadu ymaAdroddiad Terfynol Arfarniad o Gynaliadwyedd yma & Diweddariad i Fabwysiadu Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yma

Dogfennau CDLlMae

Datganiad ysgrifenedig – yn cynnwys cyflwyniad, strategaeth, polisïau strategol, polisïau rheoli datblygu manwl a fframwaith monitro. Mae modd gweld y datganiad ysgrifenedig mabwysiedig yma

Mapiau Cynigion – gellir gweld y mapiau cynigion naill ai fel map rhyngweithiol yma neu fel cyfres o ddogfennau pdf isod (mae’r map hwn yn darparu canllaw gweledol syml i’r hyn a gaiff ei gwmpasu ar bob un o’r mapiau):

Mae’r CDLl wedi’i ategu gan fap cyfyngiadau ar wahân, a gellir ei weld fel map rhyngweithiol yma. Mae’r map cyfyngiadau er gwybodaeth yn unig ac nid yw’n ffurfio rhan o’r cynllun datblygu statudol a fabwysiadwyd

Mae fersiynau terfynol o’r CDLl a fabwysiadwyd nawr ar gael i’w gweld mewn copi caled yn Nhŷ Dewi Sant yn Ewloe, Neuadd y Sir yn Yr Wyddgrug, Swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu ac mewn llyfrgelloedd.

PWYSIG – CYHOEDDI ADRODDIAD YR AROLYGWR 

Derbyniwyd adroddiad rhwymol yr arolygwyr gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru ar 15/12/22. Mae hyn yn nodi diwedd yr archwiliad o Gynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint. Mae’r adroddiad ar gael ar-lein yma ac mae copi caled ar gael yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug, Tŷ Dewi Sant, Ewlo, yn ein Swyddfeydd Cysylltu a’n Llyfrgelloedd, yn ystod eu horiau agor arferol. Mae gan y Cyngor 8 wythnos o ddyddiad derbyn yr adroddiad i fabwysiadu’r Cynllun. Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar 17 Ionawr 2023 ac yna i’r Cyngor ar 24 Ionawr 2023 i geisio cymeradwyaeth i fabwysiadu’r CDLl. Bydd yr adroddiadau ar gael drwy ddilyn y dolenni canlynol unwaith y bydd y rhaglenni wedi’u cyhoeddi. Caiff cyfarfodydd y Cabinet a’r Cyngor eu darlledu’n fyw fel gweddarllediad, ac maent ar gael drwy ddilyn y ddolen hon.

Mae’r adroddiad i’r Cabinet a’r Cyngor yn cynnwys nifer o atodiadau gan gynnwys datganiad ysgrifenedig diwygiedig drafft, sy’n cymryd i ystyriaeth yr argymhellion yn Adroddiad yr Arolygwyr. Mae’r adroddiadau yn gysylltiedig â’r dogfennau isod:

PWYSIG - CYHOEDDI SYLWADAU AM NEWIDIADAU MATERION SY’N CODI

Dechreuodd yr ymgynghoriad  6 wythnos ar Newidiadau Materion sy’n Codi ddydd Gwener 17 Mehefin a daeth i ben ddydd Gwener 29 Gorffennaf. 

Mae manylion yr ymgynghoriad i’w gweld yma

Mae’r sylwadau yn awr ar gael i’w gweld yma

Yn ychwanegol at y lleoliadau ymgynghori a restrir yn y dogfennau ymgynghori, bydd y dogfennau Newidiadau Materion sy’n Codi a’r sylwadau yn awr hefyd ar gael i’w gweld yn Nhŷ Dewi Sant, Ewlo (08.30 tan 17.00) a Neuadd y Sir, yr Wyddgrug (08.30 tan 17.00), yn ogystal ag yn swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu a llyfrgelloedd. 

 

Mae Cynllunio yng Nghymru yn seiliedig ar drefn a arweinir gan gynlluniau. Mae pob awdurdod cynllunio lleol yn paratoi cynlluniau datblygu er mwyn darparu ar gyfer anghenion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y Sir.  Mae cynlluniau datblygu’n cynnwys fframwaith o bolisïau a chynigion sy’n ceisio rheoleiddio a rheoli datblygiad a defnydd tir, a darparu sail ar gyfer gwneud penderfyniadau cyson a thryloyw ar geisiadau cynllunio unigol.

Ar ôl mabwysiadu Cynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint, mae’r Cyngor nawr yn dechrau paratoi Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer y Sir. Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn arddull newydd sy’n wahanol i’r CDU yn y ffordd y caiff ei baratoi. Nodwedd allweddol o’r broses CDLl yw’r cyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid yn gynnar yn y broses, er mwyn rhoi cyfle iddynt ddylanwadu ar y Cynllun a’i ddatblygiad.

Bydd y CDLl yn canolbwyntio ar ddarparu datblygiad cynaliadwy yn y Sir am gyfnod o 15 mlynedd o 2015 i 2030 a bydd yn cynnwys:

  • polisïau a fydd yn arwain penderfyniadau am geisiadau cynllunio
  • cynigion ar gyfer datblygu tai, adwerthu, cyflogaeth a defnydd tir arall
  • polisïau sy’n ceisio amddiffyn a gwella’r amgylchedd naturiol ac adeiledig

Yn dilyn cyflwyno’r CDLl i’w Archwilio i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio ym mis Hydref 2020, ar hyn o bryd mae’r CDLl yn y cam Archwilio a gellir gweld yr holl wybodaeth sy’n berthnasol i’r Archwiliad drwy ymweld â gwefan Archwilio.

Gweld y Porth Ymgynghoriad CDLl (dolen)

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y CDLl at 01352 703213 neu drwy e-bost cynlluniaudatblygu@siryfflint.gov.uk

Crynodeb o'r Cynnydd:

  • Cytundeb Cyflawni a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru yn Chwefror 2014
  • Dogfen a thystiolaeth llyfrgell uploaded ac ar gael i'w gweld ar y dudalen we CDLl.
  • Ymgynghoriad ar Papurau Pwnc (Maw / Ebrill 2015)
  • Cyhoeddi Safleoedd Ymgeisiol Register ac ymgynghoriad ar Fethodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol (Maw / Ebrill 2015)
  • Ymgynghoriad ar y ddogfen Negeseuon Allweddol ac archwiliadau aneddiadau (Mawrth 2016)
  • Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffafrir (Tach 2017)
  • Ymgynghoriad ar y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd (Medi 2019)
  • Cyflwyniad (Hydref 2020)
  • Archwiliad (Mis Rhagfyr 2020 ymlaen)

Cytundeb Darparu acordion

Paratoi Cytundeb Cyflawni yw’r cam cyntaf yn y broses CDLl. Yn ei hanfod, mae’r Cytundeb Cyflawni yn gynllun prosiect sy’n nodi ‘Amserlen’ a ‘Chynllun Ymgysylltu â'r Gymuned’. Mae’r amserlen ar gyfer paratoi a mabwysiadu’r Cynllun yn cynnwys holl ddyddiadau allweddol y camau amrywiol yn natblygiad y Cynllun. Mae’r cynllun ymgysylltu â’r gymuned yn esbonio sut a phryd y bydd pobl yn cael cyfle i ymgysylltu â’r gwaith paratoi ac ymgynghori ar gamau allweddol, ac mae’n nodi sut y bydd y Cyngor yn trin yr ymatebion a pha adborth y bydd yn ei roi.

Cymeradwywyd Cytundeb Cyflawni’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru ar 12/02/14. Mae angen i’r Cyngor adolygu’r Cytundeb Cyflawni yn rheolaidd ac mae nifer o adolygiadau dilynol wedi’u cytuno gyda Llywodraeth Cymru. 

O ganlyniad i effeithiau Covid-19, cafodd diwygiad pellach i’r Cytundeb Cyflawni ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ar 27/07/20. Mae’r Cytundeb Cyflawni diwygiedig yn gosod yr amserlen ddiwygiedig gyda llithriad o 4 mis. Hefyd mae’n gosod Datganiad Ymgysylltu â'r Gymuned diwygiedig i adlewyrchu y cyfyngiadau parhaus o ran gwneud sylwadau a’r dogfennau sydd ar gael i’w harchwilio mewn lleoliadau ymgynghori. Mae’r pwyslais yn hytrach ar ddarparu sylwadau yn electronig ar wefan a phorth ymgynghori’r Cyngor https://flintshire.objective.co.uk/portal/planning/ldp/ldp/representations/  

Archwiliad acordion

Ar ôl Cyflwyno'r Cynllun, cynhelir Archwiliad gan Arolygydd Cynllunio annibynnol yn gynnar yn 2021. Bydd mwy o fanylion yn dilyn

Arfarnu Cynaliadwyedd (Adroddiad Cwmpasu) acordion

Mae’r Cyngor yn cynnal arfarniad cynaliadwyedd o’r Cynllun Datblygu Lleol, sy’n ffordd ddibynadwy o sicrhau bod materion cynaliadwyedd yn cael eu hystyried wrth baratoi’r Cynllun.  Y Cynllun Cwmpasu yw’r cam cyntaf yn yr arfarniad cynaliadwyedd ac mae’n amlinellu’r wybodaeth gefnir, y cyd-destun a’r materion cynaliadwyedd sy’n ymwneud â’r Cynllun sy’n cael ei arfarnu.  Mae hefyd yn esbonio’r methodolegau a ddefnyddir i gwblhau gweddill y broses arfarnu.

Er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r Sir, mae’n hanfodol bwysig bod rhanddeiliaid yn helpu’r Cyngor i ymgymryd â’r broses o arfarnu cynaliadwyedd a nodi: 

  • y cynlluniau, y polisïau, y rhaglenni a’r mentrau perthnasol sydd wedi’u cynnwys yn y dogfennau strategol perthnasol a fydd yn sail i’r broses arfarnu cynaliadwyedd a’r cynllun lleol; 
  • y wybodaeth sylfaenol berthnasol;
  • y prif faterion a’r problemau’n ymwneud â chynaliadwyedd;
  • fframwaith arfarnu, sy’n cynnwys amcanion a dangosyddion cynaliadwyedd, i’w defnyddio wrth ystyried y cynllun lleol.

Gofynnwn am sylwadau ar yr Adroddiad Cwmpasu yn ystod cyfnod ymgynghori o 5 wythnos gan ddechrau dydd Llun 13 Ebrill ac a ddaw i ben ddydd Llun 18 Mai. Mae’r Adroddiad Cwmpasu  hefyd i’w weld yn Swyddfeydd y Cyngor ac mewn llyfrgelloedd. 

Flintshire LDP SA scoping report 

Dylech anfon sylwadau i developmentplans@flintshire.gov.uk 
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch linell gymorth y CDLl ar 01352 703213.


Safleoedd Ymgeisiol a Safleoedd Amgen acordion

Mae adnabod safleoedd y gellid eu cynnwys yn y Cynllun yn elfen allweddol o’r sail dystiolaeth.  Cyhoeddodd y Cyngor ‘Alwad am Safleoedd Ymgeisiol’ fel y gallai unrhyw un â diddordeb gynnig tir i’r Cyngor ei ystyried wrth bennu dyraniadau tir yn y Cynllun.  Rhaid pwysleisio nad yw cynnig Safle Ymgeisiol o reidrwydd yn golygu y caiff y safle ei gynnwys yn y Cynllun.

Dechreuodd y cyfnod ar gyfer cynnig Safleoedd Ymgeisiol ar 28/02/14 a daeth i ben am 5.00pm ar 30/05/14. Lluniwyd Nodyn cyfarwyddyd i egluro’r drefn o gyflwyno Safle Ymgeisiol a gellir gweld y nodyn hwnnw drwy glicio ar y ddolen. Darparwyd Ffurflen gyflwyno i gynorthwyo pobl i gynnig safleoedd a gellir gweld honno hefyd drwy glicio ar y ddolen.

Yn sgil yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol derbyniwyd cynigion ar gyfer 734 o safleoedd i’w datblygu neu i’w gwarchod rhag datblygu.  Mae’r safleoedd hynny oll wedi’u prosesu bellach a llythyrau o gydnabyddiaeth wedi’u hanfon at y cynigwyr, ac mae’r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol ar gael i’w gweld.

Ar ôl Galw am Safleoedd Posibl, hyrwyddwyd 734 o safleoedd i’w datblygu, neu i’w diogelu rhag cael eu datblygu. Mae’r safleoedd yn awr wedi’u prosesu ac anfonwyd llythyrau ffurfiol yn cydnabod hyn. Mae’r Gofrestr o Safleoedd Posibl yn awr ar gael i’w harchwilio.

Cyhoeddodd y Cyngor ddogfen ddrafft yn egluro’r Fethodoleg a’r Drefn Asesu a ddefnyddid wrth ystyried cynnwys Safleoedd Ymgeisiol yn y Cynllun Datblygu Lleol. Cynhaliwyd ymgynghoriad ynghylch y Fethodoleg ddrafft am chwe wythnos rhwng dydd Llun 9 Mawrth a dydd Llun 20 Ebrill 2015. Cyfarfu’r Grŵp Strategaeth Cynllunio ar 21 Mai 2015 i drafod y sylwadau a dderbyniwyd ynglŷn â’r Fethodoleg ddrafft.

O ganlyniad i hynny gwnaed amryw newidiadau yn y (Fethodoleg ar gyfer Asesu Safleoedd Ymgeisiol) a chyflwynir y rheiny yn yr adroddiad hwn. Mae’r ddogfen sy’n egluro’r Fethodoleg ar gyfer Asesu Safleoedd Ymgeisiol hefyd ar gael i’w gweld yn Swyddfeydd y Cyngor a llyfrgelloedd y Sir.

Bydd y Cyngor yn cyhoeddi adroddiad ynglŷn â pha Safleoedd Ymgeisiol a fu’n llwyddiannus neu beidio. Cyn gwneud hynny, fodd bynnag, mae’n rhaid i’r Cyngor gymeradwyo ei Strategaeth a Ffefrir (Cynllun Ymgynghori Cyn Adneuo) gan bennu lefel y twf y bydd y Cynllun yn ei ddarparu yn ogystal â dosbarthiad gofodol y twf ledled y Sir. Wedi hynny caiff Safleoedd Ymgeisiol sy’n ‘dechnegol’ dderbyniol ar sail asesiad eu cymharu â Strategaeth y Cynllun wrth benderfynu pa safleoedd a gaiff eu cynnwys yn y cynllun adneuo. Ar yr adeg hon y cyhoeddir canlyniadau’r asesiad o safleoedd ymgeisiol.

Galwad pellach am safleoedd ymgeisiol – Mwynau a Gwastraff / Llety Sipsiwn a Theithwyr

Cofrestr Safleoedd Amgen

Cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol am chwe wythnos rhwng 9 Tachwedd a 21 Rhagfyr 2017. Rhoes hynny gyfle i unrhyw un â diddordeb gynnig safleoedd newydd neu safleoedd amgen y gellid ystyried eu cynnwys yn y cam nesaf o baratoi’r cynllun, sef y Cynllun Adneuo.

Dim ond safleoedd newydd a safleoedd presennol a ddiwygiwyd a dderbyniwyd fel safleoedd amgen. Roeddent yn ychwanegol i’r safleoedd hynny a restrwyd yn y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol y gellir ei gweld drwy glicio ar y ddolen hon. Caiff yr holl safleoedd hynny eu hystyried gyda’i gilydd wrth benderfynu a ydynt yn addas i’w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol. Mae swyddogion y Cyngor wedi creu cofrestr o safleoedd amgen y gellir ei gweld drwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod. Dylid nodi nad yw’r ffaith fod safle amgen ar y gofrestr yn golygu o reidrwydd bod y Cyngor yn ymrwymo i gynnwys y safle hwnnw yn y Cynllun Datblygu Lleol. Mae’n bosib, fodd bynnag, y gellid dyrannu rhai o’r safleoedd amgen wrth lunio’r Cynllun Adneuo - y cam nesaf o baratoi’r cynllun.

Yn y pen draw, Arolygydd Cynllunio annibynnol sydd i benderfynu a ddylid cynnwys safle yn y Cynllun Datblygu Lleol neu beidio, a hynny ar sail Archwiliad Cyhoeddus. Cyflwynir y Gofrestr er gwybodaeth yn unig ac ni dderbynnir unrhyw sylwadau ynglŷn â’r Safleoedd Amgen. Os penderfynir cynnwys rhyw safle neilltuol yn y Cynllun Datblygu Lleol ar ôl asesu’r holl safleoedd a gynigiwyd, yna bydd cyfle i bobl gyflwyno sylwadau yn ystod yr ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y Cynllun yn nes ymlaen yn y broses.

Sut i chwilio am Safle Amgen:

Cliciwch ar y map o’r Sir isod i chwilio am Safleoedd Amgen a gynigiwyd.  

Map o Safleoedd Amgen y Sir (PDF)

Fe gewch chi fwy o wybodaeth am bob Safle Amgen drwy agor y gofrestr isod a chwilio fesul anheddiad.

Mae’r gofrestr yn mynd yn nhrefn yr wyddor fesul anheddiad; er enghraifft, Alltami – ALLT009 – AS, Bagillt – BAG016 – AS. Ceir atodlen ar gyfer pob safle sy’n cynnwys cynllun sy’n dangos ffiniau’r safle a gwybodaeth allweddol fel enw’r safle/anheddiad, arwynebedd y safle, y defnydd presennol a’r defnydd arfaethedig.

Cofrestr Safleoedd Amgen (PDF)

Y Cynllun Datblygu Lleol – Testun Ar Y We acordion

Mae’r Cyngor wedi paratoi set o 18 o Bapurau Testun yn ymwneud ag amrywiaeth o faterion a phynciau.  Mae pob Papur Testun yn esbonio’r canllawiau perthnasol ar gyfer y testun dan sylw ac yn nodi’r problemau y bydd angen i’r Cynllun ymdrin â nhw, yn ogystal â’r polisïau posibl y gellid eu cynnwys yn y Cynllun. Nod y Papurau Testun yw rhoi cyfle i randdeiliaid a’r cyhoedd gyfrannu at y Cynllun ar ddechrau’r broses drwy nodi materion y dylai’r Cynllun fod yn ymdrin â nhw ac awgrymu sut y dylid gwneud hynny.

Gwahoddir sylwadau ar y Papurau Pwnc am gyfnod ymgynghori o 6 wythnos yn dechrau ar Ddydd Llun 9 Mawrth ac yn gorffen ar Ddydd Llun 20 Ebrill 2015. Mae’r Papurau Testun hefyd ar gael i’w gweld yn Swyddfeydd y Sir ac yn y llyfrgelloedd. Dylid anfon sylwadau drwy’r e-bost at developmentplans@flintshire.gov.uk neu drwy’r post at Reolwr y Strategaeth Gynllunio, Adran yr Amgylchedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NF. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch linell gymorth y CDLl ar  01352 703213.

Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol acordion

Mae Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol (Y Fforwm) wedi’i sefydlu i hybu’r broses o baratoi’r Cynllun.  Bydd gan aelodau’r Fforwm ran bwysig yn ystod y cyfnodau sy’n allweddol i’r  broses o baratoi’r cynllun, yn enwedig pan fydd angen pennu sail dystiolaeth ac ystyried gweledigaeth, amcanion a dewisiadau o ran strategaeth ofodol a thwf.  Bydd y Fforwm yn gweithredu drwy gyfrwng cyfarfodydd ffurfiol a gaiff eu cynnal yn rheolaidd drwy gydol y cyfnodau allweddol a bydd yn gweithredu fel seinfwrdd i drafod materion a dewisiadau allweddol.

Mae’r Fforwm yn dibynnu’n drwm ar y Bwrdd Gwasanaethau Lleol (sy’n gyfrifol am y Strategaeth Gymunedol a’r Cynllun Integredig Unigol) a bydd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat o amrywiaeth o ddisgyblaethau a chaiff y rhain eu rhestru yn y Cylch Gorchwyl isod.  Mae’n cynnwys yr ymgynghoreion statudol allweddol a sefydliadau eraill sy’n cynrychioli disgyblaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ac sy’n gallu ymgymryd â rôl fwy strategol o safbwynt y Cynllun.  Rhaid i’r Fforwm sicrhau cydbwysedd o ran nifer yr aelodau; os na fydd digon o aelodau, bydd yn anodd sicrhau cytundeb ar y ffordd ymlaen, ond os bydd gormod o aelodau, gall y Fforwm fod yn rhy fawr i fod yn gynhyrchiol.  

Diben y Fforwm yw rhannu syniadau, dod â materion allweddol i’r amlwg a gweithredu fel seinfwrdd i helpu i baratoi’r CDLl  newydd.  Rhaid tanlinellu mai rôl gynghorol sydd gan y Fforwm ac ni all wneud penderfyniadau - aelodau etholedig y Cyngor sy’n penderfynu ar faterion yn ymwneud â’r Cynllun.  Bydd nodiadau ar bob cyfarfod yn cael eu cyflwyno i Grŵp Strategaeth Cynllunio’r Cyngor a fydd yn eu trafod cyn eu dosbarthu i aelodau’r Fforwm a’u postio isod:  

Asesiad Marchnad Tai Lleol ar y cyd Wrecsam a Sir Fflint acordion

Mae Wrecsam a Sir y Fflint yn ymgymryd ag Asesiad Marchnad Tai Lleol ar y cyd. 

Bu cartrefi yn y ddwy ardal yn cael eu gofyn i gymryd rhan mewn arolwg i ddeall y swm a'r math o dai sydd eu hangen dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys y galw posibl am dai fforddiadwy.  Bydd y wybodaeth a gesglir yn helpu'r ddwy Cyngor i baratoi'r polisïau tai a chynllunio ar gyfer yr ardal yn y dyfodol. 

Bydd yr Asesiad yn cael gwybod faint o dai sydd ei angen, beth yw'r dyheadau o gartrefi a'r angen am dai arbenigol â chymorth ar gyfer grwpiau penodol, fel pobl hŷn. 

Mae cwmni tai arbenigol ac ymchwil o'r enw Arc4 wedi ei benodi i gynghori'r Cyngor.  Bydd eu hymchwil yn seiliedig ar arolwg o drigolion lleol, trafodaethau gydag adeiladwyr tai, gwerthwyr tai, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a phartïon eraill sydd â diddordeb, a dadansoddiad o wybodaeth ystadegol megis y Cyfrifiad 2011. 

Bydd arolwg drwy'r post yn cael ei anfon allan ym mis Medi 2014 i dros 27,500 o gartrefi a ddewiswyd ar hap ar draws Wrecsam a Sir y Fflint.  Mae hwn yn gyfle pwysig i breswylwyr sy'n derbyn yr holiadur i ddweud eu dweud ac i dychwelyd yn yr amlen radbost a ddarparwyd.

Mae’r adroddiad terfynol ar gael bellach ac mae’n cynnwys adroddiad cyffredinol ac adroddiad manwl.

Arolwg Newydd Sir y Fflint o Ddeiliadaeth Tai  acordion

Mae Sir y Fflint wedi cynnal Arolwg Meddiannaeth Tai Newydd o aelwydydd Sir y Fflint, yn benodol, tai newydd sydd wedi'u hadeiladu yn y Sir rhwng 2010 a 2014.  Mae hwn yn arolwg i helpu'r Cyngor gael dealltwriaeth o dai newydd yn y Sir. Roedd yr arolwg yn cynnwys cwestiynau i ganfod pwy sydd wedi symud yn y Sir, o ble maent wedi symud, a pham maent wedi symud i gartref newydd.  Bydd yr wybodaeth sy’n cael ei chasglu’n helpu'r Cyngor baratoi’r polisïau cynllunio a thai yn y dyfodol ar gyfer yr ardal.  Mae’r asesiad yn ymwneud â materion fel y math o eiddo y mae pobl yn symud iddynt ac ohonynt, oedrannau’n bobl yn y tai newydd, ble mae pobl yn gweithio, a hefyd yn cynnwys cwestiynau am y Gymraeg.  Penodwyd cwmni tai ac ymchwil arbenigol, Arc4, i gynghori’r Cyngor.  Anfonwyd arolwg drwy’r post yng Ngorffennaf 2015 i 1,994 o aelwydydd ar draws Sir y Fflint. Llenwyd cyfanswm o 391 o holiaduron, sy’n cynrychioli cyfradd ymateb o 20%. Mae’r adroddiad yn rhoi graff trosolwg cyffredinol a thabl gyda chanfyddiadau o’r arolwg. Mae copi o’r holiadur er mwyn cyfeirio ato yn Atodiad A hefyd. 

Dogfen Negeseuon Allweddol  acordion

Mae'r Cyngor wedi cynhyrchu dogfen 'Negeseuon Allweddol' sy'n gosod y weledigaeth ar gyfer y Cynllun, y materion sydd i'w hwynebu yn y Cynllun a'r amcanion ar gyfer y Cynllun.  Bwriad yr ymarfer ymgynghori oedd sicrhau bod ystod o randdeiliaid, gan gynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, yn gyfforddus gyda chyfeiriad y Cynllun.

Mae'r ddogfen hefyd yn adeiladu ar waith sy'n ymwneud ag arolwg diweddar o wasanaethau a chyfleusterau anheddiad. Mae'r gwaith hwn ar gynaliadwyedd pob anheddiad wedi llywio adolygiad o'r dull a ddefnyddir yn y CDU o ran categoreiddio anheddiad ac arwain at nifer o opsiynau hierarchaeth aneddiadau i gael eu hystyried.  Mae'r ymgynghoriad, felly, yn ceisio safbwyntiau i weld a yw'r dull a ddefnyddir yn y CDU yn dal yn addas i'r diben neu a yw un o'r dulliau eraill yn fwy priodol.

Mae'r dogfennau ymgynghori'n cynnwys y ddogfen Negeseuon Allweddol ei huna'r adroddiadau archwilio anheddiad ategol.  Mae'r ddogfen Negeseuon Allweddol yn cynnwys tair elfen:

  • Yr adran sy'n ymdrin â chwestiynau rhagosodedig a blychau ateb
  • Atodiad 1 - amlinellu'r fethodoleg ar gyfer asesu cynaliadwyedd anheddau
  • Atodiad 2 - yn nodi nifer o wahanol ddulliau o gategoreiddio anheddiad

Bu’r ddogfen Negeseuon Allweddol yn destun ymarfer ymgynghori 6 wythnos a gychwynnwyd ar ddydd Gwener 18 Mawrth gan ddod i ben am 5pm ar ddydd Gwener 29 Ebrill 2016. Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi’u hadrodd i Grŵp Strategaeth Cynllunio ar 2 Mai, 2016 ac mae hyn wedi arwain at nifer o fân newidiadau i'r ddogfen. Mae hyn bellach ar gael fel dogfen Negeseuon Allweddol diwygiedig gan roi sylw i’r tabl crynodeb o'r sylwadau a'r ymatebion a gyflwynwyd i ac a gytunwyd gan y Grŵp Strategaeth Cynllunio. Ar ben hynny, mae mân ddiwygiadau wedi'u gwneud i'r archwiliadau anheddau i Benyffordd/ Penymynydd, Afonwen, Caerwys a Choed-llai. Bydd hyn yn awr yn cynorthwyo'r Grŵp Strategaeth Cynllunio wrth ystyried y gwaith o lunio dewisiadau twf a gofodol a fydd yn destun ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni.

Gellir cyfeirio unrhyw ymholiadau at linell gymorth y CDLl 01352 703213 neu drwy ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost uchod.

Opsiynau Strategol acordion

Mae’r Cyngor wedi llunio dogfen ‘Opsiynau Strategol’ a fydd yn destun ymarfer ymgynghori a fydd yn dechrau ddydd Gwener 28 Hydref 2016 ac yn dod i ben ddydd Gwener 9 Rhagfyr 2016.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn dilyn ymlaen o’r ymgynghoriad diweddar ar ddogfen Negeseuon Allweddol, ac mae’n cael ei llywio ganddi.  Roedd ymgynghoriad dogfen Negeseuon Allweddol yn fodd i’r Cyngor gadarnhau’r weledigaeth ar gyfer y Cynllun, y materion y mae’r Cynllun yn eu hwynebu, amcanion ar gyfer y Cynllun, hierarchaeth aneddiadau a ffafrir a'r negeseuon allweddol sy'n dod i'r amlwg.

Mae'r ddogfen Opsiynau Strategol yn ystyried Opsiynau Twf ar gyfer y Cynllun (faint o dwf i'w ddarparu) ac Opsiynau Gofodol (sut mae twf yn cael ei ddosbarthu ar draws y Sir).  Bydd canlyniad yr ymgynghoriad yn helpu'r Cyngor i lunio 'Strategaeth a Ffefrir' ar gyfer y Cynllun, a fydd ynddo'i hun yn destun ymgynghoriad pellach ar ffurf Cynllun ymgynghori drafft cyn adneuo.

Mae'r ddogfennaeth yn cynnwys:

Bydd y dogfennau ar gael ar y wefan www.flintshire.gov.uk/LDP ac fel copïau caled yn Swyddfeydd a llyfrgelloedd y Cyngor yn ystod oriau agor arferol.  Bydd arddangosfa yn Neuadd y Sir drwy gydol y cyfnod ymgynghori ac yn y lleoliadau canlynol, yn ystod oriau agor arferol:

Neuadd y Sir, Y Brif Dderbynfa – rhwng 28/10/16 a 09/12/16

Llyfrgell Bwcle, yr Oriel i fyny’r Grisiau – rhwng 28/10/16 a 18/11/16

Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy – rhwng 28/10/16 a 18/11/16

Llyfrgell Treffynnon – rhwng 28/10/16 a 18/11/16

Llyfrgell Brychdyn – rhwng 18/11/16 a 09/12/16

Llyfrgell y Fflint – rhwng 18/11/16 a 09/12/16

Llyfrgell yr Wyddgrug – rhwng 18/11/16 a 09/12/16

Mae hwn yn gam pwysig wrth baratoi'r Cynllun, ac yn rhan o'n ymgysylltiad parhaus ac ymgynghoriad ar y Cynllun, rydym am glywed eich barn am y lefel o dwf sydd yn briodol ar gyfer y Sir yn eich barn chi, a sut y dylai’r twf gael ei ddosbarthu ar draws y Sir. Gallwch gyflwyno sylwadau:

•      Drwy anfon e-bost i developmentplans@flintshire.gov.uk

•      Drwy lawrlwytho neu argraffu'r ffurflen sylwadau a'i dychwelyd

•      Drwy ysgrifennu llythyr

Bydd sylwadau sy'n codi o'r ymgynghoriad yn cael eu hadrodd i Grŵp Strategaeth Cynllunio'r Cyngor a bydd yn llywio’r gwaith o baratoi Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun.  Bydd crynodeb o'r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y digwyddiad ymgynghori ac ymatebion iddynt ar gael ar y wefan maes o law.

Gellir cyfeirio unrhyw ymholiadau at linell gymorth y CDLl, 01352 703213, neu drwy ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost uchod.

Strategaeth A Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo) acordion

Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Ei Archwilio gan y Cyhoedd)

Mae’r Cyngor wedi cynhyrchu dogfen Strategaeth a Ffefrir ar gyfer CDLl Sir y Fflint. Mae’r ddogfen Strategaeth a Ffefrir yn amlinellu gweledigaeth y Cynllun, materion ac amcanion, lefel twf dewisedig a strategaeth ofodol ddewisedig. Mae’n nodi dau Safle Strategol a Pholisïau Strategol.