Alert Section

Newidiadau i Faterion sy'n Codi - Ymgynghoriad


Yn dilyn y Sesiynau Gwrandawiad a gynhaliwyd fel rhan o'r archwiliad cyhoeddus i CDLl Sir y Fflint, mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal ymgynghoriad ar y Newidiadau i'r Materion sy'n Codi (NMC). Cynhaliwyd y sesiynau gwrandawiad gan Sian Worden Arolygydd Cynllunio Arweiniol a Claire MacFarlane Arolygydd Cynorthwyol, a benodwyd gan Weinidogion Cymru. Yn codi o’r sesiynau gwrandawiad oedd cyfres o Newidiadau i’r Materion sy’n Codi a drafodwyd mewn sesiwn gwrandawiad pellach a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2021. Cytunwyd ar y Newidiadau i’r Materion sy’n Codi gyda’r Arolygydd, neu yn achos ANMC a fwriadwyd gan yr Arolygydd, ac mae’r newidiadau hyn yn ofynnol i wneud y Cynllun yn gadarn.

Gellir gweld y Rhestr o NMC a dogfennau ategol yn Swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu yn ystod oriau agor arferol a llyfrgelloedd yn ystod oriau agor arferol.

Mae’r dogfennau ymgynghori NMC yn cynnwys y canlynol:

Dylid darllen y NMC ar y cyd â’r dogfennau a ganlyn:

Mae’r rhestr o Newidiadau i’r Materion sy’n Codi wedi ei rhannu yn ddwy ran:

  • y NMCau sy’n newidiadau o sylwedd sy'n effeithio ar weithrediad y cynllun megis geiriad polisi, testun esboniadol neu fapiau cynigion. 
  • y Newidiadau Materion sy'n Codi dan arweiniad Arolygydd sy’n ymwneud yn unig â dileu’r elfen dai ar Safle Strategol Neuadd Warren STR3B.  

Mae’r mân newidiadau golygu nad ydynt yn effeithio ar sylwedd y Cynllun wedi’u cyflwyno er gwybodaeth yn unig ac ni wahoddir sylwadau. Dylid pwysleisio y dylai sylwadau ar y cam hwn o archwilio’r cynllun ymwneud yn unig â’r NMC ac archwiliad o’r newidiadau i’r materion (ANMC) sy’n codi ac ni ddylent geisio ychwanegu at sylwadau blaenorol neu gyflwyno gwrthwynebiadau newydd i’r cynllun.

Rhaid i bob sylw nodi’r NMC neu’r ANMC neu ddogfen atodol y mae’n ymwneud â hi a nodi’n glir os cefnogir neu wrthwynebir y NMC neu’r ANMC, a chynnwys esboniad a rhesymeg briodol, gan gynnwys sut dylid newid y cynllun i’w wneud yn gadarn.

Mae’r ymgynghoriad ar y NMCau am gyfnod o 6 wythnos. Mae’r cyfnod ymgynghori yn dechrau ddydd Gwener 17 Mehefin ac yn dod i ben am 5.00pm Dydd Gwener 29 Gorffennaf 2022.  Gellir cyflwyno sylwadau drwy’r dulliau canlynol:

  • trwy lawrlwytho’r ffurflen sylwadau (dogfen word ) a’i hanfon ar e-bost i developmentplans@flintshire.gov.uk neu bostio i’r cyfeiriad isod
  • trwy e-bostio developmentplans@flintshire.gov.uk
  • trwy ysgrifennu at Andrew Farrow, Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NB.

Bydd sylwadau a wnaed yn briodol ar y NMCau yn cael eu hanfon at yr Arolygwyr i’w hystyried. Bydd hyn yn cynorthwyo’r Arolygydd wrth gwblhau ei hadroddiad ysgrifenedig ar Archwilio’r CDLl i'w archwilio gan y Cyhoedd. Bydd sylwadau ac enwau’r rhai sy’n gwneud sylwadau yn cael eu cyhoeddi ond bydd gwybodaeth bersonol bellach yn cael ei golygu. Mae Hysbysiad Preifatrwydd Archwiliad CDLl ar gael yn.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn cysylltwch â’r tîm CDLl ar 01352 703213 neu developmentplans@flintshire.gov.uk.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r Archwiliad o’r CDLl dylid cyfeirio’r rhain at y Swyddog Rhaglen ar 07582 310364 neu kerry.trueman@flintshire.gov.uk