Gall unrhyw un sydd wedi gwneud sylwadau ysgrifenedig ofyn i siarad yn y Pwyllgor ond dim ond un person allwn ni ganiatáu i siarad o blaid (yr ymgeisydd neu'r asiant fel arfer) ac un arall yn erbyn y cynnig. Gall gynrychiolydd Cyngor Tref/Cymuned hefyd gofrestru i siarad.
Os fydd cais yr ydych wedi gwneud sylwadau ysgrifenedig arno yn cael ei benderfynu gan y Pwyllgor (yn hytrach na phenderfyniad dirprwyedig), byddwn yn cysylltu â chi unwaith fydd dyddiad y pwyllgor yn hysbys, gan roi cyfle i chi gofrestru i siarad. Dylid derbyn ceisiadau erbyn y dyddiad yn y llythyr hysbysu, sydd fel arfer 48 awr cyn y pwyllgor a bydd eich manylion cais yn cael eu cofnodi ar gronfa ddata.
Pan gewch eich hysbysu o ddyddiad y pwyllgor ac os hoffech gofrestru i siarad yn y pwyllgor, cysylltwch â ni trwy e-bost planning.committee@flintshire.gov.uk . Bydd gofyn i chi ddarparu eich enw, rhif ffôn yn ystod y dydd, cyfeiriad e-bost, pa gais yr ydych yn dymuno siarad arno ac os ydych yn cefnogi neu’n gwrthwynebu’r cais (yn unol â’r sylwadau rydych wedi’u gwneud a phwy ydych chi’n ei gynrychioli, e.e. ymgeisydd/asiant, Cyngor Tref/Cymuned neu aelod o’r cyhoedd.
Bydd gan yr ymgeisydd/asiant flaenoriaeth dros eraill sy’n dymuno siarad i gefnogi’r cais. Os fydd nifer o geisiadau i siarad yn erbyn y cais yn cael eu derbyn, byddwn yn cofrestru’r person cyntaf i gysylltu â ni. Fodd bynnag, byddwn yn gofyn i’r person hwnnw os ydynt yn dymuno derbyn manylion cyswllt y partïon eraill sydd wedi gwneud cais i siarad, er mwyn galluogi’r rhai sydd â safbwyntiau tebyg i gytuno ar bwy ddylai siarad.
Pan fydd y rhestr o siaradwyr yn cael ei chreu bydd yr ymgeisydd/asiant (neu’r person cyntaf o blaid) a’r person cyntaf yn erbyn ar y rhestr a fynegodd ddiddordeb, yn cael eu hysbysu o:
- yr argymhelliad
- lle y gellir arolygu’r adroddiad
- trefniadau ar gyfer mynychu’r Pwyllgor
- trefniadau ar gyfer cyflwyno datganiad i’w ddarllen ar eich rhan
- dolen i’r dudalen hon
Os yw’r person cyntaf o blaid neu yn erbyn ar y rhestr yn penderfynu peidio â siarad, cysylltir â’r ail berson ar y rhestr ac yn y blaen.
Bydd y rhaglen a’r adroddiadau ar gael o leiaf tri diwrnod gwaith cyn y cyfarfod trwy ein gwefan.
Bydd unrhyw wybodaeth ychwanegol a dderbynnir ar ôl i’r adroddiadau gael eu hysgrifennu yn cael eu rhannu ag aelodau’r Pwyllgor fel sylwadau hwyr. Rhaid i sylwadau pellach ar y cais gael eu derbyn erbyn 12pm ar y dydd Llun cyn cyfarfod y Pwyllgor. Ni fydd sylwadau a dderbynnir ar ôl y terfyn amser hwn yn cael eu cynnwys yn y wybodaeth sylwadau hwyr a rennir gydag Aelodau’r Pwyllgor cyn y cyfarfod a byddent ond yn cael eu hadrodd ar lafar yn y cyfarfod gyda chytundeb y Cadeirydd/Is-gadeirydd.