Mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol (LPA) yn rhan o'r cyngor sydd yn penderfynu ar geisiadau ar gyfer datblygu a materion eraill cysylltiedig â chynllunio, yn cynnwys gweinyddu polisïau a deddfwriaeth mewn perthynas â gwarchod coed.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau sydd yn ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin am weithdrefnau cadwraeth coed.
Gwarchod Coed: Canllawiau Gweithdrefnau Gwarchod Coed
Gorchmynion Diogelu Coed
Gorchmynion Cadwraeth Coed Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweinyddu tua 380 o Orchmynion Cadwraeth Coed (TPO). Gall un TPO warchod un goeden neu nifer o goed, yn dibynnu ar y dynodiad a ddefnyddir. Mae yna bedwar dynodiad all arenwi coed yn Unigol, fel Grwpiau, Ardaloedd neu Goetiroedd.
Oni bai ei fod wedi ei esemptio, mae TPO yn gwahardd torri, dadwreiddio, tocio, lopio, difrodi bwriadol neu ddifetha coeden heb ganiatâd yr LPA. Fel arfer coed o fewn yr amgylchedd adeiledig sydd yn wynebu’r risg mwyaf o gael eu torri, ac felly mae’r rhan fwyaf o’r TPO yn cael eu rhoi mewn ardaloedd trefol.
O dan Adrannau 197 i 201 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn ei rôl fel Awdurdod Cynllunio Lleol, mae gan y cyngor y pŵer i wneud Gorchmynion Diogelu Coed (TPO) lle bydd yn hwylus i wneud hynny er budd amwynder.
Asesiad a Hwylustod Amwynder
Mater goddrychol yw asesu amwynder coeden, ac felly mae Awdurdodau Cynllunio Lleol yn cael eu hannog i ddefnyddio crebwyll wrth benderfynu a ddylid diogelu coeden neu beidio. Dylid rhoi Gorchmynion Diogelu Coed dim ond os byddai cael gwared â choeden yn cael effaith negyddol sylweddol ar yr amgylchedd lleol a’r pleser i’r cyhoedd.
Bydd y ffactorau sy’n dylanwadu ar amwynder coeden yn dibynnu ar ba mor weladwy yw’r goeden a’i chyd-destun yn y tirlun, yn ogystal â maint a ffurf y goeden, ei hoed a’i chyflwr. Rhai ffactorau eraill a allai effeithio ar amwynder coeden fyddai pa mor brin yw’r goeden, ei gwerth hanesyddol neu ddiwylliannol a’i phwysigrwydd o safbwynt gwarchod natur.
Yn ogystal ag asesu amwynder, dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol hefyd ystyried a fyddai’n hwylus i wneud Gorchymyn Diogelu Coed. Er enghraifft, lle bydd coed o dan reolaeth goedyddiaeth neu goedwrol dda, mae’n annhebygol y bydd angen Gorchymyn Diogelu Coed. Ar ben hynny, fel arfer, ni fydd coed na ystyrir eu bod mewn perygl o gael eu torri i lawr neu eu dinistrio mewn ffordd arall yn gymwys am Orchymyn Diogelu Coed oni bai eu bod yn enghreifftiau eithriadol.
Mae’r Cynllun Coed a Choetir Trefol wedi cael ei fabwysiadu gan Gyngor Sir y Fflint ac mae’n hyrwyddo rheoli coed mewn ffordd gynaliadwy drwy holl adrannau’r cyngor, fel rhan o darged i gynyddu’r brigdwf trefol i 18% erbyn 2033. Oherwydd hyn, ni fydd coed sy’n tyfu ar dir y mae Cyngor Sir y Fflint yn berchen arno, neu’n gyfrifol am ei gynnal, fel arfer yn destun Gorchymyn Diogelu Coed.
Mae Adran 197 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Cynllunio Lleol (yn hytrach na phŵer yn unig) i roi Gorchmynion Diogelu Coed yn ôl yr hyn a dybir sy’n angenrheidiol mewn perthynas â rhoi caniatâd cynllunio. Nid yw hyn yn syndod gan fod coed sydd ar dir y bwriedir ei ddefnyddio ar gyfer datblygiad fel arfer mewn mwy o berygl o gael eu torri, eu difetha neu eu dinistrio na choed mewn mannau eraill. Am y rheswm uchod, rhoddir blaenoriaeth i’r gwaith asesu a, lle y bo’n briodol, y gwaith diogelu gyda choed sydd ar safleoedd y bwriedir eu defnyddio ar gyfer datblygiad.
Ceisiadau am Orchmynion Diogelu Coed
Os hoffech chi gynnig y dylid gwneud coeden (neu grwpiau o goed a choetir) yn destun Gorchymyn Diogelu Coed, gallwch anfon e-bost neu ysgrifennu at Tîm Coed. Dylech nodi’n eglur y rhesymau pam y credwch chi y dylai’r goeden gael ei diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed a dylech roi cynllun neu ddisgrifiad manwl i ddangos pa goeden sydd gennych dan sylw. Gallai llun o’r goeden o olygfan gyhoeddus gynorthwyo gyda’r gwaith asesu amwynder. Nid yw’n debygol y byddai coed sydd ddim yn cynnig amwynder cyhoeddus sylweddol yn gymwys i gael eu diogelu.
Wrth bwyso a mesur a ddylai coeden gael ei diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed neu beidio, bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn cadw at y canllawiau uchod. Ni all yr Awdurdod ganiatáu ceisiadau am Orchmynion Diogelu Coed gwamal neu flinderus gan y byddai hyn yn arwain at benderfyniadau anghyson.
Gallwch wirio a yw coeden eisoes wedi’i diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed neu a yw hi o fewn ardal gadwraeth benodedig drwy edrych ar dudalennau gwe’r cyngor sy’n sôn am goed:
Gallwch wneud cais ar-lein ar Borth Cynllunio Cymru neu gallwch lawrlwytho ffurflen a nodiadau cyfarwyddyd
Ardaloedd Cadwraeth
Mae gan Sir y Fflint 32 Ardal Cadwraeth sydd yn bennaf yn cynnwys canol trefi hanesyddol neu bentrefi.
Yn ogystal â darparu mesurau rheoli sydd yn gwahardd mwy o ddatblygu, mae Ardaloedd Cadwraeth hefyd yn rhoi gwarchodaeth i goed. Yn ddibynnol ar esemptiadau penodol, mae torri, lopio neu docio, dadwreiddio, difrodi neu ddifetha coed yn fwriadol yn drosedd heb roi rhybudd ysgrifenedig o chwe wythnos i’r LPA. Mae’r cyfnod rhybudd o chwe wythnos yn rhoi cyfle i’r LPA roi TPO pan ystyrir bod angen gwneud hynny er mwyn diogelu’r amwynder a roddir i ardal gan goeden. Pan roddir TPO, mae'n gwahardd y gwaith a ddisgrifir yn y rhybudd rhag mynd rhagddo.
Oherwydd bod Gorchmynion Cadwraeth Coed ac Ardaloedd Cadwraeth yn rhoi gwarchodaeth i goed er lles amwynder cyhoeddus, bydd y cyngor, yn unol ag ymarfer gorau, fel arfer yn cyhoeddi gwaith ar goed sydd yn cynnwys torri. Wrth benderfynu ar geisiadau TPO a rhybuddion Ardal Cadwraeth bydd yr LPA yn ystyried y canllawiau cenedlaethol perthnasol a pholisïau cynllunio y cyngor ei hun.
Ni chodir fi am wneud cais cynllunio i wneud gwaith ar goed neu goeden sydd yn destun TPO nac i roi rhybudd am wneud gwaith ar goeden o fewn Ardal Gadwraeth.
Gwnewch gais ar-lein ym Mhorth Cynllunio Cymru neu Lawrlwytho ffurflen a nodiadau canllawiau.
Amodau cynllunio
Mae amodau cynllunio yn amodau a atodir i ganiatâd cynllunio neu sydd yn rhagnodi agweddau o’r datblygiad fydd yn cael eu gwneud yn unol â gofynion yr LPA. Yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth, ni fydd yr LPA fel arfer yn dibynnu ar amodau cynllunio er mwyn sicrhau gwarchodaeth hirdymor i goed sydd yn deilwng o warchodaeth gan TPO. Bydd yr LPA yn gorfodi gwarchodaeth byr dymor i goed drwy amodau cynllunio, ac felly dylai unigolyn sydd yn bwriadu gwneud gwaith ar goeden ar ddatblygiad sydd wedi ei gwblhau yn ystod y pum mlynedd olaf gysylltu â Swyddog Coedwigaeth y Cyngor ymlaen llaw.
E-bost. stuart.body@flintshire.gov.uk Ffôn. 01267 224923
Arweiniad ar Gwblhau Cais i Gyngor Sir y Fflint am Wneud Gwaith ar Goed Wedi'i Diogelu
Mesurau rheoli eraill
O dan Deddf Coedwigaeth 1967 (fel y'i diwygiwyd) cyfyngir ar swm y coed sydd yn tyfu y gellir eu torri o fewn pob chwarter blwyddyn heb Drwydded Torri Coed. Mae’r mesurau rheoli yma yn cael eu gweinyddu gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Mae tir penodol hefyd yn cael ei ddynodi gan Gyfoeth Naturiol Cymru oherwydd ei bwysigrwydd naturiol neu ddiwylliannol (e.e. Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig) a gallai gweithgareddau coedwigaeth arfaethedig allai effeithio ar y safleoedd yma fod angen asesiad gan y corff yma.
Hefyd, wrth wneud gwaith ar goed, mae’n rhaid cymryd camau rhesymol er mwyn gwirio am rywogaethau gwarchodedig (e.e. Adar, ystlumod, moch daear).