Alert Section

Seremonïau


Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth gyffredinol i chi am yr amrywiol leoliadau gwych sydd ar gael yn Sir y Fflint.  Mae hefyd yn cynnwys manylion y seremonïau eraill y gall y Gwasanaeth Cofrestru eu darparu.  

Mae gwybodaeth a ffurflenni ar gael ar-lein hefyd i berchnogion eiddo sydd am wneud cais am drwydded i gynnal seremonïau.

Adnewyddu addunedau

Gall cyplau adnewyddu’u haddunedau i ddathlu eu haddunedau gwreiddiol, y blynyddoedd y maent wedi’u treulio gyda’i gilydd ac i adnewyddu’u hymrwymiad i’w gilydd, gan wneud hynny mewn modd unigryw a phersonol.

Mae nifer gynyddol o gyplau’n dewis adnewyddu’u haddunedau.  I rai, mae’n gyfle unigryw i ddathlu  pen-blwydd arbennnig.  I eraill, mae’n helpu i gadarnhau eu hymrwymiad i’w gilydd.  I lawer, mae’n ddatganiad personol o’u cariad tuag at ei gilydd.

Cysylltir y seremoni’n aml, ond nid o reidrwydd, â phen-blwydd priodas neu bartneriaeth sifil arbennig.  Gall ddigwydd cyn cynnal parti neu ddathliad.  Gall adnewyddu’ch addunedau fod yn briodol i unrhyw gwbl, waeth pa mor hir y maent wedi bod gyda’i gilydd.  Gall fod yn arbennig o berthnasol i’r rhai sydd wedi bod trwy gyfnod ansefydlog, pan fu’n berthynas dan straen, er mwyn dathlu’u cariad a’u hymrwymiad newydd.  Os yw cyplau’n priodi dramor, yn aml iawn, ni fydd llawer o’u teuluoedd a’u ffrindiau gyda nhw.  Pan fyddant yn dychwelyd adref, mae’n bosibl y byddant  am drefnu rhyw fath o seremoni i ddathlu yng nghwmni’u teuluoedd a’u ffrindiau.  Gall seremoni adnewyddu addunedau yn Sir y Fflint fod yn briodol ac yn achlysur i’w fwynhau dan unrhyw un o’r amgylchiadau hyn.

Pa wybodaeth fydd ei hangen?

Er nad oes dim goblygiadau cyfreithiol i’r seremoni, mae’n ddatganiad cyhoeddus gan gwpl o’u cariad a’u hymrwymiad i’w gilydd.  Bydd angen i chi ddangos eich tystysgrif priodas pan fyddwch yn trefnu’r seremoni.

I bwy maen nhw?

Gall unrhyw gwpl drefnu seremoni i adnewyddu’u haddunedau.  Gall y cwpl fod o unrhyw oed a does dim ots ers faint y maent yn briod.  Does dim rhaid i chi fod yn byw yn yr ardal lle’r ydych am gynnal y seremoni. 

Beth sy’n digwydd  yn y seremoni?

Mae modd trefnu gwahanol fathau o seremonïau. Gall seremoni adnewyddu addunedau gynnwys unrhyw rai o’r canlynol, neu bob un ohonynt:

  • Cyflwyniad a chroeso
  • Cydnabod unrhyw blant
  • Darlleniadauo Barddoniaeth
  • Adnewyddu addunedau
  • Ailgysegru’r fodrwy neu’r modrwyau
  • Cyflwyno modrwy(au) neu anrheg(ion) newyddo Negeseuon gan westeion a fu yn y seremoni wreiddiol (y gwas, y forwyn neu dad y briodferch er enghraifft)
  • Cerddoriaeth arbennig
  • Llofnodi tystysgrifau coffa a sylwadau i gloi

Ble y gellir cynnal y seremonïau hyn?

Mae modd cynnal y seremonïau mewn amrywiol o leoliadau a gymeradwywyd gan Gyngor Sir y Fflint.  Gall dyddiadau ac amseroedd y seremonïau amrywio’n ôl y lleoliad a dylai cyplau gysylltu â’r Swyddfa Gofrestru i holi ynglŷn â hyn.

Beth yw’r gost?

Bydd y tâl yn amrywio’n ôl y lleoliad ac ar ba ddiwrnod o’r wythnos y byddwch yn cynnal y seremoni.

Trefnu’r seremoni

Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu i adnewyddu’ch addunedau ac os hoffech ragor o fanylion, ffoniwch ni ar 01352 703333 neu llenwch ffurflen ymholi.

Tystysgrifau

Cewch dystysgrif goffa fel rhan o’r seremoni.

Seremonïau enwi plentyn

Gall seremoni groesawu fod yn ffordd arbennig o ddathlu genedigaeth plentyn a’i groesawu i’r teulu a’r gymuned ehangach.  Mae hefyd yn gyfle i ddatgan, gerbron teulu a ffrindiau, eich bod yn addo bod yn rhiant da ac i’ch perthnasau a’ch ffrindiau gadarnhau’u perthynas arbennig â’ch plentyn.  Gellir trefnu seremoni enwi i blant o bob oed, nid dim ond babanod, a gallwch gynnwys plant hŷn hefyd.  Mae seremoni groesawu, ym mhob ystyr, yn achlysur arbennig i bawb wrth iddynt gynnig eu cariad i’ch plentyn ac addunedu i’w gynorthwyo wrth iddo dyfu.   

Dewis lleoliad
Mae modd cynnal seremoni enwi plentyn mewn amrywiaeth o leoliadau a gymeradwywyd gan Gyngor Sir y Fflint.

Trefnu’r seremoni
Bydd Gweinydd a benodwyd ac a hyfforddwyd gan Gyngor Sir y Fflint yn cynnal y seremoni.  Er nad oes goblygiadau cyfreithiol i’r seremoni, bydd angen dangos tystysgrif geni’r plentyn pan fyddwch yn trefnu’r seremoni.  Os hoffech drefnu seremoni enwi plentyn neu os hoffech ragor o fanylion, ffoniwch ni ar 01352 703333 neu llenwch ffurflen ymholi.

Tystysgrifau
Rhoddir dwy dystysgrif goffaol i’r rhieni fel rhan o’r seremoni.

Lleoliadau
I gynnal seremoni mewn lleoliad yn Sir y Fflint, rhaid i’r Cyngor Sir fod wedi’i gymeradwyo