Alert Section

Dywedwch Wrthym Unwaith


Pan fo rhywun wedi marw, mae nifer o bethau sydd angen eu gwneud, ar amser pan nad ydych yn teimlo o gwbl fel eu gwneud. Un o'r rhain yw cysylltu ag adrannau llywodraeth a gwasanaethau cyngor lleol sydd angen gwybod.

Pan fo rhywun wedi marw, mae angen cofrestru'r farwolaeth gyda'r Cofrestrydd.  Ar ôl gwneud hynny, efallai y bydd angen cysylltu â nifer o sefydliadau eraill a rhoi'r un wybodaeth iddynt.  Bydd y Gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith yn eich helpu i roi gwybod i Adrannau eraill o'r Llywodraeth fel yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), Gwasanaethau Trethiant Personol a Phasports.  Rhoddir gwybod i Wasanaethau Cyngor Lleol hefyd e.e. Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, Budd-daliadau, Bathodynnau Glas, Llyfrgelloedd, Etholiadol. 

Efallai y bydd Cyngor Sir y Fflint yn rhoi gwybod hefyd i adrannau eraill yn yr Awdurdod Lleol sydd ddim yn rhan o'r cytundeb gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith / Awdurdod Lleol.  Mae hyn yn cynnwys meysydd gwasanaeth eraill yn y Cyngor sydd angen diweddaru eu cofnodion.  

Rydym yn cynnig gwasanaeth 'Dywedwch Wrthym Unwaith' y gobeithiwn a fydd yn gwneud pethau'n haws i chi. Dim ond i chi ddweud wrthym ni a byddwn ni'n cysylltu â'r adrannau llywodraeth a gwasanaethau cyngor sydd angen gwybod fel nad oes rhaid i chi wneud.


Sut mae o'n gweithio?

Pan ydych yn ein ffonio i wneud apwyntiad i gofrestru'r farwolaeth yn y Swyddfa Gofrestru, eglurir y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith a gofynnir i chi os hoffech gymryd rhan ynddo. Os ydych yn dewis gwneud hynny, bydd y Cofrestrydd yn nodi manylion yr ymadawedig ar y gronfa ddata genedlaethol Dywedwch Wrthym Unwaith . Fel arfer mae hyn yn cymryd oddeutu bum munud ar ddiwedd y cofrestru.

Unwaith y bo'r manylion wedi eu rhoi ar y gronfa ddata genedlaethol, yna gellir cynnal cyfweliad Dywedwch Wrthym Unwaith llawn. Gellir gwneud hyn naill ai wyneb yn wyneb (gyda Chofrestrydd yn Sir y Fflint) neu dros y ffôn ar ddyddiad diweddarach.


Dywedwch Wrthym Unwaith- Ar Lein

https://www.gov.uk/after-a-death/organisations-you-need-to-contact-and-tell-us-once