Alert Section

Trosglwyddo Rhwng Ysgolion neu Ddychwelyd i Addysg Brif Lif

Gallwch wneud cais i drosglwyddo rhwng ysgolion neu ddychwelyd i addysg brif lif ar-lein.

Mae ffurflen ar-lein ar y dudalen hon. Darllenwch yr holl wybodaeth ar y dudalen hon cyn gwneud cais.

Nid yw gwneud cais yn gwarantu trosglwyddiad i ysgol arall


Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol yn Sir y Fflint ar hyn o bryd, bydd yr wybodaeth rydych yn ei rhoi ar y cais hwn, gan gynnwys y rheswm dros wneud cais, yn cael ei rhannu â phennaeth ysgol bresennol eich plentyn yn ogystal â phennaeth/penaethiaid eich dewis/dewisiadau newydd.

Cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi drafod newid ysgol gydag uwch aelod o staff yn ysgol bresennol eich plentyn er mwyn osgoi oediad diangen.


Pethau Pwysig i'w Hystyried

Mae nifer o resymau pam efallai y byddwch yn dymuno newid ysgol eich plentyn yn ystod y flwyddyn academaidd, ond mae’n bwysig eich bod yn ystyried ai trosglwyddo yw’r opsiwn gorau mewn gwirionedd.

Gall newid ysgol gael effaith negyddol ar eich plentyn, megis:

  • amharu ar eu haddysg, y gall effeithio ar eu cynnydd academaidd
  • effaith ar eu hamgylchedd cymdeithasol, eu grwpiau ffrindiau a’u gweithgareddau allgwricwlaidd
  • efallai na fydd lle ar gael i’ch plentyn yn eich ysgol ddewisol, ac os ydych yn gobeithio trosglwyddo brodyr ac/neu chwiorydd hefyd, efallai na fyddant i gyd yn cael cynnig yr un ysgol
  • bydd y nifer o gymwysterau y gall eich plentyn eu cyflawni ym mlwyddyn 10 a 11 yn cael eu heffeithio os nad oes gan yr ysgol newydd yr un opsiynau academaidd ar gael. Bydd angen i chi ystyried y goblygiadau posibl o’ch plentyn yn peidio â gallu parhau i astudio’r un pynciau neu ddewisiadau pwnc, a’u gwaith cwrs presennol ddim yn gymwys i gorff arholi arall

Gall newid ysgol hefyd gael effaith ar gymhwysedd eich plentyn i gael cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol.

Oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol er enghraifft ar ôl symud tŷ, fe'ch cynghorir yn gryf i weithio gydag ysgol bresennol eich plentyn yn hytrach na throsglwyddo.

Efallai y bydd siarad â'ch plentyn a staff yn ysgol bresennol eich plentyn yn osgoi'r angen am drosglwyddiad


Symud i Sir y Fflint

Mae rhai ysgolion yn Sir y Fflint eisoes yn llawn ac nid yw symud mewn i ardal yn golygu y bydd lle ar gael yn yr ysgol agosaf. E-bostiwch admissions@siryfflint.gov.uk i gael y wybodaeth ddiweddaraf am leoedd mewn ysgolion.

Cyn i chi wneud cais, rydym ni’n argymell eich bod yn taro golwg ar wefan yr ysgol i ddysgu mwy, yn cynnwys strwythur y diwrnod ysgol, beth yw’r gofynion o ran gwisg a’r pynciau sydd ar gael. Rydym ni hefyd yn argymell eich bod yn darllen Canllaw i Addysg Sir y Fflint.

Rydym ni’n llenwi Ffurflen Gwybodaeth am y Disgybl ar gyfer pob cais yn ystod y flwyddyn. Mae yna ddwy ran i’r ffurflen hon - caiff Rhan A ei llenwi gan yr ymgeisydd a Swyddog Derbyniadau dros y ffôn i ganfod y manylion am y trosglwyddiad, a chaiff Rhan B ei hanfon i ysgol bresennol neu ysgol flaenorol eich plentyn er mwyn iddynt ei llenwi a’i dychwelyd atom. Ni allwn brosesu eich cais nes y byddwn yn derbyn y ffurflen hon yn ôl gan yr ysgol. Mae hyn yn helpu i sicrhau trosglwyddiad esmwyth i’w hysgol newydd.


Pan fyddwch chi'n cael penderfyniad

Trosglwyddiadau Ysgol Gynradd

Dylech gael penderfyniad drwy e-bost o fewn 15 diwrnod ysgol neu 28 diwrnod gwaith (pa un bynnag sydd gynharaf).

Trosglwyddiadau Ysgol Uwchradd

Dylai'r awdurdod neu'ch dewis ysgol gysylltu â chi o fewn 15 diwrnod ysgol neu 28 diwrnod gwaith (pa un bynnag sydd gynharaf).

Efallai y cewch eich gwahodd i gael trafodaeth yn yr ysgol. Nid cyfweliad fyddai hwn.

Gwneud Cais Ar-lein