Gellir ei ganfod yn ein Canllaw i'r Gwasanaethau Addysg ac maent wedi'u rhestru isod.
Bydd pob disgybl yn cael ei dderbyn os nad yw'r Nifer Derbyn wedi ei gyrraedd. Fodd bynnag, os yw'r Nifer Derbyn wedi ei gyrraedd, bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn erbyn y meini prawf gordanysgrifio, a restrir yn nhrefn blaenoriaeth.
Meini Prawf Gordanysgrifio
Meini prawf i’w defnyddio gan yr Awdurdod Lleol, yn ôl trefn blaenoriaeth, ar gyfer derbyniadau i Ysgolion Meithrin, Cynradd ac Uwchradd:
- Plant sy'n Derbyn Gofal (plant mewn gofal) a phlant oedd yn arfer derbyn gofal
- disgyblion lle mai’r ysgol a ffefrir yw'r ysgol briodol agosaf i'w cyfeiriad cartref
- c) disgyblion fydd â brawd neu chwaer yn mynychu’r ysgol a ffefrir ar y dyddiad derbyn disgwyliedig. Dim ond ar gyfer y cyfnod addysg statudol, h.y. hyd at Flwyddyn 11, y defnyddir y 'rheol brawd a chwaer'
- disgyblion sydd wedi dewis ysgol wahanol i’r ysgol agosaf i’w cyfeiriad cartref. Ystyrir pellter cartrefi disgyblion o’r ysgol arall honno wrth dderbyn disgyblion, a hynny hyd at y Nifer Derbyn
Gwneud y Penderfyniad
Os oes mwy o ymgeiswyr nag o lefydd yn unrhyw un o’r categorïau uchod, rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n byw agosaf i’r ysgol, gyda’r pellter wedi’i fesur o gyfeiriad cartref y plentyn i brif fynedfa gydnabyddedig yr ysgol.
Os nad yw’r awdurdod yn gallu diwallu dewis(iadau) rhiant, gofynnir i’r rhiant ystyried llefydd sydd ar gael mewn ysgolion eraill.
Lle enwir ysgol mewn Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, mae ar yr awdurdod lleol ddyletswydd i dderbyn y plentyn i’r ysgol honno.