Alert Section

Derbyn i Ddosbarth Derbyn (Medi)

A gafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021?
A fyddan nhw’n 4 oed erbyn 31 Awst, 2025?

Os felly, bydd cyfle i’ch plentyn ddechrau mewn dosbarth derbyn ym Medi 2025.


Erbyn hyn, gallwch wneud cais ar-lein am le yn yr dosbarth derbyn ar gyfer mis Medi 2024.

Bydd angen i chi gofrestru i gael cyfrif er mwyn gwneud cais. Cliciwch isod, yna cliciwch y botwm i greu cyfrif.

Ni fydd y Porth Derbyniadau ar gael o 12:30pm ddydd Llun 30 Medi.

Bydd y porth ar gael eto fore dydd Mawrth.

Gwneud cais am le mewn dosbarth derbyn

Yr amserlen ar gyfer derbyn i’r Dosbarth Derbyn yw

Amserlen ar gyfer derbyniadau Derbyn
Ffurflenni derbyn disgyblion ar gael i’r rhieni:Cyfnod i’r rhieni ystyried:Dyddiad cau ar gyfer llenwi a dychwelyd ffurflenni:Cyfnod pan fydd yr ALI/awdurdod derbyn yn dyrannu lleoedd:Rhoi gwybod i rieni (“Diwrnod Cynnig”)
23/09/24 23/09/24
-
18/11/24
18/11/24 19/11/24
-
24/02/25
16/04/25

Rhaid i bob cais ddod i law erbyn y dyddiad cau.

Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir ar amser, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau.Er bod modd cyflwyno cais ar-lein ar ôl y dyddiad cau, os ydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (24 Chwefror 2025) ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (16 Ebrill 2025).


Rydw i am newid fy newisiadau neu fy nghyfeiriad cartref – beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych chi am wneud unrhyw newidiadau i’ch dewisiadau neu newid eich cyfeiriad cartref oherwydd eich bod yn symud tŷ, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen isod. Sicrhewch fod eich manylion yn cyd-fynd â manylion yr ymgeisydd oherwydd ni fyddwn ni’n gallu gwneud y newidiadau. 

Sylwch – Dim ond os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais ddylech chi ddefnyddio’r ffurflen isod.

Newid fy newisiadau ar gyfer fy nghais/fy nghyfeiriad cartref 

Os ydych chi’n newid eich cyfeiriad, nodwch yr isod:

Tystiolaeth ofynnol

Os ydych chi’n symud i Sir y Fflint neu o fewn y sir a’ch bod yn dymuno i’ch cais fod yn seiliedig ar eich cyfeiriad newydd, mae’n rhaid i chi roi prawf o’r cyfeiriad hwn i ni.

Math o Symud Ty a Thystiolaeth Ofynnol
Math o SymudTystiolaeth

Prynu Eiddo

Pan fyddwch chi wedi symud i mewn, darparwch fil Treth y Cyngor neu fil cyfleustodau diweddar i ni.

Rhentu Eiddo

Pan fyddwch chi wedi symud i mewn, darparwch fil Treth y Cyngor neu fil cyfleustodau diweddar i ni.

Lluoedd Arfog neu Weision y Goron

Gorchymyn penodi neu lythyr swyddogol yn nodi’r dyddiad y byddwch chi’n symud a chyfeiriad post yr uned neu’r ardal gwersyll.

Lloches Trais Domestig

Cadarnhad ysgrifenedig gan staff y lloches eich bod chi’n byw yn y lloches.