Alert Section

Derbyn i Ysgol Uwchradd (Blwyddyn 7)

Os yw eich plentyn ym Mlwyddyn 6 ar hyn o bryd, gallwch wneud cais am le mewn ysgol uwchradd gan ddefnyddio’r ddolen isod.

Bydd angen i chi gofrestru i gael cyfrif er mwyn gwneud cais. Cliciwch isod, yna cliciwch y botwm i greu cyfrif.

Ni fydd y Porth Derbyniadau ar gael o 12:30pm ddydd Llun 30 Medi.

Bydd y porth ar gael eto fore dydd Mawrth.

Gwneud cais am le mewn Ysgol Uwchradd

Darllenwch y Meini Prawf Cymhwyso ar gyfer Cludiant Ysgol hefyd, os gwelwch yn dda.


Yr amserlen ar gyfer derbyn i Flwyddyn 7 yw: 

Amserlen ar gyfer derbyniadau Blwyddyn 7
Ffurflenni derbyn disgyblion ar gael i’r rhieni:Cyfnod i’r rhieni ystyried:Dyddiad cau ar gyfer llenwi a dychwelyd ffurflenni:Cyfnod pan fydd yr ALI/awdurdod derbyn yn dyrannu lleoedd:Rhoi gwybod i rieni (“Diwrnod Cynnig”)
02/09/24 02/09/24
-
04/11/24
04/11/24 05/11/24
-
06/01/25
03/03/25

Rhaid i bob cais ddod i law erbyn y dyddiad cau.

Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir ar amser, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau.Er bod modd cyflwyno cais ar-lein ar ôl y dyddiad cau, os ydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (6 Ionawr 2025) ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (3 Mawrth 2025).


Rydw i am newid fy newisiadau neu fy nghyfeiriad cartref – beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych chi am wneud unrhyw newidiadau i’ch dewisiadau neu newid eich cyfeiriad cartref oherwydd eich bod yn symud tŷ, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen isod. Sicrhewch fod eich manylion yn cyd-fynd â manylion yr ymgeisydd oherwydd ni fyddwn ni’n gallu gwneud y newidiadau. 

Sylwch – Dim ond os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais ddylech chi ddefnyddio’r ffurflen isod.

Newid fy newisiadau ar gyfer fy nghais/fy nghyfeiriad cartref 

Os ydych chi’n newid eich cyfeiriad, nodwch yr isod:

Tystiolaeth ofynnol

Os ydych chi’n symud i Sir y Fflint neu o fewn y sir a’ch bod yn dymuno i’ch cais fod yn seiliedig ar eich cyfeiriad newydd, mae’n rhaid i chi roi prawf o’r cyfeiriad hwn i ni.

Math o Symud Ty a Thystiolaeth Ofynnol
Math o SymudTystiolaeth

Prynu Eiddo

Pan fyddwch chi wedi symud i mewn, darparwch fil Treth y Cyngor neu fil cyfleustodau diweddar i ni.

Rhentu Eiddo

Pan fyddwch chi wedi symud i mewn, darparwch fil Treth y Cyngor neu fil cyfleustodau diweddar i ni.

Lluoedd Arfog neu Weision y Goron

Gorchymyn penodi neu lythyr swyddogol yn nodi’r dyddiad y byddwch chi’n symud a chyfeiriad post yr uned neu’r ardal gwersyll.

Lloches Trais Domestig

Cadarnhad ysgrifenedig gan staff y lloches eich bod chi’n byw yn y lloches.