Alert Section

Grant Cynaliadwyedd 2024 - 2025


Mae’r grant Cynaliadwyedd hwn wedi ei sefydlu i gefnogi darparwyr gofal plant yn Sir y Fflint.

Os bydd cais yn llwyddiannus, caiff y grant ei dalu’n syth i’r darparwr gofal plant.

Cymeradwyir y grantiau gan Bartneriaeth Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Sir y Fflint.

Rwyf yn cadarnhau bod y cais hwn yn cael ei wneud ar y ddealltwriaeth, os bydd yn llwyddiannus, y bydd y lleoliad yn rhwymedig i ddefnyddio'r grant ar gyfer y pwrpas a nodwyd yn y cais hwn yn unig ac yn cytuno i gydymffurfio â’r meini prawf ac amodau a thelerau dyfarnu'r grant.

Sicrhewch fod y dogfennau hyn ar gael gennych i’w hatodi gyda’ch cais cyn mynd ymlaen gyda’r ddolen isod:

  • Copi o’ch Datganiad Banc mwyaf diweddar o’ch holl gyfrifon
  • Copi o’ch cynllun busnes
  • Copi o ddatganiad ariannol eich cyfrifon blynyddol diwethaf
  • Copi o’ch adolygiad ansawdd gofal

Os oes angen cymorth arnoch gyda’r dogfennau a restrir uchod cysylltwch ag un o’r canlynol:-

  • Datblygu Gofal Plant Sir y Fflint
    01352 703930
  • Clybiau Plant Cymru
    01492 536318
  • Blynyddoedd Cynnar Cymru
    01745 530111
  • Mudiad Meithrin
    01970 639639
  • PACEY Cymru
    07734734124
  • Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd
    01352 759367

Gwnewch gais am y Grant Cynaliadwyedd yma

Cyflwynwch gais ar wahân os ydych yn dymuno ymgeisio am fwy nag un adran.

I gael rhagor o gymorth gydag unrhyw gais am grant cysylltwch â ni ar 01352 703930 neu ebostiwch childcaredevelopmentgrants@flintshire.gov.uk