Alert Section

Plant a Phobl Ifanc ag Anghenion Ychwanegol


Fframwaith Polisi ar Gyfer Plant ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) Ebrill

Nod y polisi hwn, a’r dulliau y mae’n ei hybu, yw sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn Sir y Fflint y nodir bod ganddynt anghenion addysgol arbennig yn cael gymaint o gyfleoedd addysgol ag y bo modd. Cyflawnir hyn drwy gynnig addysg berthnasol a buddiol i bob plentyn; addysg a gynllunnir i’w galluogi i gael eu cynnwys yn y gymdeithas y maent yn cyfrannu ati ac yn manteisio ohoni, ac i’w galluogi i gymryd rhan lawn ynddi.

Fframwaith Polisi i Blant ag Anghenion Ychwanegol 

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfraith newydd, Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Y nod yw cael un system mewn perthynas â’r gefnogaeth a roddir i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac yn derbyn addysg a/neu hyfforddiant.

Bydd y wefan hon yn rhoi cyngor a gwybodaeth ar ADY, y system ADY newydd a beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021
Cyhoeddwyd y Cod ADY yn 2021 i gefnogi gweithrediad y Ddeddf newydd. Mae’n darparu canllawiau statudol, clir ar y system ADY ar gyfer awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion, sefydliadau addysg bellach a byrddau iechyd eu dilyn.  Mae’r Cod yn amlinellu’r dyletswyddau ar y cyrff hyn pan ddaw y posibilrwydd fod gan blentyn neu unigolyn ifanc ADY i’w sylw.

Mae’r Cod yn nodi’r ddyletswydd ar ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach i ddynodi Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, sy’n gyfrifol am sicrhau fod anghenion y plant gydag ADY yn cael eu diwallu.  Mae’r rôl yn debyg i rôl flaenorol y Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig. 

Rhaid i holl fyrddau iechyd gael Swyddog Arweiniol Clinigol Addysgol Dynodedig.  Maent yn gyfrifol am gydlynu dyletswyddau’r bwrdd iechyd o dan y system newydd.

Diffiniad o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY):
(1) Mae gan unigolyn anghenion dysgu ychwanegol os yw ef neu hi ag anawsterau dysgu neu anabledd (os yw’r anhawster dysgu neu anabledd yn codi o gyflwr meddygol ai peidio) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. 

(2) Mae gan blentyn o oedran ysgol gorfodol neu unigolyn dros yr oedran hwnnw, anhawster dysgu neu anabledd os yw ef neu hi: 
(a) yn cael llawer mwy o anhawster yn dysgu na mwyafrif y plant o'r un oed, neu (b) gydag anabledd ar gyfer dibenion y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n rhwystro neu’n atal ef neu hi rhag defnyddio’r cyfleusterau ar gyfer addysg neu hyfforddiant a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill yr un oed mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach. 

(3) Mae gan blentyn o dan oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw ef neu hi yn, neu os byddent pe na bai darpariaeth dysgu ychwanegol yn cael ei wneud, yn debygol o fod o fewn isadran (2) pan fyddent o oedran ysgol gorfodol. 

Diffiniad o Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol:
(1) Ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol” ar gyfer unigolyn tair oed neu hyn yw darpariaeth addysgol neu ddarpariaeth hyfforddiant sy'n ychwanegol at yr hyn, neu sy'n wahanol i'r hyn, a wneir yn gyffredinol i eraill sydd o'r un oedran: 
 (a) ysgolion a gynhelir prif ffrwd yng Nghymru,  
(b) sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach yng Nghymru, neu  
(c) llefydd yng Nghymru lle darperir addysg meithrin. 
(2) Mae “darpariaeth ddysgu ychwanegol” ar gyfer plentyn dan dair oed yn golygu darpariaeth addysgol o unrhyw fath.

Ystyried a phenderfynu ar ADY
Bydd anghenion addysgol ac ADY mwyafrif o blant a phobl ifanc yn Sir y Fflint yn cael eu canfod, eu diwallu a’u monitro o fewn ysgolion prif ffrwd neu sefydliadau addysg bellach lleol.  Bydd hyn drwy wahaniaethu a mynediad at strategaethau perthnasol ac ymyraethau a dargedir o fewn cynnig cynhwysol o addysg safon uchel. 

Os daw'r posibilrwydd o ADY i sylw ysgol neu sefydliad addysg bellach, rhaid iddynt ystyried a phenderfynu  os oes gan y plentyn neu berson ifanc ADY, ac angen darpariaeth ddysgu ychwanegol.  Mae gan ysgolion 35 diwrnod i benderfynu ac os cytunir ar ADY, rhaid paratoi Cynllun Datblygu Unigol (CDU).  Mewn achosion lle mae Cyngor Sir y Fflint angen gwneud y penderfyniad, mae terfyn amser o 12 wythnos i benderfynu a pharatoi CDU pan gytunir ar ADY.  Mae’r terfynau amser hyn yn amodol nad oes amgylchiadau eithriadol yn codi a all arwain at oedi.

Os ydych chi’n bryderus am gynnydd eich plentyn ac yn credu bod ganddynt ADY sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol, siaradwch ag athro/athrawes eich plentyn neu’r Cydlynydd ADY yn ysgol eich plentyn.  Gall y plentyn neu berson ifanc hefyd wneud cais eu hunain.

Y Gymraeg
Os yw plentyn neu berson ifanc angen darpariaeth ddysgu ychwanegol trwy’r Gymraeg, rhaid i’r ysgol, sefydliad addysg bellach neu Gyngor Sir y Fflint gymryd holl gamau rhesymol i sicrhau’r ddarpariaeth.  Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i sicrhau’r canlyniadau gorau i holl blant, gan gynnwys y rhai gydag ADY trwy ddarpariaeth addysgol a gwneir pob ymdrech rhesymol  i gynnig gwasanaethau arbenigol ac ymyrraeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynlluniau Datblygu Unigol – Cynllun unedig
Mae gwybodaeth am ADY a darpariaeth ddysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc yn cael ei ysgrifennu i mewn i Gynllun Datblygu Unigol (CDU).  Mae hon yn ddogfen gyfreithiol sy’n disgrifio anghenion yr unigolyn a’r ddarpariaeth sydd ei angen i’w helpu i gyflawni’r canlyniadau gofynnol.

Bydd CDU yn disodli ystod o gynlluniau addysgol sydd eisoes yn eu lle ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n mynychu’r ysgol neu goleg.  Mae’r rhain yn cynnwys Cynlluniau Addysgol Unigol, Datganiadau Addysg Arbennig a Chynlluniau Dysgu a Sgiliau.   Ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, bydd y CDU yn ffurfio rhan o’u Cynllun Addysg Personol.

Bydd CDU mwyafrif y plant a phobl ifanc sydd ag ADY yn cael eu paratoi a’u cadw gan yr ysgol neu sefydliad addysg bellach.  Bydd y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol i ddiwallu mwyafrif o anghenion unigolion yn cael ei fodloni drwy gyllidebau dirprwyedig. 

Mae CDU rhai grwpiau o blant wedi cael eu paratoi a’u cadw gan Gyngor Sir y Fflint.  Mae’r rhain yn cynnwys plant gydag ADY sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol sydd unai’n ‘derbyn gofal’, yn derbyn addysg yn y cartref neu wedi’u cofrestru mewn mwy nac un lleoliad. 

Bydd yr holl CDU yn cael eu hadolygu mewn adolygiad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, o leiaf unwaith y flwyddyn.  Gall gais i gynnal adolygiad yn gynt gael ei wneud gan unrhyw unigolyn perthnasol, gan gynnwys y plentyn, y rheini neu’r unigolyn ifanc.

Arferion sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
Mae’r system ADY yn gosod mwy o ganolbwynt ar roi’r plentyn neu berson ifanc yn ganolog i’r broses wrth gynllunio, canfod eu ADY a phenderfynu ar ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.  Rhaid i awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau addysg bellach ystyried barn, dymuniadau a theimladau plant, eu rhieni neu’r person ifanc. 

Bydd ysgolion, sefydliadau addysg bellach a Chyngor Sir y Fflint yn cydweithio gyda phlant, eu rhieni, neu’r person ifanc wrth benderfynu ar ADY a darpariaeth ddysgu ychwanegol.  Lle bod angen, bydd gwasanaethau perthnasol megis gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd hefyd yn cael eu cynnwys. 

Mae ystod o adnoddau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gall ysgolion a Chyngor Sir y Fflint eu defnyddio i gipio barn, dymuniadau a theimladau.  Mae’r adnoddau hyn yn helpu i gefnogi cyfathrebu, cynllunio a gwneud penderfyniadau.  Gall y wybodaeth a gesglir gan ddefnyddio’r adnoddai hyn, gael eu defnyddio i ddatblygu Proffil Un Dudalen, sy’n cynnwys gwybodaeth bwysig o dan dri pennawd allweddol:
• Beth mae pobl yn ei hoffi a’i edmygu amdana i
• Beth sy'n bwysig i mi, a 
• Y ffordd orau i fy nghefnogi

Bydd adolygiadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn sicrhau fod llais pawb yn cael ei glywed, gan ystyried y wybodaeth berthnasol.  Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r canllaw defnyddiol hwn ar gyfer teuluoedd:
https://llyw.cymru/adolygiadau-syn-canolbwyntio-ar-unigolion-canllawiau-i-deuluoedd

Hawl gyson a chlir ar gyfer apelio
Cydnabyddir weithiau y bydd anghydfodau am benderfyniadau yn codi.  Yn unol â Chod ADY 2021, mae’n bwysig bod y rhain yn cael eu datrys cyn gynted â phosibl.  Os yw plentyn, eu rhieni/gofalwyr neu’r person ifanc yn anghytuno â phenderfyniadau’r ysgol am yr ADY a’r darpariaeth ddysgu ychwanegol, gallent wneud cais i Gyngor Sir y Fflint ailystyried y mater.  Yn dilyn y broses ailystyried, bydd y Cyngor yn gwneud penderfyniad.  Mae ganddynt 7 wythnos i benderfynu, ac os gytunir ar yr ADY, dylent baratoi CDU.  Mae’r terfyn amser yn amodol nad oes amgylchiadau eithriadol yn codi a all arwain at oedi.

Mae gan holl blant, eu rhieni/gofalwyr a phobl ifanc, yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys Addysg yn erbyn penderfyniadau a wneir gan Gyngor Sir y Fflint, neu sefydliad addysg bellach mewn perthynas â’u ADY neu eu darpariaeth ddysgu ychwanegol. 

Pan fydd yr ysgol, sefydliad addysg bellach neu Gyngor Sir y Fflint yn gwneud penderfyniad am ADY, rhoddir llythyr neu daflen gwybodaeth, sy’n egluro sut all plant, eu rhieni neu’r person ifanc ymarfer eu hawliau.

Gall teuluoedd yn Sir y Fflint gael mynediad at Wasanaeth Cefnogi a Gwybodaeth ADY rhanbarthol newydd.  Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu gan SNAP Cymru a bydd yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth ddiduedd ar gyfer plant a’u rhieni neu ofalwyr a phobl ifanc sydd ag/neu sydd o bosibl ag anghenion dysgu ychwanegol.  Mae hyn yn cynnwys datrys anghydfodau ac eiriolaeth ADY ar gyfer plant a phobl ifanc.  Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am SNAP Cymru ar Hafan - SNAP CymruSNAP Cymru.

Plant o dan oedran ysgol gorfodol
Mae gan Gyngor Sir y Fflint Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar.  Mae eu rôl yn cynnwys plant o dan oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgol a gynhelir.  Maent yn gyfrifol am gydlynu ein dyletswyddau fel Cyngor, codi ymwybyddiaeth o ADY, a hyrwyddo canfod anghenion yn gynnar.

Eclipse
Bydd Cyngor Sir y Fflint a’i ysgolion yn defnyddio system TG Eclipse i reoli ei brosesau o dan y system ADY newydd.  Defnyddir Eclipse gan dri awdurdod cymdogol eraill a fydd yn cefnogi dull cyson ar draws y rhanbarth.
  
Symud i’r system newydd 
Mae dull graddol, cam wrth gam i weithredu’r system newydd.  Bydd plant sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA) sydd eisoes yn hysbys, yn trosglwyddo i’r system newydd dros gyfnod o 3 blynedd.  Mae hyn yn cynnwys plant yn Gweithredu gan yr Ysgol, Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy a’r rhai gyda Datganiad AAA.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi amserlen ar gyfer trosglwyddo i’r system newydd y bydd rhaid i ysgolion a’r Cyngor ei weithredu.  Rhan o’r broses yn gyntaf fydd ystyried a phenderfynu os yw plentyn neu berson ifanc yn bodloni’r diffiniad o ADY fel yr amlinellir o fewn y Ddeddf newydd, hynny yw, eu bod angen darpariaeth ddysgu ychwanegol.  Yn dibynnu ar y penderfyniad, bydd llythyr o’r enw Hysbysiad yn cael ei anfon i rieni’r plentyn neu berson ifanc.  Os oes cytundeb fod gan y plentyn/person ifanc ADY, fel y diffinnir o fewn y Ddeddf, bydd Hysbysiad CDU’ yn cael ei anfon.  Os oes penderfyniad nad oes ADY, bydd ‘Hysbysiad Dim CDU’ yn cael ei anfon.

Ôl-16
I bobl ifanc, mae dull trosglwyddo’n cael ei fabwysiadu ac maen nhw’n cael eu symud yn raddol o’r system AAA i’r system ADY fel a ganlyn:

  • Bydd y rhai ym Mlwyddyn 11 yn 2022 i 2023 yn symud i’r system ADY erbyn 31 Awst 2023 
  • Bydd y rhai ym Mlwyddyn 11 yn 2023 i 2024 yn symud i’r system ADY erbyn 31 Awst 2024 

Bydd Deddf Addysg 1996 a Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 yn dal i fod yn berthnasol i bobl ifanc sydd eisoes mewn addysg Ôl-16.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn penderfynu ar ran y bobl ifanc hyn er mwyn eu paratoi ar gyfer pontio i addysg ôl-orfodol.  Y cam cyntaf yw nodi’r canlyniadau a ddymunir gan y person ifanc ac yna canfod rhaglenni astudio addas, sy’n gwrs addysg bellach neu hyfforddiant.

Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc sydd ag ADY yn gallu mynychu coleg/Sefydliad Addysg Bellach lleol. Bydd y Sefydliad Addysg Bellach yn gyfrifol am baratoi a chynnal CDU pan fo angen. 

Mewn nifer fach iawn o achosion, efallai y bydd angen lleoliadau arbenigol. Mae’n ddyletswydd ar Gyngor Sir y Fflint i ystyried rhaglenni astudio mewn Sefydliad Addysg Bellach prif ffrwd yn y lle cyntaf.  Mae’r Cod ADY yn cynnwys manylion y cyfrifoldebau a osodir ar awdurdodau lleol ynghylch lleoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbenigol annibynnol. 

Mae gan berson ifanc hawl i 2 flynedd o addysg bellach neu hyfforddiant. Y tu hwnt i hynny, gall awdurdod lleol benderfynu bod gan berson ifanc anghenion addysg neu hyfforddiant rhesymol o dan amgylchiadau penodol.

Dolenni defnyddiol
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Y Gwasanaeth Seicoleg Addysg

Beth yw seicolegydd addysg?
Rydym yn raddedigion seicoleg gyda phrofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc ac wedi cyflawni cymhwyster proffesiynol pellach fel seicolegwyr addysg. Rydym oll yn siartredig gyda Chymdeithas Seicoleg Prydain, neu'n gymwys i fod yn siartredig. Rydym yn ymwneud â holl agweddau o ddysgu, ymddygiad, a datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant a phobl ifanc.

Beth ydym ni’n ei wneud?
Mae pob seicolegydd addysg yn gweithredu fel seicolegydd penodol ar gyfer nifer o ysgolion a lleoliadau addysg eraill yn Sir y Fflint. Mae rhan fwyaf o’n hamser yn cael ei dreulio yn gweithio gyda nhw ar faterion sydd wedi’u blaenoriaethu ganddynt.

Rydym yn gweithio gyda:
• staff mewn lleoliadau addysg
• rhieni
• personél o asiantaethau cymorth eraill
• swyddogion o fewn y Portffolio Addysg ac Ieuenctid a
• plant a phobl ifanc 

Rydym yn gweithio ar sail ymgynghori, gan helpu oedolion i ganolbwyntio ar ddatrysiadau posibl i’r problemau a phryderon sydd ganddynt o ran y bobl ifanc sydd yn eu gofal. 
Rydym yn gweithio yn uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc yn unigol ac mewn grwpiau: e.e. cynnal arsylliadau ac asesiadau, ymyraethau therapiwtig, helpu pobl ifanc i fynegi eu barn.

Rydym yn darparu hyfforddiant i staff mewn lleoliadau addysg ar agweddau o ddysgu, ymddygiad a datblygiad plant.

Rydym yn rhoi cyngor i’r awdurdod lleol ar bolisïau a mentrau amrywiol a chefnogi'r awdurdod i gyflawni ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau, gan gynnwys asesiadau statudol o blant gydag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae gan rhai aelodau o’n tîm gyfran o’u hamser sydd wedi’i gadw ar gyfer gweithio mewn meysydd arbenigol, megis:
• anawsterau ymddygiad, emosiynol a chymdeithasol
• gwaith y blynyddoedd cynnar
• awtistiaeth.

Beth os yw pethau’n mynd o’i le?
Os ydych chi'n anhapus neu'n bryderus am y gwasanaeth a dderbynioch gennym ni, neu os oes gennych gŵyn:

Cysylltwch â’r seicolegydd addysg sydd ynghlwm.

Os nad yw hyn yn datrys materion i’ch boddhad, cysylltwch â’r Prif Seicolegydd Addysg.

Os nad yw hyn yn datrys materion i’ch boddhad, cysylltwch â’r Uwch-Reolwr Cynhwysiant a Dilyniant
 
Sut i gysylltu â ni
Os hoffech siarad ag aelod o'r gwasanaeth, cysylltwch â ni drwy ffonio, llythyr neu drwy e-bost ar Inclusion@flintshire.gov.uk
 
Gwasanaeth Seicoleg Addysg,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug,
Sir y Fflint,
CH7 6ND
Ffôn: 01352 703916 (Cymraeg & Saesneg)

Saesneg Fel Iaith Ychwanegol

Egwyddorion Allweddol
Pwrpas y gwasanaeth SIY yw uwchraddio sgiliau, cefnogi a chynorthwyo ysgolion i allu bodloni anghenion eu disgyblion SIY yn llwyddiannus, gan alluogi pob disgybl SIY i fodloni eu potensial.  

Mae’r gwasanaeth yn gweithio i sicrhau cam pontio llyfn i’r ysgol ar gyfer plant SIY. Gall hyn gynnwys cysylltu â rhieni a gofalwyr.

Mae monitro a dadansoddi data, a gynhelir mewn partneriaeth gydag ysgolion, yn llunio'r sylfaen ar gyfer system dryloyw, deg a chyfiawn o gefnogaeth i ddisgyblion ac ysgolion o fewn Sir y Fflint. 

Mae’r Gwasanaeth hefyd yn darparu cyngor a hyfforddiant arbenigol, gwybodus a chyfredol. 

Y Weithdrefn Dderbyn
• Yr AALl yw’r awdurdod derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol ac ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol. 

• Yr AALl yw’r pwynt cyswllt cyntaf i rieni. Gallant nodi eu hysgolion dewisol a chaiff lleoedd eu dyrannu yn amodol ar argaeledd. Fodd bynnag, mae nifer o rieni yn cysylltu â’r ysgol leol yn uniongyrchol. 

• Bydd y Pennaeth yn hysbysu’r Ymgynghorydd SIY

• Bydd yr athro/athrawes SIY/ Pennaeth yn trefnu cyfarfod â’r rhieni i gael gwybodaeth gefndirol a hanes addysg blaenorol. Gellir darparu athro/athrawes Pwylaidd o bryd i'w gilydd lle bo angen. Ar gyfer pob iaith arall, bydd yr athro/athrawes SIY yn gallu cynnig darpariaeth drwy  ddefnyddio’r llinell iaith.
 
• Bydd yr athro/athrawes SIY yn ymgymryd ag asesiad cychwynnol, gan gynnwys ymgynghori â'r ysgol i ganfod anghenion ieithyddol. 

Asesiad Cychwynnol a Chynllunio
Mae tri maes allweddol:-

Casglu Gwybodaeth -
Dylid cysylltu â’r ysgolion/rhieni yn y lle cyntaf.  Mae’n rhaid canfod gwybodaeth am oedran, iaith gyntaf, lefel llythrennedd a manylion unrhyw ofynion arbennig/SIY y disgybl.  

Penderfynu ar Gamau Gweithredu –
Dylid gwneud trefniadau ar gyfer cyflwyno'r disgybl gan ymgynghori ag athrawon dosbarth/pynciau.  Byddai hyn yn cynnwys asesiad, eu gosod yn y grŵp blwyddyn priodol a darparu gwybodaeth mewn perthynas â chefndir, diwylliant ac iaith i'r staff perthnasol. Gall yr athro/athrawes SIY ddarparu syniadau a strategaethau ymarferol i gefnogi'r disgyblion yn y dosbarth.  

Darparu targedau ieithyddol unigol –
Gall asesiad cychwynnol nodi targedau ieithyddol addas er mwyn i’r ysgol a’r gwasanaeth SIY allu gweithio tuag atynt.  Dylid trafod y targedau â’r athrawon dosbarth.  Dylid llunio strategaethau yn unol ag anghenion, diddordebau a gallu’r disgybl gan gymryd galw’r cwricwlwm i ystyriaeth. 

Dyrannu Cymorth
Caiff datblygiad ieithyddol ei fonitro gan ddefnyddio camau ieithyddol A-E Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC).

Rhoir blaenoriaeth ar gyfer cymorth i ddisgyblion ar Lefel A - Newydd i'r Saesneg LlCC a Lefel B - Caffael Cynnar LlCC, a disgyblion gyda sgôr darllen safonol o <85. 

Rhoir ychydig o gymorth hefyd i Lefel C - Datblygu Cymhwysedd yn arbennig yn yr ysgol uwchradd. 
 
Mae disgyblion sy’n cyrraedd yr ysgol uwchradd ym mlynyddoedd 10 ac 11 yn ymofyn cymorth sylweddol i gael mynediad ar y cwricwlwm. 

Darperir cymorth gan gynorthwyydd addysgu pan fo clystyrau sylweddol o ddisgyblion SIY. 

Mae Cymorth Dwyieithog (Pwylaidd) yn brin, a chaiff ei ddyrannu yn ôl blaenoriaeth yr anghenion.  Bydd disgyblion sy'n dechrau'r ysgol ym Mlynyddoedd 5 i 11 yn elwa o gael strategaethau dwyieithog i'w galluogi i gael mynediad at y cwricwlwm. 

Mae gan bob ysgol fynediad at athro/athrawes SIY Arbenigol sy'n gallu darparu cymorth, cefnogaeth a hyfforddiant i ysgolion. 
 
Monitro Cynnydd - Dysgu a Lles
Cyflawnir hyn drwy

Asesiad LlCC blynyddol ym mis Rhagfyr.

Prawf Cenedlaethol a data Dangosydd Pwnc Craidd

Asesiadau anffurfiol parhaus yn ystod y cyfnod dysgu

Monitro lles emosiynol yn ystod y cyfnod cyswllt.

Dylid trafod unrhyw bryderon mewn perthynas â chynnydd â'r athro/athrawes dosbarth / pwnc i gytuno ar ffordd ymlaen.   Mae’n bosibl bod y disgybl yn cael anawsterau â'u hiaith gartref. Mae'n bosibl mai canlyniad y drafodaeth fydd trafod y pryderon â'r Cydlynydd Anghenion Ychwanegol. Dylid sicrhau bod y rhieni yn cael bod yn rhan o hyn ac yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf. 


Asesiad 
Amserlen yr Asesiadau

Asesiad Cychwynnol - Cwblheir asesiad cychwynnol ar ddisgybl newydd pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol. 

Asesiad LlCC Blynyddol o Gaffael Iaith (A-E). - Cwblheir yr asesiad hwn ym mis Tachwedd gan gymedroli'n fewnol ac ar draws y wlad ym mis Rhagfyr.  

Cysylltu
Lle bo'n bosibl, cysylltu'n rheolaidd â'r athro/athrawes dosbarth/pwnc i gael trosolwg o gynnydd o fewn y cwricwlwm. 

Os yw disgybl yn mynegi unrhyw bryderon am eu bywyd a/neu ddysgu o fewn y sefyllfa ddysgu grŵp bychan, mae'n hanfodol eu bod yn cysylltu â'r athro/athrawes perthnasol mewn perthynas â hyn. Gellir cynghori disgyblion hŷn, yn ddibynnol ar lefelau ieithyddol, ynglŷn â beth i'w wneud.

Gall y Gwasanaeth gefnogi ysgolion i alluogi cysylltiad agos â rhieni.

Gellir darparu hyfforddiant ar ddefnyddio'r Gwasanaeth Dehongli dros y Ffôn. Gellir darparu cyfieithwyr Pwylaidd, os caiff hyn ei gytuno gan yr ymgynghorydd SIY.

Cynigir Hyfforddiant Datblygu Dysgu i staff o leiaf unwaith y flwyddyn a gellir cael mynediad ato drwy'r Ymgynghorydd SIY. 

Taflen SIY

Cysylltiadau

Ymgynghorydd SIY
Lisa J Davies  
Ebost:  Lisa.j.davies@flintshire.gov.uk
Ffôn Cymraeg: 01267 224923
Ffôn Saesneg: 01352 703912

Gweinyddwraig
Jennifer Bain
Ebost:  jennifer.bain@flintshire.gov.uk
Ffôn: 01352 703916 (Cymraeg & Saesneg)

Gwasanaeth Cymorth Cynhwysiant

Nod y Gwasanaeth yw gofalu bod holl blant ac ieuenctid Sir y Fflint yn cael gofal priodol, a’u bod yn elwa’n llawn o’r cyfleoedd addysgol sydd ar gael (yn cynnwys addysg heblaw’r hyn a ddarperir mewn ysgolion), er mwyn iddynt wireddu eu llawn botensial. Mae’r Gwasanaeth yn cynnig cymorth lles graenus a phroffesiynol i bobl ifanc, eu rhieni, eu teuluoedd a’u hysgolion.

Mae’r Gwasanaeth Lles Cynhwysiant yn rhan annatod o Wasanaeth  Cynhwysiant a Dilyniant Cyngor Sir y Fflint.

Y Gwasanaeth a ddarperir
Mae’r Gwasanaeth Lles Cynhwysiant yn rhan o’r modd y mae’r Awdurdod yn ymateb yn llawn a hyblyg i anghenion lles plant y sir.

Yn ôl Deddf Addysg 1996  mae gan y Gwasanaeth ddyletswydd i gloriannu lles plant a’u teuluoedd, ’. Y nod yw ymyrryd yn gynnar yn y dydd, o ran rhieni ac ysgolion, i atal plant rhag dioddef yn sgil ystod eang o broblemau addysgol a chymdeithasol. Mae’r Gwasanaeth yn cydweithio gydag asiantaethau eraill er mwyn amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cael eu cam-drin.

Mae swyddfeydd y Gwasanaeth yn yr ysgolion uwchradd – oddi yno maent yn gwasanaethu’r ysgolion cynradd  sydd o fewn clwster yr ysgolion uwchradd, yn ogystal â phlant y dalgylch sy’n mynd i ysgolion arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Mae staff yr ysgolion a gweithwyr asiantaethau eraill yn cyfeirio disgyblion at y Gwasanaeth, ac mae modd i’r disgyblion, neu eu rhieni, hefyd wneud hynny’n uniongyrchol.

Cymorth i'r Ysgol Gyfan
Mae’r Gwasanaeth yn cynnig:
1. Cymorth, arweiniad a gwasanaeth ymgynghorol (trwy gyfrwng arweiniad a pholisïau’r Awdurdod Lleol a’r Cynulliad) ynglyn â sut i wella presenoldeb yn yr ysgolion, prydlondeb a chynhwysiant. 
2. Cynorthwyo’r ysgolion i feithrin ethos sy’n rhoi pwyslais ar bresenoldeb rhagorol, a datblygu disgyblion i’w llawn potensial.
3. Cydweithio gydag ysgolion ac asiantaethau eraill er mwyn hybu lles y plant.
4. Cynorthwyo a chynghori ysgolion i weithredu eu polisïau disgyblu.
5. Cynorthwyo ysgolion i weithredu Cytundebau Ysgol/Cartref.

Cymorth i unigolion, a gwaith uniongyrchol gyda rhieni a disgyblion
Dyletswydd rhieni yw gofalu bod eu plant yn cael eu haddysgu. Rôl y Gwasanaeth yw eu cynnal o ran lles eu plant, a’u presenoldeb yn yr ysgol. Dyma’r meysydd y mae gwaith y Gwasanaeth yn eu cwmpasu:

Gweithio’n uniongyrchol gyda rhieni a disgyblion er mwyn datrys problemau a all arwain at absenoldeb
Pan fydd strategaethau’r ysgol i wella presenoldeb wedi methu, mae modd i’r Gwasanaeth gynghori a chynorthwyo rhieni er mwyn datrys problemau personol neu gymdeithasol – boed yn y cartref neu yn yr ysgol – a allai arwain at, neu waethygu, anfodlonrwydd disgybl neu absenoldeb. Rhaid cael caniatâd y rhieni cyn i’r gwasanaeth ddechrau gweithio gyda disgybl.

Mae nifer o bethau y gallwn ei wneud: ymweliadau cartref, trefnu cyfarfodydd rhwng y rhieni, y plant a’r staff addysgu, cymorth unigol i rieni a disgyblion, a’u galluogi i fanteisio ar gymorth priodol asiantaethau a gwasanaethau eraill.

Bydd y Gwasanaeth yn dwyn achos llys fel rhan o’r broses, yn hytrach na phan fydd popeth arall yn methu. Gwneir hynny ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, ac oherwydd pryder a fynegir gan Gwasanaeth. Y nod yw gofalu bod disgyblion mewn cyflwr addas i ddysgu, ac yn barod i dderbyn yr addysg a gynigir iddynt. Cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol yw dwyn achos llys (Ysgrifennydd y Sir a’r Gwasanaeth).

Disgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig – cynnal staff yr ysgol, rhieni a disgyblion o ran adnabod trafferthion ymddygiad yn gynnar ac/neu ei reoli.

Gwahardd Disgyblion 
Cynorthwyo staff yr ysgolion, y rhieni a’r disgyblion, a gwasanaethau cefnogi’r Awdurdod Lleol i atal plant rhag cael eu gwahardd

Gofalu bod staff yr ysgolion, y rhieni a’r disgyblion, a’r llywodraethwyr yn gyfarwydd â’u dyletswyddau, eu hawliau a’u cyfrifoldebau pan fo ysgol naill ai’n ystyried neu wrthi’n gwahardd disgybl

Cynorthwyo o ran darparu addysg dros dro sydd, yn nhyb yr Awdurdod Lleol, yn rhesymol, a gofalu bod disgyblion a waharddwyd yn cael addysg sefydlog cyn gynted ag y bo modd

Bwlio – cefnogi ysgolion, rhieni a disgyblion (boed y dioddefwr neu’r drwgweithredwr).

Plant sy’n cael eu haddysgu gan yr   Awdurdod Lleol mewn lle heblaw’r ysgol
Cynghori a chynorthwyo ysgolion, rhieni, disgyblion a’r Awdurdod Lleol ynglyn ag asesu a darparu ar gyfer disgyblion na ellir eu haddysgu mewn ysgol prif ffrwd am reswm penodol, megis:eu bod wedi’u gwahardd yn gwrthod mynd i’r ysgol / ffobia salwch angen asesiad cyn eu rhoi mewn ysgol

Cynorthwyo rhieni, tiwtoriaid cartref, ysgolion a swyddogion yr Awdurdod Lleol er mwyn ailgyfannu plant mewn ysgol ar sail llawn amser.

Cynghori, cynorthwyo a chefnogi Plant y Gofelir Amdanynt..

Budd-daliadau Lles. Rhoi cymorth a chyngor ynglyn â:
Budd-daliadau’r Awdurdod Lleol fel cinio ysgol rhad ac am ddim, cludiant, grantiau cynnal a grantiau dillad.
Budd-daliadau Tai, Budd-daliadau Gwladol, a ffynonellau ariannol lleol / elusennol a allai fod o gymorth.

Cyflogi disgyblion
Cynghori disgyblion, rhieni a chyflogwyr ynglyn â cheisio am drwydded os yw disgybl â rhan mewn perfformiadau, a cheisio am drwydded os yw disgybl yn cael ei g/chyflogi.

Ymateb pan wneir honiadau bod disgyblion yn cael eu cyflogi’n anghyfreithlon, a gweithredu’n briodol.

Gwneud ymholiadau pan wneir cais am drwydded metron ym maes plant mewn adloniant.

Gwaith Cymuned Rhyng-asiantaethol
• Bod â rhan mewn gweithgareddau a gydnabyddir gan yr Awdurdod Lleol sy’n hyrwyddo llwyddiant addysgol ac/neu les cymdeithasol ymhlith pobl ifanc, eu rhieni a’u teuluoedd.
• Cyfranogi mewn gweithgorau amlddisgyblaethol a gydnabyddir gan yr Awdurdod Lleol, a hyrwyddo strategaethau sy’n fanteisiol i blant a phobl ifanc, e.e. strategaethau’n ymwneud â gofalwyr ifanc, troseddau ieuenctid, a chamddefnyddio cyffuriau a sylweddau.

Monitro Plant o fewn ac y tu hwnt i ffiniau’r sir
• Mynd ar drywydd plant a theuluoedd yn Sir y Fflint a’r tu hwnt.
• Cynghori a chynorthwyo o ran darparu addysg i newydd ddyfodiaid yn y sir.
• Cynorthwyo o ran rhoi gwybodaeth i Awdurdodau eraill yn ymwneud ag addysg plentyn neu faterion ‘amddiffyn plant’, neu ddosbarthu gwybodaeth a anfonir gan Awdurdodau eraill.

Dyma rhai o gyfrifoldebau statudol y Gwasanaeth:
• Presenoldeb
• Gwahardd Disgyblion
• Amddiffyn Plant
• Plant Cyflogedig

Amddiffyn Plant
• Mae gwaith y Gwasanaeth yn cynnwys dod o hyd i blant sy’n cael cam, plant mewn angen, neu’r rhai sydd mewn perygl cael eu cam-drin.
• Dilyn gweithdrefnau  Amddiffyn Plant Cymru Gyfan a Sir y Fflint, cynorthwyo asiantaethau amddiffyn plant mewn perthynas â phlant sy’n wynebu risg, a mynychu cynadleddau ac adolygiadau achosion penodol.
• Cynghori, cynorthwyo a chefnogi staff ysgolion, rhieni a phlant cyn i’r Gwasanaethau Plant fod â rhan, yn ystod eu hymyrraeth, ac wedi hynny, ac eirioli ar ran y plentyn.
• Darparu hyfforddiant yn ôl y gofyn.

Uwch Swyddog Cymdeithasol Addysg
Delyth Taylor
Ffôn: 07876 790250 (Cymraeg & Saesneg)

Gwasanaeth Gogledd Ddwyrain Cymru Synhwyraidd Cymorth (NEWSSS)

Mae'r Gwasanaeth Gogledd Ddwyrain Cymru Synhwyraidd Cymorth (NEWSSS) yn a ddarpariaeth ranbarthol sy'n cefnogi plant a phobl ifanc gyda gwrandawiad neu golli golwg, eu teuluoedd ac ysgolion ledled Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae'r gwasanaeth ar y cyd yn cael ei arwain gan Gyngor Sir y Fflint: Mae'r tîm yn cynnwys o 1 dysgu cynghorydd, 9 athrawon ymgynghorol, a 4 gweithiwr allgymorth.

Mae'r tîm yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc o enedigaeth i 25 oed.

Hyfforddiant sgiliau arbenigol yn cael ei ddarparu ar gyfer plant a phobl ifanc hynny sydd â cholled sylweddol synhwyraidd.

Gyda chymorth, cyngor ac arweiniad yn cael ei ddarparu ar gyfer teuluoedd, ysgolion ac asiantaethau eraill i ddarparu dull di-dor i ddiwallu anghenion unigolion a nodwyd.

Cysylltiadau
Dysgu Cynghorydd: 
Rachel Ward
Ebost:  rachel.ward@siryfflint.gov.uk
Ffôn Cymraeg: 01267 224923
Ffôn Saesneg: 01352 703911

Gweinyddwraig:
Sian Harper
Ebost: sian.harper@siryfflint.gov.uk
Ffôn Cymraeg/Saesneg: 01352 703917

Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cyfathrebu

Mae'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cyfathrebu ac Iaith yn gweithio gyda disgyblion sydd ag anawsterau lleferydd ac iaith sylweddol mewn nifer o ysgolion cynradd sydd wedi’u targedu.
Yn y tîm hwn, mae athro ymgynghorol a nifer o weithwyr NNEB sydd wedi cael hyfforddiant arbennig. Bydd yr athro ymgynghorol yn gwneud asesiad o oblygiadau addysgol yr anawsterau iaith a lleferydd ac yn darparu cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant i athrawon dosbarth. Mae'r tîm wedi'i leoli yng Cyngor Sir y Fflint, Yr Wyddgrug.
Cymorth Busnes
Jennifer Bain
Ebost: jennifer.bain@flintshire.gov.uk
Ffôn: 01352 703912 (Cymraeg & Saesneg)